- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
20 Maw 2023
Fel rhan o’n prosiect partneriaeth i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at lwybrau cerdded lleol a helpu i wella eu hiechyd a’u lles, bydd Cerddwyr Cymru yn arwain 6 taith gerdded am ddim i deuluoedd dros hanner tymor y Pasg.
Ddydd Llun 3ydd Ebrill a dydd Mawrth 4ydd Ebrill, bydd y teithiau tywys yn dechrau mewn 4 o’n gorsafoedd, gorsaf drenau y Fflint, Ynys y Barri, Y Bermo a Phorth Tywyn. Bydd y lleoedd yn gyfyngedig i 20, gan gynnwys oedolion a phlant. Fel rhan o'r teithiau antur llawn hwyl hyn i’r teulu, bydd cyfle i oedi a mwynhau’r golygfeydd anhygoel, yn ogystal â chymryd rhan mewn rhai gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan.
Bydd pob plentyn yn cael llyfr gweithgareddau Cerddwyr Cymru yn anrheg a chyfle i'w ddefnyddio ar hyd y llwybr er mwyn darganfod ac adnabod bywyd gwyllt lleol.
Mae'r teithiau cerdded yn dilyn lansiad ein partneriaeth 'Cledrau, clebran, cerdded' sy'n annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau trên lleol i gael mynediad at lwybrau cerdded newydd sy'n addas i deuluoedd sy'n cael eu datblygu gan Gerddwyr Cymru, sy'n dechrau ac yn gorffen mewn gorsafoedd lleol.
Dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Cerddwyr Cymru: “Mae’n wych gweithio gyda TrC i gynnig y teithiau cerdded hyn, maen nhw’n ffordd wych i deuluoedd ddod i adnabod rhannau o’n harfordir hardd.
“Rydym am weld cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru, ac annog ymwelwyr a phobl leol i archwilio a mwynhau profiadau positif yn yr awyr agored ac elwa ar fanteision iechyd a lles a ddaw yn eu sgil, mewn ffordd fwy cynaliadwy.”
I gadw lle am ddim, ewch i:
3ydd Ebrill
Teithiau Cerdded i'r Teulu - Y Fflint 10.00am – 12pm https://FlintRambleAM.eventbrite.co.uk
Teithiau Cerdded i'r Teulu - Y Fflint 2pm-4pm https://FlintRamblePM.eventbrite.co.uk
Teithiau Cerdded i'r Teulu - Ynys y Barri 10.00am – 12.00pm https://BarryIslandRambleAM.eventbrite.co.uk
Teithiau Cerdded i'r Teulu - Ynys y Barri 2pm-4pm https://BarryIslandRamblePM.eventbrite.co.uk
4ydd Ebrill
Teithiau Cerdded i'r Teulu - Y Bermo - 10.15am – 2.00pm https://BarmouthRamble.eventbrite.co.uk
Teithiau Cerdded i'r Teulu - Porth Tywyn - 10.00am – 12.00pm https://BurryPortRamble.eventbrite.co.uk
Nodiadau i olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth cysylltwch â Tim Lewis yn Trafnidiaeth Cymru media@tfw.wales neu Brân Devey bran.devey@ramblers.org.uk / 07383550964 yn Cerddwyr Cymru.
Cerddwyr Cymru yw prif elusen gerdded Cymru sy’n ymroddedig i greu cyfle i bawb fwynhau pleserau cerdded. Rydyn ni'n camu i'r adwy i amddiffyn natur a'r mannau gwyrdd rydyn ni i gyd wrth ein boddau yn eu crwydro. Drwy frwydro dros yr hyn sydd bwysicaf i gerddwyr, rydym wedi ymrwymo i gadw ein cefn gwlad yn agored i bawb – www.ramblers.org.uk/wales