English icon English
MR-76

Cadeirydd newydd ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn cael ei chyhoeddi

New Chair for Arts Council of Wales announced

Mae Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi heddiw fod Maggie Russell wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd newydd Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae gan Maggie dros 35 mlynedd o brofiad fel artist proffesiynol, mae hi wedi dal nifer o swyddi uwch gyda BBC Wales, ac mae hi wedi bod yn eiriolwr parhaus dros y celfyddydau yng Nghymru yn ystod y pedwar degawd diwethaf.  

Fel Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru bydd Maggie yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac mae hi’n gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithgareddau’r Cyngor yn cefnogi polisïau strategol ehangach Llywodraeth Cymru.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae Maggie Russell yn gaffaeliad gwych i’r Cyngor, a hoffwn i ei chroesawu hi i’r swydd. Mae hi’n cael ei phenodi ar adeg hollbwysig ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ac rwy’n hyderus y bydd hi’n llwyddiannus wrth gadeirio’r sefydliad yn ystod ei Adolygiad Buddsoddi, sydd eisoes yn mynd rhagddo.”

Dywedodd Maggie Russell:

"Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i fod yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.  Mae'n gyfnod cyffrous a heriol o'n blaenau.  Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi uchelgais a chreadigrwydd y celfyddydau yng Nghymru i wneud gwaith sy'n agored i bob cymuned, cynrychiolydd ein cenedl a bydd hynny'n synnu, ennyn diddordeb ac ysbrydoli."

Mae Maggie Russell yn olynu’r Cadeirydd Blaenorol, Phil George, sydd wedi bod yn y swydd ers 2016.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Hoffwn i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i Phil George sydd, yn ystod ei amser fel Cadeirydd, wedi bod yn ffrind, eiriolwr a hyrwyddwr sector y celfyddydau yng Nghymru, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad. Hoffwn i gydnabod ei ymrwymiad wrth fynd i’r afael â’r her ac arwain y sefydliad drwy gyfnod unigryw ac un o’r cyfnodau mwyaf anodd ers cyn cof.

“Hoffwn i hefyd ddiolch i Is-gadeirydd y Cyngor, Kate Eden, sydd wedi ysgwyddo nifer o ddyletswyddau ychwanegol yn ystod y misoedd diwethaf.”