English icon English
Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan in NPT.-2

Tair ysgol carbon sero net newydd i’w hadeiladu – a’r disgyblion yn helpu i’w dylunio

Three new net zero carbon schools to be built - with design help from school pupils

Heddiw (ddydd Gwener 24 Mawrth), cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y bydd tair ysgol carbon sero net newydd yn cael eu hadeiladu, un yn y Gogledd, un yn y De-orllewin a thrydedd yn y De-ddwyrain.

Yn rhan o Her Ysgolion Cynaliadwy y Gweinidog gwahoddwyd ceisiadau am brosiectau arloesol a oedd yn dangos cydweithio gyda chymunedau lleol, gan gynnwys disgyblion ysgol, wrth ddylunio, darparu a rheoli'r ysgolion. Yn wreiddiol roedd disgwyl i ddau enillydd gael eu cyhoeddi, ond oherwydd safon uchel y ceisiadau mae'r Gweinidog wedi cytuno ar gyllid ar gyfer tair ysgol gynaliadwy newydd - buddsoddiad o £44.7m ar gyfer y tri phrosiect.

Bydd Ysgol Bontnewydd a’r Ganolfan Gymunedol yn gweithredu’n ddi-garbon, gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o ddau adeilad ar y safle sy’n mynd i gael eu dymchwel, a chael deunyddiau adeiladu o leoliadau sydd mor agos â phosibl at y safle, gan gynnwys pren a gwlân inswleiddio.

Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan yn ysgol gynradd Gymraeg newydd a bydd yn cynnwys uned drochi, gan ddarparu ystod o wasanaethau addysgol a chymunedol a gaiff eu darparu gan y Cyngor, sefydliadau partner a sefydliadau gwirfoddol lleol.

Bydd yr ysgol gynradd newydd i wasanaethu cymuned Glyn-coch yn cynnwys toeau gwyrdd, gerddi glaw a datrysiadau seiliedig ar natur i reoli dŵr wyneb. Bydd hefyd yn creu canolfan addysg, llesiant ac ymgysylltu dinesig o dan un to. Bydd yn cynnig parth dysgu gweithredol i addysgu egwyddorion peirianneg, ecoleg a rheoli tir, gyda rhandir ar y safle.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

"Mae ysgolion yn golygu llawer mwy na brics a mortar. Gall adeiladau sydd wedi eu dylunio'n dda gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gan gefnogi staff a dysgwyr ag addysg, yn ogystal â darparu safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb.

“Mae'r tri phrosiect hyn yn rhai cyffrous iawn ac maent yn batrwm ar gyfer datblygu ysgolion yn y dyfodol. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am gynaliadwyedd, ond hefyd i ddysgwyr gael cyfle i ymwneud â dylunio a chreu’r adeiladau hyn, i siapio'r amgylchedd y byddant yn dysgu ynddo ac i ddeall sut mae penderfyniadau a wneir heddiw yn effeithio ar eu dyfodol.

“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r tri phrosiect yn rhoi cyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr a gwireddu nod y Cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesegol, gwybodus.”