English icon English

Cyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a dyfodol ein planed

A Budget for the NHS and the Future of Our Planet

Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi Cyllideb ddrafft sy’n cynnwys cynlluniau i fuddsoddi mwy nag £8bn yn y GIG yng Nghymru, ynghyd â phrosiectau uchelgeisiol i helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Dyma’r Gyllideb gyntaf ers i’r datganiad ar argyfwng yr hinsawdd gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Mae’n darparu cyllid newydd sylweddol ar gyfer trafnidiaeth a thai carbon isel, a chymorth i adfer amgylchedd naturiol Cymru. Mae'r gyllideb hon hefyd yn diogelu cyllid helaeth a pharhaus ar gyfer ynni adnewyddadwy, datblygu technolegau di-garbon a mynediad at natur.

Yng Nghyllideb ddrafft 2020-21 bydd y GIG yng Nghymru yn cael cynnydd o £342m y flwyddyn nesaf, sy’n uwch na chwyddiant, a bydd hwb o bron £200m i lywodraeth leol. Bydd y cyllid craidd i awdurdodau lleol yn cynyddu i bron £4.5bn, gan hybu’r adnoddau a fydd ar gael i ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau lleol eraill.

Bydd arian ychwanegol hefyd ar gael i fynd i’r afael â thlodi, gan gynnwys cymorth ychwanegol i ddisgyblion difreintiedig, a buddsoddiadau i adfywio canol trefi. Dyma gyllideb sy’n cynyddu cyllid holl adrannau Llywodraeth Cymru, mewn termau real. 

Mae'r Gyllideb hefyd yn cadarnhau na fydd cyfraddau treth incwm Cymru yn newid y flwyddyn nesaf, gan wireddu ein haddewid i beidio â chodi cyfraddau treth yn nhymor presennol y Cynulliad. Mae hefyd yn canolbwyntio ar fesurau ataliol, mwy hirdymor, er mwyn hybu llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Roedd cylch gwario Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd fis Medi 2019 yn darparu dyraniadau cyllid ar gyfer un flwyddyn yn unig. Yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw, bydd y cyllid ar gyfer Cymru y flwyddyn nesaf £300m yn is, ar sail gyfatebol, o gymharu â 2010-11.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

"Mae'r Gyllideb ddrafft hon yn gwireddu ein haddewidion i bobl Cymru, ac yn buddsoddi yn nyfodol ein planed.

"Er gwaethaf degawd o fesurau cyni, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i'r GIG yn gyson. Bydd ein cynlluniau'n cadarnhau bod £37bn wedi cael ei fuddsoddi yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru ers 2016.

"Wrth inni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rwy'n diogelu ein buddsoddiad presennol ac yn cyflwyno pecyn newydd gwerth £140m gyda chymorth ar gyfer trafnidiaeth carbon isel a Choedwig Genedlaethol i Gymru.

"Mae cynnydd ariannol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill, megis ysgolion a llywodraeth leol hefyd wedi'i sicrhau yn y Gyllideb eleni. Mae’r Gweinidogion hefyd wedi gweithio ar draws y llywodraeth i ganolbwyntio ar fesurau ataliol, hirdymor fel buddsoddi mewn iechyd meddwl, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

"Er bod ein cyllid, ar sail gyfatebol, yn parhau i fod yn is na lefelau 2010, nod y Gyllideb hon yw creu Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrdd."

Mae'r gwariant a gyhoeddir yn y Gyllideb ddrafft heddiw yn golygu bod Llywodraeth Cymru, dros y tymor presennol o bum mlynedd, wedi buddsoddi:

  • £37bn yn y GIG yng Nghymru i sicrhau triniaeth o ansawdd i bawb
  • £25bn yng nghyllid Llywodraeth Leol i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn wyneb mesurau cyni gan y DU
  • £80m ar gyfer y Gronfa Triniaethau Newydd, sydd wedi lleihau amseroedd aros ar gyfer cyffuriau newydd o 90 o ddiwrnodau i ddim ond 10.
  • Mwy na £200m i gyflwyno'r cynnig gofal plant i rieni sy'n gweithio
  • £575m i ddarparu 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel i bobl o bob oed
  • Mwy na £580m i helpu busnesau bach gyda'u biliau ardrethi
  • £100m yn ychwanegol i wella safonau ysgolion
  • £2bn i ddarparu mwy na 20,000 o dai fforddiadwy
  • Mwy na £650m ar ein cynllun Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i roi'r amgylchedd gorau i blant gael dysgu
  • Mwy na £100m ar gymorth busnes uniongyrchol i greu swyddi a chefnogi entrepreneuriaid
  • Mwy na 350m ar gyfer gwaith i reoli perygl llifogydd a diogelu arfordiroedd
  • Mwy nag £1.8bn i drawsnewid a chynnal a chadw ystad y GIG
  • Bron £200m tuag at helpu i ailgylchu gwastraff cartrefi

Caiff Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 a’r Setliad Llywodraeth Leol eu cyhoeddi yma ynghyd â'r dogfennau cysylltiedig.