English icon English

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Y menywod sy'n goresgyn rhwystrau mewn sectorau lle mae dynion yn tra-arglwyddiaethu, ac sydd bellach yn cefnogi eraill i lwyddo

International Women’s Day: The women overcoming barriers in male-dominated sectors now supporting others to succeed

"Mae'n rhaid i ni gefnogi menywod i gyflawni eu potensial beth bynnag yw eu huchelgeisiau o ran gyrfa."

Dyna eiriau'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, ar y Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hwn wrth iddi danlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

I nodi'r diwrnod gwnaeth y Gweinidog gwrdd â menyw sydd wedi goresgyn rhwystrau yn ei mamwlad yn Uganda i redeg busnes llwyddiannus ac ysbrydoli menywod a merched yn ei chymuned.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae’r Gweinidog hefyd wedi coffáu bywydau dwy Gymraes y cyflwynwyd Placiau Porffor iddynt am eu bod wedi brwydro’n ddiflino i ferched gael astudio meddygaeth, a thros gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru.

Wrth siarad yn ystod digwyddiad yn Nhŷ Portland ym Mae Caerdydd, dywedodd y Gweinidog fod llwyddiant prosiectau dan arweiniad menywod, sy’n rhan o raglen Cymru ac Affrica, yn dangos yn union beth y gellid ei gyflawni gyda'r gefnogaeth iawn. 

Mae Cymru ac Affrica yn ariannu ac yn meithrin prosiectau sy'n cefnogi dysgu, cyfnewid sgiliau, cydweithio a mynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau sy'n cefnogi merched bregus o Uganda i ddychwelyd i fyd addysg, helpu gweddwon a menywod priod i ddechrau cadw gwenyn yng ngogledd Uganda, a phlannu coed i helpu menywod i faes rheoli adnoddau naturiol:

Fe wnaeth Jenipher Sambazi - sydd wedi cael cefnogaeth drwy'r rhaglen - oresgyn rhwystrau yn Uganda, ei mamwlad, i helpu i redeg y brand coffi menter gymdeithasol Jenipher's Coffi, mewn sector lle bu dynion yn tra-arglwyddiaethu ers amser maith.

Yn hanesyddol, yn Uganda mae menywod wedi cael llai o gyfle i gael tir, credyd a chymorth technegol ond mae ffermydd Jenipher nawr yn cynhyrchu coffi o ansawdd uchel, sy'n cael ei dyfu'n organig ac sydd ag ardystiad Masnach Deg.

Wrth gydnabod sut mae Jenipher yn parhau i herio'r bwlch rhwng y rhywiau a helpu  menywod i arwain a llwyddo ar eu telerau eu hunain, dywedodd y Gweinidog:

"Yng Nghymru, byddwn yn dal ati’n wastad i edrych ar beth mae gwledydd eraill yn ei wneud i'n helpu i ddeall ein rôl ein hunain yn y byd yn well, felly mae wedi bod yn fraint siarad gyda Jenipher i glywed sut y mae wedi goresgyn heriau roedd hi'n eu hwynebu. Mae'n ysbrydoliaeth go iawn gweld sut mae'n arwain y ffordd i fenywod a chymunedau. 

"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r newid rydyn ni i gyd eisiau ei weld – Cymru lle mae’r rhywiau’n gydradd."

Dywedodd Jenipher Sambazi, sydd wedi teithio o Uganda i dreulio peth amser yng Nghymru yn ystod Pythefnos Masnach Deg (27 Chwefror - 12 Mawrth): 

"Mae'r gefnogaeth i Masnach Deg gan Lywodraeth Cymru ac eraill wedi caniatáu i mi chwarae rhan lawn yn y gwaith o redeg fy nghwmni coffi cydweithredol. 

"Doedd gwragedd gweddw fel fi byth yn arfer cael llais yn y ffordd y gwerthwyd ein coffi ond rydyn ni nawr yn cael pris gwell a phremiwm Masnach Deg i helpu ein teuluoedd."

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae’r Gweinidog hefyd wedi dathlu bywydau dwy fenyw a frwydrodd yn ddiflino dros gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Ddydd Gwener diwethaf, dadorchuddiodd y Gweinidog Blac Porffor yn Aberhonddu i goffáu bywyd Frances Hoggan, a anwyd ym 1843 ac a wynebodd heriau enfawr i astudio ac arfer meddygaeth fel menyw mewn byd a reolwyd gan ddynion. Hi oedd dim ond yr ail fenyw yn Ewrop i ennill Doethuriaeth Feddygol a hynny’n ddim ond 26 oed.

Dathlodd y Gweinidog fywyd Val Feld hefyd, cyn-wleidydd ac ymgyrchydd dros gydraddoldeb. Hi oedd y fenyw gyntaf yn y DU i gael ei choffáu â phlac porffor er anrhydedd iddi pan osodwyd plac yn y Senedd yn 2018. Roedd Val Feld hefyd yn gyn-gyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru a bu’n ymgyrchu i roi llais i fenywod a grwpiau lleiafrifol gydol ei bywyd gwleidyddol.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Ni anghofiodd Frances ei gwreiddiau erioed ac ymgyrchodd dros addysg i ferched yng Nghymru. Rwy'n siŵr y byddai hi wedi cymeradwyo'r gwaith yr ydym yn ei wneud i annog merched a menywod ifanc i fynd i feysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg - STEM.

“Roedd Val yn eiriolwr dros gydraddoldebau a chyfiawnder cymdeithasol, gan arwain y ffordd i eraill ei ddilyn ei chamau, ac roedd yn bleser gweithio ochr yn ochr â hi.”