English icon English
Growing Space 2-2

Cyllid gan yr UE yn helpu i wella rhagolygon swyddi i bobl sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir

EU funds helping to grow job prospects for long-term unemployed

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Brexit, heddiw wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £1.3m i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith, rhwystrau sy'n cael eu gwaethygu gan salwch meddwl.

Newyddion Drafft Llywodraeth Cymru
Dydd Llun 23 Rhagfyr

Cyllid gan yr UE yn helpu i wella rhagolygon swyddi i bobl sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir

Mae Jeremy Miles, y Gweinidog Brexit, heddiw wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £1.3m i helpu pobl sy'n wynebu rhwystrau cymhleth rhag cael gwaith, rhwystrau sy'n cael eu gwaethygu gan salwch meddwl.

Bydd Dysgu i Dyfu yn gweithio gyda 300 o oedolion sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl ac sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir, a hynny yn ardaloedd Casnewydd, Sir Fynwy, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Bydd y prosiect yn helpu pobl i feithrin sgiliau newydd cysylltiedig â gwaith drwy weithgareddau ymarferol sy’n ymwneud â garddwriaeth, gwaith coed, TGCh a chrefftau. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ddysgu seiliedig ar waith a fydd yn arwain at achredu sgiliau sy'n berthnasol i swyddi.

Y nod yw gwella llesiant meddyliol a chorfforol drwy annog dull cydweithredol o fynd i'r afael â gweithgareddau amgylcheddol a gweithgareddau dysgu, dull sy'n helpu i ysgogi a darparu trefn arferol bwrpasol, yn ogystal â pharatoi unigolion ar gyfer yr amgylchedd gwaith.

Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd ac mae'n cael £700,000 o gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Dywedodd Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru: "Mae hi’n anodd i bobl y mae salwch meddwl hirdymor wedi effeithio arnynt gadw swyddi oherwydd diffyg sgiliau bywyd a gwaith, a diffyg hyder.

"Bydd Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i feithrin sgiliau gwaith go iawn er mwyn iddynt allu cael gwaith ystyrlon a'i gadw. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i fagu hyder, hunan-barch a chymhelliant, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu unigolion i fynd yn ôl i'r gwaith.

"Mae llawer o fanteision yn deillio o helpu'r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur: grymuso unigolion, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, herio rhagdybiaethau cymdeithasol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, a mynd i'r afael â thlodi a diweithdra mewn cymunedau difreintiedig."

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi: "Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd yn nodi nifer o fesurau i helpu pobl ledled Cymru i gael gwaith. Rwy'n falch bod cyllid Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen Dysgu i Dyfu, a fydd yn hanfodol i helpu unigolion â phroblemau iechyd meddwl i oresgyn rhwystrau a all eu hatal rhag cael gwaith."

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan yr elusen iechyd meddwl, Growing Space.

Dywedodd Bill Upham o Growing Space: "Mae Growing Space wedi ymrwymo'n llwyr i helpu unigolion sydd wrthi'n gwella, yn ogystal â’u teuluoedd. Bydd y prosiect Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth iddynt ymuno â’r gymdeithas eto."

Ers 2007, mae prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu 48,700 o swyddi a 13,400 o fusnesau newydd, gan gynorthwyo 26,900 o fusnesau a helpu 90,000 o bobl i gael gwaith.


Diwedd

Nodiadau i olygyddion

Notes

• The project is part of the Tackling Poverty through Sustainable Employment programme, which aims to support adults who have been long term unemployed and have complex barriers to employment.

• Social prescribing is a way of linking people to community-based, non-clinical support, taking a holistic approach which recognises that people’s health is determined by a range of social, economic and environmental factors.
• Social prescribing links people to community assets, giving them the power to manage their health and well-being.
• The principles of social prescribing are consistent with broader Welsh Government policy and feature in a number of Government commitments. Prosperity for All includes a specific commitment, reiterated in Our Valleys, Our Future; the ministerial taskforce for the Valleys delivery plan; to deliver a pilot to explore how social prescribing can help to treat mental health conditions.
• The Mental health social prescribing pilots are designed to provide an effective trial for what works in relation to social prescribing for mental health. The pilots will build on existing work across Wales to promote social prescribing, to ensure people have access to care and support which truly recognises them as an individual and takes account of the full range of factors which could be affecting their mental health and well-being.
• The two pilots run by Mind Cymru and the British Red Cross have been funded by Welsh Government, the pilots will provide individuals with tailored support plans, and support engagement with community services. The pilots operate in different areas across Wales and have different referral criteria to evaluate the effect of social prescribing on those with differing need.

• They will both be independently evaluated to add to the evidence base and provide valuable evidence about which interventions are most effective so that we can develop models to be used across Wales.

• The Learning to Grow project will work on the principles of social prescribing, and will be delivered by Growing Space with an investment of £0.7m EU funds as part of WEFO Priority Axis 1 - Tackling Poverty through Sustainable Employment, looking to increase employability of Economically Inactive and Long Term Unemployed people aged 25 and over, who have complex barriers to employment.

• Growing Space is supported by Newport City Council, ABUHB, Lottery Community Fund, and Lloyds TSB Foundation.