English icon English

Yn galw ar bob arwres seiber...

Ready, cyber, go…

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn annog merched rhwng 12 a 13 oed [blwyddyn 8] ledled Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth CyberFirst Girls 2020, ac mae’r cyfnod cofrestru yn dechrau heddiw [dydd Llun 2 Rhagfyr].

Mae’r gystadleuaeth, sy’n cael ei chynnal gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ), wedi’i llunio i annog ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched ifanc i ystyried gyrfa ym maes seiberddiogelwch – diwydiant sydd hyd yma wedi bod yn fwy o faes i ddynion.

Bydd timau o bob cwr o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu profi gyda chyfres o heriau a phosau datrys problemau hwyliog a chyffrous. Bydd y rhain yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau ym maes seiberddiogelwch a sicrhau lle yn y rownd derfynol.

Am y tro cyntaf erioed, bydd y rownd derfynol genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghymru, a bydd rownd gynderfynol ranbarthol newydd yn cael ei chyflwyno i sicrhau cynrychiolaeth o bob rhan o’r DU.

Gan annog disgyblion ledled Cymru i gymryd rhan, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i addysgu plant ifanc a meithrin eu doniau mewn amgylchedd hwyliog, gan helpu i ddatblygu gweithlu amrywiol sy’n cyfrannu at ddiogelu seiberddiogelwch ein gwlad yn y dyfodol.

“Hoffwn annog merched ledled Cymru i gymryd rhan yn yr her gyffrous hon, ac i gael hwyl a dysgu rhywbeth newydd am seiberddiogelwch.

“Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan.”

Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:

“Rydym yn falch o gyflwyno rowndiau cyn-derfynol rhanbarthol i’r gystadleuaeth eleni i sicrhau bod y bobl ifanc fwyaf dawnus o bob cwr o’r wlad yn dangos eu sgiliau yn y rownd derfynol.

“Mae pobl ifanc yn chwarae rhan fwyfwy hanfodol ym maes seiberddiogelwch, ac nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i ddod o hyd i weithlu’r dyfodol, a’i amrywio, er mwyn parhau i ddiogelu’r DU.

“Dyma’r tro cyntaf y bydd rownd derfynol Cystadleuaeth CyberFirst Girls yn cael ei chynnal yng Nghymru a bydd yn siŵr o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiberddiogelwch yma.”