English icon English

Treialon maes brechlyn TB gwartheg yn hwb anferth i gynlluniau tymor hir i ddileu’r clefyd – Lesley Griffiths

Bovine TB vaccine field trials a major breakthrough in long-term plan to eradicate the disease – Lesley Griffiths

Mae treialon o frechlyn twbercwlosis gwartheg ar fin cychwyn. Byddant yn hwb anferth i’r cynlluniau tymor hir i ddileu’r clefyd anifeiliaid dinistriol hwn, meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths heddiw.

Caiff y treialon eu cynnal yng Nghymru a Lloegr gan brysuro’r gwaith ar gyfer dechrau defnyddio brechlyn gwartheg erbyn 2025.

TB gwartheg yw un o’r heriau mwyaf cymhleth ac astrus sy’n wynebu’r maes iechyd anifeiliaid yng Nghymru a Lloegr heddiw. Bu’n rhaid difa mwy na 12,000 o wartheg yng Nghymru’n unig oherwydd TB yn 2019. Bydd brechlyn llwyddiannus yn gallu bod yn erfyn pwerus yn y frwydr yn erbyn y clefyd ar ôl cynnal y profion effeithiolrwydd a diogelwch angenrheidiol.

Caiff y treialon maes eu cynnal dros y pedair blynedd nesaf ar ran Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Defra, yn dilyn 20 mlynedd o ymchwil arloesol i frechlynnau TB a phrofion diagnostig gan wyddonwyr y llywodraeth. Mae’r Athro Glyn Hewinson, Cadeirydd Sêr Cymru bellach yn y Ganolfan Ragoriaeth TB ym Mhrifysgol Aberystwyth yn parhau i chwarae rôl allweddol yn y gwaith pwysig hwn.

Dywedodd y Gweinidog, “Mae cael gwared ar TB yn flaenoriaeth i Gymru. Rydym wedi bod wrthi’n datblygu’n rhaglen ers mwy na 10 mlynedd ac mae brechlyn wastad wedi cael ei weld fel erfyn pwysig nad ydym wedi gallu manteisio arno eto.  

“Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld 44% o ostyngiad yn nifer yr achosion o TB ac rydym yn gweithio at gael ei wared yn llwyr erbyn 2041. Gallai brechlyn ein helpu yn hynny o beth.”

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop: “TB gwartheg yw’r her mwyaf rydym yn ei wynebu o ran iechyd anifeiliaid. Mae’n destun trawma aruthrol i ffermwyr a chymunedau cefn gwlad.

“Rydym wastad wedi dweud y gallai brechlyn fod yn rhan bwysig yn y frwydr i ddileu TB. Diolch i flynyddoedd o ymchwil arloesol gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a gwaith yr Athro Hewinson, gallai’r treialon hyn roi erfyn arall i ni yn ein hymdrechion yn erbyn y clefyd niweidiol hwn.”

Meddai Is-ddirprwy Lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain, James Russell: “Mae potensial i frechlyn gwartheg dibynadwy o’i ddefnyddio gyda phrawf DIVA dilys weddnewid y sefyllfa yn ein hymdrechion i reoli a dileu TB gwartheg. Mae’n fater y mae arbenigwyr ein gweithgor ar TB gwartheg yn eu hadroddiad wedi’i nodi fel blaenoriaeth allweddol.

“Y treialon maes hyn yw penllanw blynyddoedd o ymchwil a gwaith arloesol gan filfeddygon gwyddonol i ehangu’r dewis o arfau sydd ar gael i filfeddygon a ffermwyr i drechu TB gwartheg.”

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf am TB yng Nghymru, mae nifer y buchesi sy’n cael achosion newydd o’r clefyd wedi gostwng 13% yn y flwyddyn ddiwethaf (12 mis hyd Ebrill 2020) a gostyngiad o 9% yn nifer y buchesi sydd heb Statws heb TB swyddogol a gostyngiad o 5% yn nifer yr anifeiliaid gafodd eu difa oherwydd y clefyd. Fe welwch fanylion llawn yr ystadegau hyn fan hyn.