English icon English
JM - Wrexham-2

Y Cynnig Gofal Plant yn rhoi hwb i’r Gogledd

Childcare Offer Boost for North Wales

Mae dros 3,200 o blant ar draws y Gogledd yn manteisio ar gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, gyda dros 600 o leoliadau bellach yn ei ddarparu.

Mae dros 3,200 o blant ar draws y Gogledd yn manteisio ar gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, gyda dros 600 o leoliadau bellach yn ei ddarparu.

Mae cyfleusterau ar draws y Gogledd hefyd wedi elwa ar dros £24.8m o fuddsoddiad mewn prosiectau cyfalaf o ganlyniad i’r cynnig, ac mae dros £2m wedi’i fuddsoddi yn y rhanbarth fel rhan o’r grantiau bach sydd ar gael gyda’r cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg a gofal plant y blynyddoedd cynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn i holl blant tair a phedair oed rhieni cymwys sy’n gweithio.

Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Julie Morgan â Meithrinfa Ddydd Caego yn Wrecsam i glywed am eu profiadau o’r cynnig.

Mae dros 600 o blant ardal Wrecsam wedi defnyddio’r cynnig, gyda 17 o blant yn manteisio arno ym meithrinfa Caego.

Mae’r feithrinfa hefyd wedi derbyn £10,000 o gynllun grantiau bach y Cynnig Gofal Plant i osod canopi ac ymestyn eu harwynebedd chwarae awyr agored.

Dywedodd Julie Morgan:

“Mae’r Gogledd yn manteisio’n fawr iawn ar y Cynnig Gofal Plant, gyda ffigurau ardderchog ar draws pob ardal awdurdod lleol. Mae wedi bod yn bleser gwirioneddol ymweld â Meithrinfa Ddydd Caego, sydd hefyd wedi elwa ar gynllun grantiau bach y Cynnig i wella’r cyfleusterau ymhellach i’r plant.

“Mae’r Cynnig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni sy’n gweithio ac yn sicrhau nad yw cost gofal plant yn rhwystro rhieni rhag dychwelyd i fyd gwaith. Mae’n newyddion da i’r economi ac i deuluoedd ar draws y Gogledd.”

Nodiadau i olygyddion

Ynys Môn a Gwynedd

890

Conwy

485

Sir Ddinbych

485

Sir y Fflint

766

Wrecsam

658