English icon English
Minister Rebecca Evans with Sophie Buckley, Pembrokeshire Association of Voluntary Services (PAVS)

Gweinidog yn annog trigolion Sir Benfro i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael i gadw'n gynnes a chadw'n iach

Minister encourages Pembrokeshire residents to make use of support available to keep warm and keep well

Ymwelodd y Gweinidog Cyllid â chanolfan clyd yr Hen Gapel yn Ninbych-y-pysgod ddoe i glywed mwy am sut mae llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol yn cydweithio i gefnogi trigolion sy'n cael trafferth gyda chostau byw.

Mae ymgyrch Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach Sir Benfro yn cysylltu pobl â gwybodaeth a chefnogaeth leol gan gynnwys canolfannau clyd, prydau poeth, gweithgareddau cymunedol, a chyngor yn ymwneud ag ynni, arian a dyledion. Arweinir y rhaglen gan Hwb Cymunedol Sir Benfro mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Penfro (PAVS) ac amrywiaeth o sefydliadau eraill.

Esboniodd Sue Leonard, Prif Swyddog PAVS:

“Mae'r ffaith ein bod wedi gweithio'n agos gyda phartneriaid statudol dros nifer o flynyddoedd ar gamau atal a arweinir gan y gymuned yn golygu bod gennym y seilwaith a'r partneriaethau yn eu lle i ymateb yn gyflym pan fo angen.

Fe wnaeth yr Hwb Cymunedol a'r partneriaid cyflenwi Cadw'n Gynnes, Cadw'n Iach symud yn gyflym iawn i ddarparu un pwynt cyswllt i unrhyw un sydd angen help a chefnogaeth. Mae ein neges yn syml - un alwad, dyna'i gyd. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid cyflenwi a'r rhwydwaith o adeiladau cymunedol sy'n cynnig croeso cynnes am bopeth y maen nhw wedi'i wneud i helpu pobl dros yr ychydig fisoedd diwethaf.”

Mae mwy na 700 o ganolfannau clyd wedi’u sefydlu ledled Cymru y gaeaf hwn, gyda chyllid Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol i adeiladu ar y rhwydweithiau presennol. Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o becyn cymorth ehangach gwerth £1.6bn gan Lywodraeth Cymru  i helpu gyda chostau byw yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n cynnwys rhaglenni cyffredinol i fynd i’r afael â thlodi a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Un o elfennau’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-2024 a basiwyd gan y Senedd yn gynharach yr wythnos hon oedd cefnogaeth i'r cartrefi hynny sy'n wynebu'r pwysau mwyaf. Roedd hyn yn cynnwys £18.8 miliwn pellach i'n Cronfa Cymorth Dewisol er mwyn parhau i ddarparu taliadau cymorth brys i dalu am hanfodion fel rhent a biliau.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid ac Llywodraeth Leol:

“Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ansicr am ba gymorth sydd ar gael i ymweld â chanolfannau fel yr un yma, neu gysylltu â Hyb Cymunedol Sir Benfro ar 01437 723660. Gallant hefyd ffonio Advicelink Cymru i sicrhau nad ydynt yn colli allan ar y gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddo. Rydym yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol i sicrhau bod cefnogaeth ar gael ledled Cymru.”

Cyn cyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn yr wythnos nesaf, ysgrifennodd y Gweinidog lythyr at Jeremy Hunt i awgrymu nifer o gamau ymarferol y gallai'r Canghellor eu cymryd i helpu pobl, gan gynnwys diddymu taliadau sefydlog ar fesuryddion rhagdalu a chynyddu cyfraddau Lwfans Tai Lleol.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid:

“Yn anffodus, rydym yn gwybod mai'r rhai sy'n gallu ei fforddio leiaf sy'n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw. Dyna pam mai cefnogaeth i'r rhai mwyaf bregus oedd wrth wraidd ein cyllideb. A dyna pam rwyf wedi annog y Canghellor i ddefnyddio'r ysgogiadau lles a threthi sydd ar gael iddo i helpu'r rhai sy'n cael trafferth fwyaf gyda chostau ynni, anghenion tai a budd-daliadau lles.”