English icon English
Criccieth Knight School -2

Mwynhewch antur hanesyddol gyda Cadw y Pasg hwn

Enjoy historic adventures with Cadw this Easter

Mae Cadw wedi cyhoeddi ystod o ddigwyddiadau hwyliog i’r teulu sy’n cael eu cynnal ar nifer o’i safleoedd hanesyddol dros benwythnos gŵyl banc y Pasg eleni (8–10 Ebrill 2023).

O helfeydd wyau Pasg mewn abatai canoloesol i arddangosfeydd ymladd gan farchogion mewn cestyll hanesyddol, mae dros 20 o ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar safleoedd Cadw ledled Cymru, gan gynnig adloniant i’r teulu cyfan.

Un o uchafbwyntiau’r penwythnos gŵyl banc prysur fydd y Penwythnos Pasg Canoloesol yng Nghastell Biwmares (8–9 Ebrill), a fydd yn cynnwys arddangosfeydd hanes byw, gyda marchogion yn ymladd, a saethyddiaeth, yn ogystal â gweithgareddau canoloesol eraill gan gynnwys pentref pebyll hanesyddol gyda choginio, masnachu a chrefftau canoloesol.

Ar Sul y Pasg ei hun (9 Ebrill), gall teuluoedd alw heibio i fwy na 10 o henebion trawiadol Cadw i gymryd rhan mewn llwybrau a helfeydd wyau Pasg a bydd gwobrau siocled ar gael i’r ymwelwyr ieuengaf.

 Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, Dawn Bowden: “Bydd ein henebion ysblennydd ar agor dros benwythnos y Pasg, gan ddarparu cyfleoedd cyffrous i bobl ddefnyddio penwythnos gŵyl y banc i ddarganfod y gorau o Gymru yn ystod Blwyddyn y Llwybrau. 

“Gyda nifer o’r safleoedd yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau bywiog, gan gynnwys ar Sul y Pasg ei hun, bydd teuluoedd yn gallu cael blas ar eu treftadaeth mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Rydym yn sicr y bydd ein henebion yn bodloni disgwyliadau’r rheini sy’n dod i Gymru i chwilio am hanes eleni”.

O gyfarfod marchogion a sgweieriaid yng Nghastell Harlech i ganfod chwedlau Cymru yng Nghastell Cricieth, dyma 10 o’r ffyrdd gorau y gall teuluoedd brofi gwir naws y Gymru hanesyddol y Pasg hwn. I weld rhestr lawn o ddigwyddiadau tymhorol Cadw ewch i cadw.llyw.cymru.

I’r rheini ohonoch sydd am wneud y mwyaf o’r digwyddiadau sydd ar y gweill, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau, a mynediad digyfyngiad i dros 100 o safleoedd hanesyddol ledled Cymru.

 

Nodiadau i olygyddion

Rhestr ddigwyddiadau:

Dydd Sul, 9 Ebrill

Helfeydd Wyau Pasg ar amrywiol safleoedd Cadw

Bydd prisiau ac amseroedd yn amrywio, gweler www.llyw.cymru/cadw  

 

Gall teuluoedd alw heibio i fwy na 10 o safleoedd Cadw ar Sul y Pasg er mwyn cymryd rhan mewn helfeydd wyau Pasg. Bydd gwobrau Pasg yn cael eu dyfarnu i’r plant cyntaf fydd yn cymryd rhan yn y llwybrau ar bob safle – felly anogir ymwelwyr i gyrraedd yn gynnar!

Mae safleoedd fydd yn cynnal digwyddiadau yn cynnwys: Castell Biwmares, Castell Caerffili, Castell Coch, Castell Rhaglan, Gwaith Haearn Blaenafon, Castell Dinbych, Llys a Chastell Tretŵr, Castell Harlech, Castell Rhuddlan, Castell Talacharn, a Phlas Mawr.

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

 

De Cymru

 

Dydd Sadwrn, 1 Ebrill – Dydd Sul 16 Ebrill

Hwyl y Pasg yng Nghastell Coch

11am – 3pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

 

Ewch draw i Gastell Coch am Basg llawn crefftau hwyliog. Bydd llwybr o amgylch y castell, a chyfle i addurno cardiau, ac i wrando ar Chwedlau Aesop.

Bydd gwobrau Pasg yn cael eu dyfarnu i’r plant cyntaf fydd yn cymryd rhan yn y llwybrau ar bob safle – felly anogir ymwelwyr i gyrraedd yn gynnar. 

 

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth

 

Dydd Sadwrn, 8 Ebrill – Dydd Llun 10 Ebrill

Ymweliad William Marshal ag Abaty Tyndyrn

10am-5pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

 

Mae’r Aelwyd yn gwersylla yn Nhyndyrn, gyda’i gasgliad o grefftau a chymeriadau canoloesol. O filwyr a marchogion i fynachod a chogyddion, bydd yr Aelwyd yn arddangos aelwyd grwydrol a fyddai’n nodweddiadol o dan William Marshal, noddwr a chymwynaswr Abaty Tyndyrn. Cyflwyniad rhyngweithiol i fywyd canoloesol, sy’n addas i bob oed.

