English icon English

Y Gweinidog Addysg yn croesawu cynnydd mewn ceisiadau prifysgol o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru

Education Minister welcomes rise in university applications from the most deprived areas of Wales

Mae ystadegau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw gan UCAS yn dangos cynnydd o 2% mewn ceisiadau prifysgol gan ieuenctid 18 oed o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae’r ystadegau’n dangos bod 21.6% o’r ieuenctid 18 oed o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig wedi gwneud cais hyd at ddiwedd mis Mehefin, i fyny o 19.4% y llynedd.

Hefyd mae’r data’n dangos bod cyfran uwch nag erioed o ieuenctid 18 oed o Gymru wedi gwneud cais i brifysgol. Roedd canran y ceisiadau yn 33.6%, y fwyaf erioed a chynnydd o 0.7 pwynt canran.       

Hefyd mae prifysgolion Cymru wedi derbyn mwy o geisiadau, gyda chynnydd o 6% mewn ceisiadau i ddarparwyr yng Nghymru, i fwy na 128,000.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r system cyllid myfyrwyr yn radical yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda newid sylfaenol tuag at gefnogi myfyrwyr gyda’u costau byw o ddydd i ddydd, a chefnogaeth gynyddol drwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Rydw i’n hynod falch o weld yr ystadegau hyn, sy’n dangos bod y bwlch rhwng ymgeiswyr o’r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn lleihau.

“Fel Llywodraeth, rydyn ni’n credu bod addysg o ansawdd uchel yn rym sy’n gyrru symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth weithredol.

“Rydyn ni’n agor addysg uwch i fwy o bobl nag erioed, gan ddarparu’r pecyn cefnogi haelaf i fyfyrwyr yn y DU. Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop sy’n cynnig cymorth costau byw cyfatebol i fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan amser a myfyrwyr ôl-radd.   

“Hefyd mae cynnydd arwyddocaol o 6% wedi bod yn y ceisiadau i sefydliadau yng Nghymru. Mae prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad myfyrwyr ac ymchwil ac mae’n wych gweld mwy a mwy o fyfyrwyr yn dewis ein prifysgolion ni.”