English icon English

Cryfhau pwerau cynghorau Cymru i brynu tai a thir gwag yn orfodol

Strengthened powers to allow Welsh councils to compulsory purchase empty houses and vacant land

O dan gynnig newydd gan Lywodraeth Cymru, mae’n bosibl y bydd cynghorau yng Nghymru yn cael pwerau cryfach i brynu tir ac adeiladau gwag yn orfodol er mwyn eu defnyddio unwaith eto, pan fo hynny er budd y cyhoedd.

Daw’r newid, sy’n destun ymgynghoriad, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o dai ar dir gwag, gan helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai yn ogystal ag ailddefnyddio eiddo masnachol neu eiddo arall sy’n wag, a helpu i greu cyfleoedd newydd am swyddi mewn cymunedau lleol. 

Amcangyfrifir bod 30,000 o dai gwag yng Nghymru, ond dim ond 7 Awdurdod Cynllunio Lleol sydd â digon o dir yn eu hardaloedd i ddarparu cyflenwad 5 mlynedd ar gyfer datblygiadau tai. 

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod pwerau i brynu’n orfodol yn arf pwysig i Awdurdodau Cynllunio Lleol a chyrff cyhoeddus eraill fel ffordd o gasglu ynghyd y tir sydd ei angen arnynt i helpu i gyflawni newid amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. 

Wrth eu defnyddio yn y ffordd gywir, gallant gyfrannu at adfywio cymunedau yn effeithiol ac yn effeithlon, creu lleoedd a hyrwyddo busnesau, gan arwain at wella ansawdd bywyd. 

Bydd adolygu polisi cynllunio cenedlaethol i gefnogi’r defnydd priodol o bwerau prynu gorfodol hefyd yn rhoi cyfiawnhad ychwanegol i Awdurdodau Cynllunio Lleol weithredu gorchymyn prynu gorfodol. 

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

"Rydyn ni’n gweld tai gwag, eiddo oedd yn arfer cael eu defnyddio’n fasnachol a thir gwag mewn trefi a phentrefi ledled Cymru – sy’n gallu difetha cymunedau lleol. 

"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei gallu i helpu i adeiladu’r cartrefi y mae pobl eu heisiau, a helpu i greu swyddi yn agosach at gartrefi pobl. 

"Felly bydd y cynigion rydyn ni’n eu gwneud i’r broses prynu gorfodol yn helpu cynghorau lleol i gyflawni’r weledigaeth hon, drwy drawsnewid tai a thir gwag yn gartrefi a gweithleoedd sydd eu hangen ar bobl."

Gallwch weld yr ymgynghoriad hwn, sy’n cau ar 17 Ionawr, yma.