 

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

 

Dydd Sadwrn, 8 Ebrill – Dydd Llun 10 Ebrill

Helfa Wyau Pasg yn Llys a Chastell Tretŵr

10am-5pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

Mae angen eich cymorth ar Gladys, iâr Tretŵr: mae un o’i chywion drygionus wedi cuddio ei holl wyau, allwch chi ddod o hyd iddyn nhw drosti, a datgelu enw’r cyw sy’n chwarae triciau? Bydd gwobrau blasus i’r rhai sy’n llwyddo.

Bydd gwobrau Pasg yn cael eu dyfarnu i’r plant cyntaf fydd yn cymryd rhan – felly anogir ymwelwyr i gyrraedd yn gynnar.

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

 

Dydd Sul, 9 Ebrill – Dydd Llun 10 Ebrill

Helfa Wyau Pasg yng Nghastell Talacharn

11am-4pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

 

Ewch i Gastell Talacharn i chwilio am yr wyau Pasg lliwgar sydd wedi eu cuddio, a chewch eich gwobrwyo ag wy siocled.

Sicrhewch eich bod yn cyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. Bydd y 50 plentyn cyntaf sy’n cymryd rhan yn un o’n llwybrau yn cael gwobr Basg am gymryd rhan. Am hwyl!

 

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

Gogledd Cymru

 

Dydd Gwener, 9 Ebrill – Dydd Sul 10 Ebrill

Hwyl y Pasg yng Nghastell Biwmares

10am–5pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

 

Mae digwyddiad Pasg poblogaidd Castell Biwmares yn ôl am benwythnos hwyliog i’r teulu oll.  Mae’r castell yn croesawu marchogion rhyfelgar a fydd yn portreadu bywyd fel ag yr oedd yn ôl yng Nghymru’r oesoedd canol.

Drwy benwythnos y Pasg gall ymwelwyr brofi bywyd canoloesol yng Nghastell Biwmares — gydag ymddangosiadau gan farchogion rhyfelgar, perfformwyr syrcas, cerddorion canoloesol, hebogyddion, a llawer mwy. 

Bydd Helfa Wyau Pasg ar y ddau ddiwrnod, ac yna’r cyfle i gyfarfod â chymeriadau canoloesol, a gwylio arddangosfeydd o grefftau canoloesol.

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

 

Dydd Gwener, 7 Ebrill – Dydd Sul 9 Ebrill

Dod o hyd i’r Cleddyf Aur yng Nghastell Conwy

10am-4pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

Ddydd Gwener y Groglith 1401, tra’r oedd y Saeson yn yr eglwys, sleifiodd Meurig – saer Cymreig y Castell – i mewn gyda gwarchodlu arfog a chymryd y gaer ar ran Owain Glyndŵr. Taflwyd y Cymry allan yn y pen draw, ond nid cyn i Meurig guddio pum cleddyf aur o amgylch y castell, a phob un ohonynt gyda chliw sy’n cyfeirio at leoliad cleddyf aur Owain Glyndŵr …

Ymunwch â ni yng Nghastell Conwy y Pasg hwn er mwyn dilyn llwybr Meurig, datrys dirgelwch y cleddyf aur, a dysgu am warchae Pasg 1401. Bydd pawb sy’n dod o hyd i gleddyf yn llwyddiannus yn mynd â gwobr adref gyda nhw!

 

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

Dydd Sadwrn 8 Ebrill – Dydd Llun 10 Ebrill

Helfa Basg Ganoloesol yng Nghastell Harlech

11am-4pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

Teithiwch yn ôl mewn amser i Gastell Harlech y Pasg hwn i gyfarfod â chymeriadau canoloesol ac ymuno â’r helfa am gyfle i ennill gwobr.

 

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o wybodaeth.

 

Dydd Sadwrn 8 Ebrill – Dydd Sul 9 Ebrill

Hwyl y Pasg yng Nghastell Dinbych

10am-4pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

Gwahoddir teuluoedd i alw heibio i Gastell Dinbych y Pasg hwn gan fod digwyddiad blynyddol Hwyl y Pasg y safle yn ei ôl ar gyfer 2023.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau teuluol hwyliog, gan gynnwys arddangosfeydd adar ysglyfaethus — a sgyrsiau am y rôl yr oedd yr adar yn ei chwarae yng Nghymru’r oesoedd canol. Yn ogystal â hynny, gall ymwelwyr fwynhau Llwybr Pasg ac arddangosfeydd ymladd canoloesol — diolch i grŵp Hanes Byw Teulu’r Tywysogion.

 

Ewch i www.llyw.cymru/cadw am ragor o fanylion.

 

Dydd Sul 9 Ebrill

Hwyl y Pasg yng Nghastell Rhuddlan

11am – 3pm

Prisiau mynediad arferol yn berthnasol 

 

Gwahoddir teuluoedd i alw heibio i Gastell Rhuddlan y Pasg hwn i wrando ar chwedlau lleol yn dod yn fyw gyda cherddoriaeth gan y cerddor a’r awdur, Mair Tomos Ifans.

Sicrhewch eich bod yn cyrraedd yn gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi. Bydd y 100 o blant cyntaf i gymryd rhan yn un o’n llwybrau yn cael gwobr Basg am gymryd rhan. Am hwyl!

Am restr gyflawn o ddigwyddiadau’r Pasg, ewch i www.llyw.cymru/cadw, dewch o hyd i Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwCymru ar Twitter.

 

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gweithio dros warchod amgylchedd hanesyddol hygyrch i Gymru.. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cadw www.llyw.cymru/cadw