- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
22 Maw 2023
Mae prosiect newydd sy'n anelu at roi cymorth ac annog y rhai ag anableddau cudd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei glodfori a’i groesawu.
Mae gan 'Hyder i Deithio' fideos a phodlediadau ar gyfer pobl ag anableddau er mwyn eu helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’r fideos yn rhoi profiad realistig o’r hyn y gall rhywun ag anabledd cudd ei brofi wrth geisio defnyddio bws neu drên, ac yn dangos pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru, Dyffryn Conwy a Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol Arfordir Gogledd Orllewin Cymru, Tape Music and Film, Creating Enterprise a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sydd â chyfrifoldeb dros drafnidiaeth: “Rydym am i bawb deimlo’n hyderus, yn ddiogel ac yn saff wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy’n eithriadol o hapus bod y fenter newydd hon eisoes yn llwyddo i annog mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy.”
Dywedodd Mel Lawton, Rheolwr Rheilffyrdd Cymunedol TrC, Gogledd Cymru: “Yn TrC, rydym am annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rhan o’r her honno yw deall y rhwystrau y mae rhai pobl yn eu hwynebu. Mae gan lawer o bobl yn ein cymunedau anableddau cudd a phroblemau iechyd meddwl, ac i’r bobl hyn, gall cynllunio taith a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn dasg hynod anodd.
“Nod 'Hyder i Deithio' yw cefnogi pobl sydd â’r pryderon hyn ac mae'r fideos yn nodi'r heriau y maent yn eu hwynebu ond ar yr un pryd, mynd â nhw ar daith ar drafnidiaeth gyhoeddus, gam wrth gam, gan ddangos y cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
“Rydym wedi gweithio gyda sawl sefydliad i roi’r prosiect hwn ar waith ac roedd y cyngor a gawsom gan y rhai ag anableddau cudd yn helpu mawr i'n helpu i gynhyrchu'r fideos hyn.”