English icon English

Bydd y rheol ar aros yn lleol yn dod i ben yng Nghymru ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Stay local will be lifted in Wales from Monday 6 July, First Minister Mark Drakeford will confirm today (Friday 3 July)

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cadarnhau hynny heddiw (dydd Gwener 3 Gorffennaf).

Bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau bod yr amodau yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddileu’r rheol ar aros yn lleol ac i wneud newidiadau i'r rheoliadau fel y gall teuluoedd ddod ynghyd unwaith eto. O ddydd Llun, bydd pobl o ddwy aelwyd wahanol yn cael dod at ei gilydd i ffurfio un aelwyd estynedig.

Yn ei gynhadledd i'r wasg yn ddiweddarach heddiw, mae disgwyl i'r Prif Weinidog ddweud, er bod rhai cyfyngiadau'n cael eu llacio yng Nghymru, bod angen i bawb barhau i gadw pellter cymdeithasol a pharchu'r lleoedd a'r cymunedau y maent yn ymweld â nhw.