English icon English
Heads of Valleys 5

5 peth i'w wybod am adran 2 prosiect Blaenau'r Cymoedd

5 things to know about section 2 of the Heads of the Valleys project

Mae datblygiad yr A465 yn un o brosiectau seilwaith mwyaf Cymru. Mae Rhan 2, rhwng Gilwern a Brynmawr, yn golygu lledu Ceunant Clydach sy'n safle hynod serth ac amgylcheddol sensitif.

Dyma'r ffeithiau a'r ffigurau sy'n dangos maint y cynllun.

  1. Bydd y datblygiad yn creu ffordd ddeuol am 5 milltir

Bydd hyn o fudd i oddeutu 21,000 o gerbydau sy'n defnyddio'r A465 rhwng Brynmawr a Gilwern.

Mae oddeutu 87% o'r gwaith wedi'i gwblhau, gan gynnwys 2 bont newydd ar gylchfan Glanbaiden a'r bwa concrid yng Ngilwern - y mwyaf o'i fath yn y byd.

Heads of Valleys 1

  1. Mae yr hyn sy'n cyfateb â llond 400 o byllau nofio Olympaidd o ddeunydd wedi'i gloddio

Mae hyn dros 1.3 miliwn o fetrau ciwb.

Mae'r prosiect yn cynnwys saith pont a 12,500 metr o strwythurau cadw. Mae'r prosiect hefyd yn defnyddio 16,400 metr ciwb o goncrid wedi'i gryfhau, 5,000 tunnell o ddur wedi'i gryfhau, 109,000 tunnell o balmant hyblyg, ac mae wedi gosod dros 20 cilomedr o bibelli.

Heads of Valleys 6

  1. Mae 750 tunnell o ddur yn Mhont Porth Jack Williams

Cafodd Pont Porth Jack Williams ei henwi ar ôl arwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn dilyn pleidlais gyhoeddus. Cafodd y gof o Nantyglo Groes Fictoria wedi iddo drechu safle gwn peiriant Almaenig yn Ffrainc ar ei ben ei hun, a dal 15 o elynion. Mae'r bont yn 118 metr ac yn croesi un o ardaloedd amgylcheddol a sensitif yn ecolegol pwysicaf De Cymru.

Heads of Valleys 3

  1. Mae dros 270 o swyddi wedi'u creu

Mae cwmpas y cynllun, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gymhleth iawn, wedi dod ag amrywiol fathau o waith a hyfforddiant i Gymru a'r gymuned leol.

Mae dros 270 o swyddi newydd, 69 o brentisiaethau a 120 o gyfleoedd am brofiad gwaith wedi'u creu. Mae 300 o fentrau mewn ysgolion a cholegau wedi'u cyflawni, ac 171 o ymweliadau  â safleoedd addysgol wedi digwydd.

Mae'r cynllun wedi derbyn statws yr Academi Sgiliau Cenedlaethol gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, ac wedi derbyn Gwobr Arian Gyrfa Cymru yn 2019.

Heads of Valleys 4

  1. Mae dros 30,000 o goed wedi'u plannu

Mae'r coed hyn o fewn ôl troed y cynllun yn helpu i leihau nwyon tŷ gwydr ac yn gwella ansawdd yr aer.

Mae natur wedi elwa o'r prosiect Lliniaru Cornchwiglod, sydd wedi golygu bod tri neu bedwar o barau magu yn dychwelyd i'r safle, a dros 6,850 o dunelli o wydr wedi'i ailgylchu wedi ei fewnforio gan ddarparwr lleol.

Trees