English icon English

Penodi cadeirydd newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

New chair appointed to Cwm Taf Morgannwg University Health Board

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod cadeirydd newydd wedi’i benodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Y cyn-Aelod Cynulliad Jonathan Morgan sydd wedi’i ddewis gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, yn ymgeisydd a ffefrir yn dilyn cystadleuaeth agored a theg.

Bydd yn ymgymryd â'r rôl o 1 Ebrill 2023, a hynny am bedair blynedd, yn amodol ar y gwiriadau perthnasol cyn penodi.

Mae gan Mr Morgan brofiad helaeth o weithio yn y sector tai a gofal cymdeithasol.  Mae’n aelod annibynnol o fwrdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ers mis Ionawr 2022.  

Mae’n gyn-Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru a Gogledd Caerdydd a bu’n gadeirydd Pwyllgor Iechyd, Llesiant a Llywodraeth Leol y Cynulliad.

Cynhaliwyd gwrandawiad cyn penodi gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar 2 Mawrth, a chymeradwywyd ei benodi’n gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

"Rwy’n croesawu penodi Jonathan yn gadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

"Rwy’n sicr y bydd yn defnyddio'i brofiad er lles y boblogaeth leol a’r staff. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef wrth inni barhau i wella gwasanaethau iechyd.

"Hoffwn i ddiolch hefyd i Emrys Elias am ei waith fel cadeirydd dros dro ers mis Hydref 2021.  Mae wedi arwain a chefnogi'r sefydliad – yn ystod y cyfnod hwn cafodd y bwrdd iechyd eu gyfeirio i lawr yn llwyddiannus o fesurau arbennig ar gyfer gwasanaethau mamolaeth."

Dywedodd Jonathan Morgan:

"Rwy'n falch iawn o gael ymgymryd â rôl cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad wrth inni geisio adeiladu cymunedau iachach gyda'n gilydd. Fel cadeirydd, fe fydda i’n chwarae rhan ganolog wrth i'r bwrdd iechyd ymgysylltu â chleifion, y cyhoedd , staff, a gwleidyddion i osod trywydd clir ar gyfer gwella ein gwasanaethau ac ymdrin â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.  

"Mae gen i gefndir mewn tai a gofal cymdeithasol ac mae'r partneriaethau yr ydyn ni’n eu ffurfio gyda rhai y tu allan i'r bwrdd iechyd yn bwysig. Un o’r blaenoriaethau fydd gweithio’n agosach gyda'n tri awdurdod lleol ac integreiddio’n gwasanaethau er mwyn gallu cynllunio a darparu gofal yn agosach i'r cartref yn well. Rwy hefyd am ddatblygu ein hagenda iechyd cyhoeddus gyda'n trydydd sector ar draws rhanbarth Cwm Taf Morgannwg.

"Rydyn ni’n ffodus yn y GIG o gael gweithlu hynod hyfforddedig, medrus a chydymdeimladol, sydd gyda’r gorau yn y byd yn fy marn i. Blaenoriaeth hollbwysig fydd sicrhau ein bod yn gweithio gyda nhw i addasu er mwyn gallu diwallu anghenion newidiol ein poblogaeth a helpu pobl i fyw bywydau iachach. Fy mwriad yw arwain bwrdd sy'n gwrando ac yn dysgu fel y gallwn gefnogi ein staff i ddarparu'r gofal y maen nhw'n dymuno’i roi.”