English icon English

Rhaid i’r Canghellor ddefnyddio’i bwerau i helpu pobl i oroesi’r argyfwng costau byw – y Gweinidog Cyllid

Chancellor must use powers to help people through cost-of-living crisis – Finance Minister

Cyn i’r Canghellor gyhoeddi Cyllideb y Gwanwyn yfory [ddydd Mercher 15 Mawrth], mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth y DU gadw’r Warant Pris Ynni o £2,500 a chymryd camau gweithredu pendant, sydd wedi’u targedu. Bydd hyn yn lliniaru’r heriau ariannol cynyddol y mae llawer o bobl a busnesau’n eu hwynebu wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Caiff Cyllideb Wanwyn Llywodraeth y DU ei chyflwyno yng nghanol yr argyfwng costau byw parhaus, gyda chostau ynni a bwyd yn uchel o hyd.

“Mae gan y Canghellor y pwerau i ddefnyddio ei ysgogiadau yn well o ran lles a threth, yn ogystal â mynediad at y pwrs cyhoeddus, i leihau’r heriau y mae cartrefi a busnesau’n eu hwynebu. Rhaid defnyddio hyn ar unwaith i gefnogi’r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed – gan gynnwys camau gweithredu ymarferol i gefnogi pobl gyda chostau ynni, anghenion tai, a budd-daliadau lles. Byddai cadw’r Warant Pris Ynni o £2,500 y tu hwnt i fis Ebrill yn rhan annatod o hyn.

“Mae’n hollbwysig bod y Canghellor yn gweithredu ar gyllid y GIG a’r sector cyhoeddus gan sicrhau bod cyflog gweithwyr y sector cyhoeddus yn dychwelyd i dermau real. Mae’r GIG yn 75 mlwydd oed eleni, sy’n gyfle gwirioneddol i fuddsoddi a diwygio.

“Mae ein cyllideb ein hunain yn werth hyd at £1 biliwn yn llai, mewn termau real, rhwng 2023 a 2024. Felly, mae angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi’n iawn mewn gwasanaethau cyhoeddus i gydnabod yr effaith niweidiol y mae chwyddiant wedi’i gael ar hyd a lled y wlad.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Canghellor ac wedi cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys i bwysleisio’r angen am fuddsoddiad go iawn yng Nghymru, ei phobl, a’i gwasanaethau cyhoeddus – Cyllideb y Gwanwyn yw’r amser i gymryd camau gweithredu ystyrlon.”

Nodiadau i olygyddion

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig amrywiaeth o argymhellion ymarferol i Lywodraeth y DU er mwyn helpu pobl i oroesi’r argyfwng costau byw. Mae’r rhain yn cynnwys cael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer mesuryddion rhagdalu, cynyddu cyfraddau Lwfans Tai Lleol, cynyddu’r cyllid ar gyfer y Taliad Disgresiwn at Gostau Tai   a chynyddu’r cyllid ar gyfer undebau credyd.

Mae hefyd wedi gofyn am welliannau i fudd-daliadau lles, gan gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r terfyn dau blentyn, cyflwyno taliad untro ychwanegol i’r holl bobl sy’n cael budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd, a newidiadau i’r polisi didyniadau o Gredyd Cynhwysol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i Lywodraeth y DU adolygu ei Threth Ffawdelw, gan gau unrhyw fylchau, o ystyried gallu parhaus cwmnïau cynhyrchu ynni i gadw cymaint o’u helw mwyaf erioed. Dylid defnyddio’r adnoddau hyn i wella diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig yn y tymor hir, gan fuddsoddi mewn ynni gwyrdd a chefnogi’r diwydiant dur i ddatgarboneiddio a chymryd camau tuag at ddod ag argyfwng ynni y DU i ben.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gofyn yn gyson am ddatganoli’r seilwaith rheilffyrdd, ochr yn ochr â setliad cyllid teg. Mae’r newyddion yr wythnos ddiwethaf bod oedi i’r unig ran o brosiect HS2 a fyddai wedi cynyddu’r cysylltiad â Chymru, yn ail-gadarnhau bod hwn yn brosiect i Loegr yn unig ac nad yw Cymru’n elwa ohono. Mae rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i adolygu’r broses o gategoreiddio’r buddsoddiad hwn, gwerth £100 biliwn, a rhoi’r gyfran gwerth £5 biliwn o gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru.