English icon English

Gwobrau Dewi Sant – degawd o ddathlu arwyr bob dydd Cymru

St David Awards – a decade celebrating Wales’ everyday heroes

Mae dau ffrind wnaeth osgoi damwain car ddifrifol trwy feddwl yn gyflym a perchennog gwasanaeth gwallt gosod i gleifion sy'n colli eu gwallt, ymhlith y rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Dewi Sant eleni.

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod pobl sydd wedi gwneud pethau eithriadol.

Mae’r gwobrau eleni'n dathlu pobl sydd wedi’u henwebu gan y cyhoedd mewn naw categori gwahanol, gan gynnwys dewrder, busnes ac ysbryd cymunedol. Bydd gwobr arbennig hefyd yn cael ei rhoi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Wrth gyhoeddi'r rhestr fer, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

"Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i enwebu rhywun am wobr a llongyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 10fed digwyddiad blynyddol Gwobrau Dewi Sant.

"Rwy'n falch o ddathlu 10fed blwyddyn y gwobrau a’r unigolion anhygoel yn ein rownd derfynol eleni, rhai sydd wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol.  Rydyn ni'n ffodus iawn eu bod nhw’n byw yma yng Nghymru."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ar 20 Ebrill 2023.

Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:

Dewrder

Dylan Pritchard Evans a Hari Thomas

Bu i Hari Thomas, 14 oed, a Dylan Pritchard-Evans, 13 oed, o Geredigion osgoi trasiedi ar yr M4 yn Ionawr 2022. Tra'n cael eu gyrru yn ôl o sesiwn hyfforddi academi bêl-droed Abertawe, aeth mam Hari yn anymwybodol wrth olwyn y car ger cyffordd 45 yr M4.  Wrth eistedd ochr yn ochr â'i fam, llwyddodd Hari yn ddewr i afael yn yr olwyn lywio a llywio'r car am dros 1 milltir ar lain galed yr M4 gyda chymorth Dylan a ddywedodd wrtho am roi'r goleuadau rhybudd ymlaen a rhybuddio traffig arall bod problem.

Gary Griffiths a John Stone

Roedd Gary Griffiths a John Stone yn gyrru cerbydau ar wahân a gwelsant ddamwain car ar yr A4232 yng Nghaerdydd ym Mehefin 2022 gan achub y gyrrwr o’r car oedd ar dân. Helpodd eu gweithred ar y cyd i achub bywyd gyrrwr y car oedd wedi ei anafu'n ddifrifol.

 

Busnes

Câr y Môr

Câr y Môr yw'r 'fferm forol adfywiol' gyntaf yng Nghymru. Mae’n fusnes prosesu bwyd môr a chymdeithas budd cymunedol a leolir yn Nhyddewi, Sir Benfro.  Ers ei sefydlu yn 2019, mae'r busnes wedi ehangu o ddau safle treialu bach i fferm wymon a physgod cregyn tair hectar gyda 12 o weithwyr.

Morgan’s Wigs

Mae Morgan’s Wigs, sy'n eiddo i Rebecca Morgan yn wasanaeth gwallt gosod i bobl sy'n colli gwallt oherwydd alopecia, triniaeth gemotherapi a chyflyrau meddygol eraill.  Mae wedi’i leoli ym Mhrestatyn a Chaer.

Rod Parker

Rod Parker yw Rheolwr Gyfarwyddwr Gwalia Healthcare, cwmni gweithgynhyrchu yn Nhrefforest. Rod yw'r drydedd genhedlaeth i reoli'r cwmni. Mae busnes craidd Gwalia yn canolbwyntio ar weithgynhyrchu pecynnu fferyllol gan ddarparu technoleg sy'n atal plant rhag cael mynediad i'r cyffuriau, a gwasanaethau ychwanegol gan gynnwys cydosod dyfeisiau meddygol.

 

Ysbryd y Gymuned

Caroline Bridge

Mae Caroline Bridge, o Blaenau ym Mlaenau Gwent, wedi bod yn swyddog codi arian gwirfoddol ymroddgar i Hosbis y Cymoedd ers dros 30 o flynyddoedd. Amcangyfrifir ei bod yn ystod y cyfnod hwn wedi codi dros £100,000 yn uniongyrchol i'r elusen trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian a chasgliadau.

