English icon English

Arolygon o Ystad ym Morgannwg ymhlith y casgliadau sy'n cael eu gwarchod yng Nghymru

Glamorgan Estate Surveys amongst collections being protected in Wales

Ymhlith y trysorau ym maes archifau sy'n cael eu diogelu gan Lywodraeth Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau (NMCT) eleni y mae cofnodion o Gasgliad Foyle Opera Rara, sydd yng ngofal Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac arolygon a gynhaliwyd yn y 18fed ganrif o Ystad Plymouth, sy'n cael eu cadw yn Archifau Morgannwg, ac sy'n rhoi cipolwg inni ar berchenogaeth ar dir yn Ne Cymru, ac ar sut yr oedd yn cael ei ddefnyddio, cyn y cyfnod diwydiannol.

Bydd cyfanswm o bedwar sefydliad yng Nghymru yn elwa ar y cyllid cadwraeth. Rhai o'r prosiectau llwyddiannus eraill yw cofnodion ystadau sy'n cael eu cadw gan Archifau Powys, a lluniadau o locomotifau sy'n cael eu diogelu gan Reilffordd Fach y Rhyl. 

Mae'r prosiectau hyn yn cael eu hariannu drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau. Mae'r cyllid hwn yn golygu bod modd diogelu llawysgrifau pwysig y cyfyngir ar fynediad atynt oherwydd eu bod mewn cyflwr bregus. Diolch i'r cyllid hwn, bydd dogfennau pwysig sy'n adrodd hanes ein cenedl ar gael i fyfyrwyr, i ymchwilwyr ac i ddefnyddwyr lleol. 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae'r bartneriaeth hon, a sefydlwyd yn 2008 gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn parhau i ehangu mynediad ym mhob cwr o Gymru at eitemau a chasgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Dw i'n ddiolchgar i Ymddiriedolwyr NMCT am barhau i roi cymorth inni ddiogelu'n treftadaeth archifol cyfoethog.

Dw i'n arbennig o falch gweld yr amrywiaeth o ddeunyddiau bydd grantiau eleni yn eu cefnogi, gan amrywio o arolygon a mapiau o ystadau, sy'n dangos ac yn tystio i'r newidiadau i'n tirwedd, i drysorfa o hanes opera, a chofnodion ein rheilffordd fach gynharaf.”

Ychwanegodd yr Athro David McKitterick, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth:

“Rydyn ni'n falch ofnadwy bod ein partneriaeth hirdymor gyda Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mwy o lawysgrifau pwysig yn cael eu diogelu nag erioed o'r blaen. Ers i'r bartneriaeth rhyngom gael ei sefydlu ychydig dros ddeng mlynedd yn ôl, rydyn ni, gyda'n gilydd, wedi buddsoddi dros £340,000 mewn diogelu treftadaeth ysgrifenedig Cymru. Mae cymaint mwy ohoni ar gael i'r cyhoedd erbyn hyn, diolch i'r cymorth a roddwyd gennym ni.”