English icon English
043283 HOMELESSNESS SOCIAL LAUNCH V54

“Nid yw pobl ddigartref wastad yn byw ar y stryd” – lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â digartrefedd cudd

“Homelessness doesn’t always live on the streets” – major new campaign launched to tackle hidden homelessness

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i fynd i’r afael â digartrefedd cudd drwy dynnu sylw at y ffaith nad yw bod yn ddigartref o reidrwydd yn golygu byw ar y stryd.

Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at broblem digartrefedd cudd, ac mae wedi’i thargedu at bobl ifanc a allai fod yn ddigartref neu mewn perygl o hynny. Mae’r ymgyrch hefyd yn cynghori’r cyhoedd ynghylch yr hyn i’w wneud os ydynt yn bryderus am rywun maent yn ei adnabod.

Mae ymchwil yn dangos bod pobl ar y cyfan yn meddwl mai pobl ddigartref yw’r rhai sy’n cysgu allan – ond nid dyna’r achos ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ifanc sy’n dioddef digartrefedd. 

Gall person fod yn ddigartref hyd yn oed os oes to dros ei ben. 

Gall fod yn mynd o un soffa i’r llall yn nhai ffrindiau, neu aros yn rhywle dros dro fel hostel, lloches neu wely a brecwast. Gall fyw mewn amodau gwael iawn, neu rywle nad yw’n addas ar ei gyfer, neu ar gyfer ei deulu.

Mae nifer o arwyddion y gallwch gadw llygad ar agor amdanynt er mwyn helpu i adnabod pobl allai fod yn ddigartref:

  • Efallai bod eu perthynas â’u rhieni ac aelodau o’r teulu yn anodd
  • Efallai eu bod yn gyndyn i fynd adref – yn treulio llawer o’u hamser tu allan; mewn mannau cyhoeddus sy’n cynnig lloches a chysylltiad wifi – er enghraifft gorsafoedd trenau a caffis; neu’n aros yn hwyr yn eu lleoliad addysg neu swyddi
  • Efallai eu bod yn cadw’u heiddo gyda nhw ac yn cael anhawster cadw’u dillad yn lân
  • Efallai eu bod yn gofyn am gymorth gydag arian a defnyddio banciau bwyd
  • Efallai eu bod wedi colli eu swyddi
  • Efallai eu bod yn dioddef problemau iechyd corfforol neu feddyliol.

Mae’r rhai sy’n dioddef digartrefedd cudd yn fwy tebygol o ddioddef camfanteisio, yn arbennig pobl ifanc. Er enghraifft, efallai bod pobl yn eu targedu gan roi pwysau arnynt i gael rhyw neu weithio’n ddigyflog yn gyfnewid am gael to uwch eu pennau.

Lluniwyd yr ymgyrch i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol cyn gynted â phosib, gan atal digartrefedd rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

"Mae nifer o bobl yn meddwl bod digartrefedd yn golygu cysgu allan yn unig – dydy hynny ddim yn wir. Dydy nifer o bobl ifanc sy’n dioddef digartrefedd neu sydd mewn perygl o hynny ddim yn gweld eu hunain fel pobl ddigartref.  

"Os nad oes gennych le i’w alw’n gartref, mae’n debyg eich bod yn dioddef ‘digartrefedd cudd’.

"Rydyn ni’n gwybod nad yw pobl ifanc yn gwybod yn aml ble i droi am gyngor a chymorth – dyna pam rydyn ni’n lansio’r ymgyrch newydd hon. 

"Felly os ydych chi’n meddwl eich bod yn dioddef digartrefedd, neu mewn perygl o hynny, gofynnwch am help. Dyw hi byth rhy hwyr na rhy gynnar i gael help."

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu cyngor a chymorth annibynnol ynghylch tai. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cysylltu pobl â sefydliadau partner a all ddarparu gwasanaethau cymorth yn seiliedig ar anghenion unigolion.

Dywedodd Jon Puzey, Cyfarwyddwr Shelter Cymru:

"Rydym yn gwybod po gynharaf ac yn amlach mae rhywun yn profi digartrefedd, y mwyaf tebygol ydynt o ddatblygu problemau cymhleth a allai olygu eu bod yn dod yn ddigartref dro ar ôl tro drwy gydol eu bywyd fel oedolion. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn ei gwneud atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc yn flaenoriaeth.

"Mae'n wych bod Llywodraeth Cymru yn cymryd hyn mor ddifrifol ac yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl ifanc. Gyda'r ymgyrch hon ar y cyd Rydym yn gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod bod Shelter Cymru yma i'w helpu."

I gael cyngor a chymorth, gall pobl ffonio Shelter Cymru ar 08000 495 495 neu fynd i wefan Shelter Cymru: https://sheltercymru.org.uk/cy/digartrefeddcudd/