Mollie Roach

Mae Mollie Roach yn byw yn Sir Benfro a hi yw sylfaenydd elusen gofrestredig Gofal Solfach sy'n cynnig gwasanaeth gwirfoddol i ddarparu cymorth a gofal cymdeithasol i bobl hŷn a theuluoedd.

South Wales Sponsorship for Ukraine

Cafodd y dudalen Facebook 'South Wales Sponsorship for Ukraine' ei sefydlu gan grŵp o wirfoddolwyr ar draws de Cymru ar ôl yr ymosodiad ar Wcráin ym mis Chwefror 2022. Roedd y gwirfoddolwyr am helpu'r pobl o Wcráin i gyrraedd Cymru a chynorthwyo’r teuluoedd oedd yn eu croesawu trwy gynnig cymorth i baru gwesteion o Wcráin gyda theuluoedd.

 

Gweithiwr Hanfodol

Nia Bannister

Nia yw rheolwr Gwasanaeth Allgymorth Iechyd Meddwl Tŷ Canna, sy'n cefnogi cannoedd o unigolion ar draws Caerdydd. Gyda dros 35 mlynedd o brofiad mewn gofal cymdeithasol, mae ei hymrwymiad wedi helpu pobl trwy adferiad i gyrraedd eu potensial. Yn ystod pandemig Covid-19 fe sicrhaodd bod gwasanaethau critigol yn cael eu hailffocysu yn gyflym trwy eu darparu'n rhithwir ar ôl sylweddoli yr effaith a gafodd ynysu cymdeithasol. Helpodd i sefydlu a goruchwylio 40 o grwpiau cefnogi ar-lein/wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynnig cymorth LHDT+ trwy wasanaethau cwnsela.

Tîm Lleihau Niwed yr Huggard

Huggard yw prif ganolfan Cymru ar gyfer pobl sy'n ddigartref ac yn cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd. Daeth pandemig Covid-19 â heriau ychwanegol i bobl sy'n ddigartref, yn enwedig y rhai oedd yn byw gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau. Yn ystod y cyfnod hwn, arhosodd yr Huggard ar agor 24/7, tra'n rheoli risg yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol a chadw pobl yn ddiogel. Cynigiodd y Tîm Lleihau Niwed gymorth a chyngor ymarferol, fel sut i gofrestru gyda meddyg teulu a gwasanaethau triniaethau eraill.  Yn ogystal roeddynt yn cyflenwi, a gwaredu, offer wedi’i ddiheintio ar gyfer defnyddwyr cyffuriau sy'n chwistrellu er mwyn lleihau'r risg ohonynt yn ailddefnyddio neu'n rhannu offer, gan ddarparu cymorth arloesol i leihau niwed.

Muslim Doctors Cymru

Cafodd Muslim Doctors Cymru ei ffurfio ym mis Ionawr 2021, i fynd i'r afael â chamwybodaeth am frechlynnau Covid-19, ymhlith cymunedau o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru a thu hwnt. Cafodd y grŵp ei sefydlu gan grŵp o feddygon o Gaerdydd oedd wedi sylwi ar lefel uchel o bryder ymhlith cymunedau ethnig tuag at y brechlynnau.

Dr Mark Taubert

Mae Mark yn feddyg gofal lliniarol, ac yn gweithio yng Nghanolfan Canser Felindre, Ysbyty Llandochau ac hosbis Holme Towers. Mae hefyd yn gadeirydd y grŵp Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw Cenedlaethol, lle mae wedi trefnu cynrychiolwyr cleifion/gofalwyr ac yn hyrwyddo dewisiadau gwell mewn salwch terfynol.

