English icon English
businesses support - Cy

Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf

Welsh Government to extend measures to protect businesses impacted by coronavirus from eviction during summer

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn estyn ei mesurau er mwyn diogelu busnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt rhag cael eu troi allan yn ystod yr haf.

Mae’r estyniad hwn i’r moratoriwm ar fforffediad prydlesau masnachol yn cael ei gyhoeddi wrth i fusnesau manwerthu dianghenraid ddechrau ailagor yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf. Er y dylai’r rhent sy’n ddyledus gael ei dalu lle y bo’n bosibl, bydd y mesur hwn yn sicrhau na fydd unrhyw fusnes yn cael ei droi allan os bydd yn colli taliad yn ystod y tri mis nesaf.

Roedd disgwyl i’r mesur ddod i ben ar 30 Mehefin ond mae bellach wedi cael ei estyn hyd 30 Medi. Bydd hyn yn helpu’r economi ar draws Cymru i adfer. Bydd yn atal achosion o droi pobl allan yn afresymol ac yn helpu i ddiogelu swyddi a busnesau a oedd yn masnachu cyn y pandemig.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates: ”Bydd yr estyniad hwn yn hanfodol er mwyn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau er mwyn gallu ailagor a darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar eu cwsmeriaid. Bydd hyn yn lleihau’r perygl y gallai busnesau orfod cau gan greu diweithdra.” 

“Rydym wedi cyflwyno mesurau pwysig er mwyn helpu i ddiogelu economi Cymru rhag effaith drychinebus y coronafeirws. Ein pecyn cymorth ni  ar gyfer busnesau yw’r pecyn cymorth mwyaf hael yn y DU. Byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino er mwyn ymateb i anghenion busnesau ar adeg mor heriol ac yn cynllunio ein llwybr tuag at sicrhau Cymru ffyniannus ar ôl y pandemig.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn: “Mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod ein trefi a’n strydoedd mawr yn parhau’n llewyrchus. Bydd sicrhau y gall busnesau Cymru ailagor yn ddiogel heb ofni cael eu troi allan yn dilyn cyfnod mor anodd yn gwbl allweddol wrth i ni ailagor ein strydoedd mawr a chanol ein trefi.”

“Mae sicrhau naws am le ar gyfer ein trefi yn bwysicach nag erioed. Wrth i fesurau’r cyfnod clo gael eu llacio yn raddol mae’n hanfodol ein bod yn cydweithio â phartneriaid er mwyn creu canol trefi sy’n gynaliadwy at y dyfodol lle y gall busnesau ffynnu. Bydd y mesurau estynedig hyn yn ychwanegu at y pecyn cymorth ar gyfer strydoedd mawr a busnesau sy’n cynnwys cefnogi Ardaloedd Gwella Busnes â’u costau rhedeg wrth i’n trefi ddechrau adfer.”

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Cod Ymarfer er mwyn hyrwyddo arferion da ar gyfer landlordiaid a thenantiaid wrth iddynt wynebu’r heriau sydd ynghlwm wrth y coronafeirws. Gallwch weld y Cod Ymarfer yn www.gov.uk/government/publications/code-of-practice-for-the-commercial-property-sector