English icon English

Gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn helpu i greu 20,000 o swyddi

Welsh Government’s Business Wales service helps create 20,000 jobs

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod dros 20,000 o swyddi wedi cael eu creu ers mis Ebrill 2015 gan fentrau sydd wedi derbyn cymorth gan wasanaeth blaengar Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Mae Busnes Cymru yn ei gwneud hi'n haws i ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig Cymreig a hefyd ddarpar entrepreneuriaid o bob oedran i fanteisio ar yr wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnynt er mwyn dechrau a thyfu eu busnesau.

Mae'r gwasanaeth wedi helpu busnesau Cymreig i greu dros 20,000 o swyddi newydd ers mis Ebrill 2015, wedi ymdrin â thros 60,000 o ymholiadau ac wedi cynghori dros 30,000 o entrepreneuriaid unigol a chwmnïau ar draws Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hefyd wedi helpu entrepreneuriaid Cymreig i greu dros 4,000 o fusnesau newydd ar draws Cymru ac mae dros 80 y cant o'r rhain wedi llwyddo i oroesi am o leiaf bedair blynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi entrepreneuriaid ymhob cam o gylch oes busnes, o godi ymwybyddiaeth dros 200,000 o ddisgyblion cynradd ar draws Cymru ynghylch entrepreneuriaeth i greu syniadau, cychwyn busnesau newydd a sicrhau twf cynaliadwy.

Cyhoeddodd Weinidog yr Economi ym mis Tachwedd gynigion a fyddai'n adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru, gan sicrhau bod ei wasanaethau o'r radd flaenaf yn cael eu cynnal a'u datblygu fel y gall hyd yn oed mwy o gwmnïau ac entrepreneuriaid fanteisio arnynt.

Mae hyn yn cynnwys y modd y gall y gwasanaeth helpu busnesau i baratoi ar gyfer economi ar ôl Brexit.

Mae gan Busnes Cymru swyddogaeth gynyddol hollbwysig o safbwynt cynorthwyo cwmnïau i wynebu'r heriau a gaiff eu hamlinellu yng Nghynllun Gweithredu ar yr Economi Llywodraeth Cymru o ran paratoi ar gyfer datblygiadau digidol, gwella cynhyrchiant, sicrhau rhagor o waith teg, datgarboneiddio a hyrwyddo twf cynhwysol.

Dywedodd Ken Skates:

"Dyma newyddion gwych ar drothwy Blwyddyn Newydd, ac mae'n ardderchog fod gwasanaeth Busnes Cymru wedi helpu i greu dros 20,000 o swyddi ers mis Ebrill 2015.

"Mae hyn wedi creu cyfle i 20,000 o bobl weithio, derbyn cyflog, ennill bywoliaeth a sbarduno economi lewyrchus yng Nghymru. Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at y gwaith o helpu entrepreneuriaid a BBaChau yng Nghymru i sicrhau bod hynny'n digwydd. 

"Er bod 92 y cant o gwsmeriaid Busnes Cymru yn dweud y byddent yn argymell y gwasanaeth i ffrind nid ydym yn bodloni ar hynny ac rwyf eisoes yn ystyried sut y gall Busnes Cymru gynnig rhagor o gymorth uniongyrchol i gwmnïau ac entrepreneuriaid dros y blynyddoedd nesaf. 

"Busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn gwbl allweddol i ddyfodol ein heconomi a'r modd y mae cymunedau ar draws Cymru'n gweithredu o ddydd i ddydd. 

"Byddwn yn parhau i gefnogi ein BBaCh a byddwn wrth law i gynnig yr wybodaeth, y cyngor a'r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnynt er mwyn ffynnu."