 

Diwylliant

Dafydd Iwan

Mae Dafydd Iwan yn ganwr gwerin amlwg sydd wedi ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth werin yn yr iaith Gymraeg ers sawl blwyddyn. Bu hefyd yn allweddol yn y gwaith o sefydlu Recordiau Sain Cyf, un o brif labeli cerddoriaeth Cymru. Rhyddhaodd nifer o albymau dros y degawdau diwethaf ac roedd un o'i ganeuon 'Yma o Hyd' yn gysylltiedig ac ymgyrch tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2022.

Oriel Elysium

Mae Jonathan Powell a Daniel Staveley yn rhedeg Oriel a Stiwdios Elysium yn Abertawe ar y cyd. Wedi ei sefydlu yn 2007, cafodd Elysium ei greu er mwyn cefnogi a hyrwyddo'r celfyddydau yn Abertawe a thu hwnt gyda phwyslais ar gydweithio a chymuned.

Jannat Ahmad

Mae Jannat Ahmed o'r Barri ym Mro Morgannwg wedi gwneud cyfraniad sylweddol at gyhoeddi yng Nghymru, gan gyd-sefydlu Lucent Dreaming, cwmni cyhoeddi cynhwysol sy'n gefnogol i gyfranwyr sydd yn hanesyddol wedi'u hesgeuluso gan gyhoeddi traddodiadol, neu wedi'u heithrio o gyhoeddi traddodiadol.

Prosiect Unify

Stiwdio greadigol Gymraeg yw Unify a sefydlwyd ar y cyd gan yr artistiaid gweledol Yusuf Ismail a Shawqi Hasson. Yn gyfrifol am rai o brosiectau celf a diwylliannol pwysicaf y ddinas, cenhadaeth Unify yw gwneud y diwydiant creadigol yng Nghymru yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae Unify yn defnyddio adeiladau yng Nghaerdydd ar gyfer eu murluniau sy'n hyrwyddo cynwysoldeb o fewn chwaraeon ac sydd ers hynny wedi datblygu mentrau addysgol i helpu pobl ifanc i fynegi eu hunain a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Pencampwr yr Amgylchedd

Andy Rowland

Mae Andy Rowland, sydd wedi’i leoli ym Machynlleth, wedi bod yn gweithio'n ddiflino dros y 30 mlynedd diwethaf i warchod amgylchedd Cymru. Mae wedi cysegru ei fywyd i wella'r cymunedau ar gyfer pobl canolbarth Cymru a hyrwyddo economi werdd sy’n datblygu.

Prosiect Maelgi: Cymru

Mae Tîm Prosiect Maelgi: Cymru wedi cynnal ymchwil arloesol i ddeall y boblogaeth maelgwn sydd mewn perygl ar arfordir Cymru yn well. Wedi'i lansio yn 2018, canolbwynt y prosiect yw deall a diogelu'r boblogaeth siarcod prin yn well ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Ynni Adnewyddol Cwm Arian/ Cwm Arian Renewable Energy (CARE)

Cymdeithas er budd cymunedol yw CARE sy'n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro. Ar ôl 13 mlynedd o ymgyrchu, mae CARE wedi llwyddo i godi tyrbin gwynt cymunedol 700KW i gynhyrchu ynni glân ger pentref Hermon ynghyd â nifer o brosiectau eraill fydd o fudd i'r gymuned leol.

 

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

CanSense

Cwmni deillio a ffurfiwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017 yw CanSense.  Mae'r tîm o glinigwyr ymroddedig, brwdfrydig ac angerddol, gwyddonwyr, technolegwyr ac arbenigwyr busnes, yn gweithio ar brofion diagnostig newydd arloesol a mwy cywir ar gyfer canfod canser y coluddyn yn gynnar, sef yr ail brif achos o farwolaethau oherwydd canser.

