English icon English

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddata perfformiad diweddaraf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Welsh Government response to latest NHS Wales performance data

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Er gwaethaf y pwysau cyson ar wasanaethau dros y gaeaf, mae’r darlun cyffredinol ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror yn un o gynnydd yn y rhan fwyaf o feysydd. Rwyf wedi nodi’n glir i arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd fy mod yn disgwyl i’r gwelliannau hyn barhau, a hynny’n gyflymach wrth inni gyrraedd y misoedd cynhesach.

“Mae’n gysur imi weld gwelliannau pellach mewn gofal brys, gyda’r gyfran uchaf o gleifion yn cael eu brysbennu, eu hasesu, a’u rhyddhau o adrannau argyfwng o fewn pedair awr, a’r nifer lleiaf o drosglwyddiadau ambiwlans hir ers mis Medi 2021.

“Dyma’r chweched mis yn olynol y mae perfformiad adrannau argyfwng mawr yng Nghymru wedi bod yn well na’r perfformiad yn Lloegr. Fodd bynnag, gwyddom fod mwy o waith i’w wneud a bod pobl sy’n cael gofal mewn argyfwng neu sy’n aros am wely mewn ysbyty weithiau’n aros am hirach nag y byddem yn ei hoffi.

“Nodaf hefyd yr adroddwyd y perfformiad gorau ar gyfer ambiwlansys ers mis Medi y llynedd, er y straen ychwanegol a deimlwyd ar draws y gwasanaeth iechyd o ganlyniad i weithredu diwydiannol a lefelau uchel o alw.

“Ar gyfer gofal a gynlluniwyd, roedd 576,000 o gleifion unigol ar restrau aros am driniaeth ym mis Ionawr, sy’n ostyngiad am y pedwerydd mis yn olynol, a 1,800 o gleifion yn llai nag ym mis Rhagfyr. Ar gyfer rhestrau aros hirach, gwelwyd lleihad am y pumed mis yn olynol yn y nifer o bobl a oedd yn aros mwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth, ac am y degfed mis yn olynol syrthiodd nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na dwy flynedd.  

“O’i gymharu â’r mis blaenorol, gwelwyd lleihad o bron i 10% yn nifer y llwybrau a oedd yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf, i oddeutu 68,000. Roedd hyn yn lleihad o 34% o’r uchafswm ym mis Awst 2022.

“Rwy’n falch bod 13,429 o gleifion wedi cael gwybod nad oedd canser arnynt. Mae hyn yn gynnydd o 17.5% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Dechreuodd 1,760 o bobl eu triniaeth gyntaf ar ôl diagnosis newydd o ganser ym mis Ionawr. Mae hyn 183 yn fwy nag ym mis Ionawr 2022 a’r chweched uchaf ers dechrau cadw cofnodion.

“Ond nid yw perfformiad ar gyfer canser wedi cyrraedd y nod rwy’n ei ddisgwyl. Roedd cyfran y llwybrau sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr amheuwyd gyntaf fod ganddynt ganser ar ei hisaf erioed. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar leihau’r nifer o bobl sydd eisoes wedi aros mwy na 62 diwrnod i gael archwiliad neu driniaeth.

“Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau canser i ganfod mwy o achosion yn gynnar a darparu mynediad cyflym i archwiliadau, triniaeth a gofal o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys £86m ar gyfer cyfleusterau diagnostig a thriniaeth ar gyfer canser ac i gynyddu nifer y llefydd hyfforddiant, gyda mwy o arbenigwyr i roi diagnosis a thriniaeth canser. Bydd Cynllun Gwella Canser y GIG, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn helpu i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion yn y tymor hir, yn atal canser a’i ganfod yn gynharach, ac yn lleihau amseroedd aros.

“Yr wythnos hon rwyf wedi gofyn i Brif Weithredwr y GIG yng Nghymru sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn rhoi mwy fyth o ffocws ar gyflymu diagnosis a thriniaeth gynnar ar gyfer canser, cyn uwchgynhadledd ganser y Gweinidog yr wythnos nesaf.”

Nodiadau i olygyddion

Mae'r data diweddaraf ar gael yma: Ystadegau ac ymchwil | LLYW.CYMRU