English icon English

‘Cyllideb nesa peth i ddim’ gan y Canghellor – Llywodraeth Cymru

Chancellor delivered a ‘less than bare minimum Budget’ – Welsh Government

Nid yw Cyllideb Wanwyn y Canghellor yn cyrraedd y nod o ran rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl yn ystod yr argyfwng costau byw, meddai’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans heddiw.

Dywedodd fod y Canghellor wedi gwneud nifer o ddewisiadau bwriadol i flaenoriaethu “petrol a thyllau ffordd” dros fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cyflogau a thwf economaidd.

Ac er bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol heddiw wedi nodi rhagolygon cadarnhaol y bydd chwyddiant yn lleihau erbyn diwedd y flwyddyn hon ar ôl cyrraedd y lefelau uchaf erioed, mae ei dadansoddiad yn dangos y disgwylir i safonau byw syrthio i’w lefelau isaf ers dechrau cadw cofnodion.

Mewn ymateb i’r Gyllideb, a fydd yn rhoi £178 miliwn ychwanegol o gyllid i Gymru dros ddwy flynedd, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Cyllideb nesa peth i ddim a gafwyd heddiw, nad yw’n ystyried y darlun cyfan, a hynny ar adeg pan fo sefyllfa ariannol pobl yn gwaethygu.

“Nid yw wedi cyrraedd y nod o ran darparu cymorth ystyrlon – mae’n cynnig atebion annigonol tymor byr yn lle’r camau gweithredu sylweddol a oedd eu hangen. Mae tyllau ffordd a phetrol wedi cael blaenoriaeth dros godiadau cyflog i athrawon a staff y GIG.

“Mae gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt, yn parhau i wynebu toriadau aruthrol – doedd dim cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na llywodraeth leol.

“Bydd y penderfyniad i gadw’r gwarant pris ynni am dri mis arall yn rhoi peth cysur i bobl yn yr argyfwng costau byw parhaus hwn, a dyma rywbeth rydyn ni wedi bod yn galw amdano yn gyson.

“Rydyn ni hefyd wedi bod yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud y Credyd Cynhwysol yn decach, ac wedi galw ar gwmnïau ynni i roi’r gorau i gosbi pobl sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu. Gwelwyd camau bychain i’r cyfeiriad cywir yn y meysydd hyn.

Ychwanegodd:

“Mae’r Canghellor heddiw wedi gwneud ymrwymiadau mawr a hirdymor ar ofal plant yn Lloegr.

“Rydyn ni eisoes yn ehangu ein cynnig gofal plant fesul cam i blant dwy oed fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

“Fel Cabinet, byddwn yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio’r cyllid canlyniadol o’r cyhoeddiad hwn yn y ffordd orau, i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

“Ond mae angen inni fod yn glir iawn nad yw’r Gyllideb hon yn ddigonol i fynd i’r afael â’r heriau gwirioneddol y mae pobl yn eu hwynebu.

“Roedd gan y Canghellor yr ysgogiadau ariannol a’r gallu i gynnig cymorth cynhwysfawr ac ystyrlon, yn ogystal ag i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cyflog y sector cyhoeddus a thwf economaidd. ’Dyw’r hyn yr ydyn ni wedi’i weld heddiw ddim yn ddigon, yn anffodus.

“Siom hefyd oedd gweld y diffyg buddsoddi penodol yng Nghymru. Mae’r Canghellor wedi methu â manteisio ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn rheilffyrdd, mewn ymchwil ac mewn ynni adnewyddadwy.

“Byddwn yn dadansoddi manylion y cyhoeddiadau sydd wedi’u gwneud heddiw yn ofalus, ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am beth mae hyn yn ei olygu i Gymru yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”

Nodiadau i olygyddion

Cyhoeddir Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog ar Gyllideb y Gwanwyn ar 16 Mawrth.

Bydd y Gweinidog Cyllid yn ateb cwestiynau yn y Senedd ar 22 Mawrth.