Dr Charles Willie

Dr Charles Willie yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Diverse Cymru - sefydliad cydraddoldeb ledled Cymru sydd wedi ymrwymo i gael gwared ar wahaniaethu ac anghydraddoldebau. Mae Dr Willie wedi dylunio a datblygu Cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol BAME sydd wedi ennill gwobrau Diverse Cymru - credir mai dyma'r cyntaf o'i fath yn Ewrop. Mae'r Cynllun yn defnyddio adnodd datblygu y gweithle i helpu sefydliadau i ddefnyddio arferion da yn y gweithle, gan sicrhau bod gwasanaethau'n deg ac yn gyfartal i bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Kamal Ali

Dyluniodd Kamal Ali o Gasnewydd y mat gweddi rhyngweithiol cyntaf yn y byd er mwyn helpu plant ac oedolion i ddysgu sut i berfformio’r Salah – y weddi ddyddiol a arferir gan Fwslimiaid. Sefydlodd y cyn-athro y cwmni wedi iddo sylwi ar ei fab yn cael trafferth gyda safleoedd ar gyfer gweddïo.  Crëodd fat gweddi rhyngweithiol sensitif sy'n dysgu y gwahanol safleoedd yn y Salah i blant.

 

Chwaraeon

Liam Davies

Mae Liam Davies yn chwaraewr snwcer 16 oed o Dredegar. Dechreuodd chwarae snwcer pan oedd yn chwech a hanner mlwydd oed.  Ar hyn o bryd mae'n rhif 1 ymhlith dynion Cymru ac yn dal Record y Byd Guinness am fod y chwaraewr ieuengaf i gystadlu mewn twrnament proffesiynol yn 12 oed.

Olivia Breen

Mae Olivia Breen yn 27 oed ac yn athletwr paralympaidd sy'n cystadlu dros Gymru.  Ei phrif champ yw Sbrint T38 a naid hir F38.  Yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022, enillodd fedal aur yn y Naid Hir F38 ac aur yn y T37/38 100m yn 2022.

Tîm pêl-droed Cymru

Llwyddodd tîm pêl-droed Cenedlaethol Cymru, dan arweiniad Robert Page, i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958 trwy drechu Wcráin yn ffeinal y gemau ail gyfle ym mis Mehefin 2002.

 

Person Ifanc

Dafydd Starkey

Mae Dafydd Starkey o'r Rhondda sy'n 18 oed wedi gorfod goresgyn heriau sylweddol yn ei fywyd ifanc. Yn ifanc iawn - heb fod bai arno fe - roedd yn rhaid i Dafydd defnyddio gwasanaethau digartrefedd a symud i lety gyda chymorth dros dro.   Er gwaethaf yr heriau o orfod gofalu am ei hun a chyllidebu i dalu ei gostau byw, mae wedi cwblhau 4 Pwnc Safon Uwch yn llwyddiannus ac wedi cael ei ddewis fel cynrychiolydd Llamau yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Kai Hamilton-Frisby

Mae Kai Hamilton-Frisby yn seren chwaraeon anabl 16 oed o Aberystwyth yng Ngheredigion.  Mae gan Kai barlys yr ymennydd a phan oedd yn saith oed, cafodd lawdriniaeth oedd i fod i gynyddu ei symudedd ond nid oedd yn llwyddiannus ac fe gafodd wybod na fyddai'n gallu cymryd rhan mewn chwaraeon.  Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei gyflwyno i bêl-fasged cadair olwyn. Mae wedi cynrychioli Cymru ddwywaith yn nhîm dan 14, 2018 a 2019, ddwywaith yng Ngemau Ysgolion 2021 a 2022 ac yna cymhwyso ar gyfer tîm hŷn Gemau Pêl-fasged Cadair Olwyn Cymru yn 15 oed.

Skye Neville

Mae Skye Neville yn ymgyrchydd amgylcheddol 12 oed o Fairbourne yng Ngwynedd.  Cafodd sioc o weld faint o deganau plastig oedd wedi'u cynnwys gyda cylchgronau plant, ac fe ddechreuodd ddeiseb i ymgyrchu i atal hyn rhag digwydd. O ganlyniad, nid yw archfarchnad Waitrose bellach yn gwerthu cylchgronau plant sy'n cynnwys teganau plastig.

Zinzi Sibanda

Gofalwr ifanc 17 oed o Gaerdydd yw Zinzi Sibanda. Er gwaethaf yr heriau dyddiol y mae'n eu hwynebu, mae Zinzi wedi cael llwyddiant academaidd ac mae'n awdur a ffotograffydd talentog.