English icon English

Gohirio’r broses o gategoreiddio ysgolion y flwyddyn nesaf

School categorisations to be suspended next year

Bydd Llywodraeth Cymru yn gohirio’r broses o gategoreiddio ysgolion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, fel rhan o'i mesurau i leihau'r pwysau ar ysgolion yn ystod y pandemig Covid-19.

Bob blwyddyn, caiff ysgolion cynradd ac uwchradd eu mesur yn erbyn ystod o ffactorau a'u rhoi mewn un o bedwar categori lliw.

Mae'r system yn helpu i nodi'r ysgolion sydd angen y cymorth a'r arweiniad mwyaf, y rhai sy'n gwneud yn dda ond a allai fod yn gwneud yn well a'r rhai sy'n effeithiol iawn ac sy'n gallu cefnogi ysgolion eraill.

Cyhoeddir y categorïau diweddaraf bob mis Ionawr ar wefan Fy Ysgol Leol.

Bydd adolygiad o'r canllawiau ar wella ysgolion yn cael ei gynnal. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r arolygiaeth ysgolion, Estyn, a nifer o ysgolion i dreialu Adnodd Gwerthuso a Gwella Cenedlaethol, yn ogystal â chynllun peilot aml-asiantaethol i gefnogi nifer o ysgolion sy'n peri pryder. Mae paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer pryd y gall y gwaith hwnnw barhau. 

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

"Rwy'n cydnabod bod ysgolion yn gweithredu dan amgylchiadau anodd ar hyn o bryd. Fy mlaenoriaeth yw caniatáu i staff ganolbwyntio eu hegni ar anghenion disgyblion yn ystod y cyfnod anghyffredin a heriol hwn.

"Rwyf wedi ymrwymo i helpu i leihau'r baich gweinyddol ar leoliadau addysg, lle bo hynny'n briodol ac yn ddiogel. Rwyf wedi llacio'r gofynion dros dro i gynnal profion ac asesiadau cenedlaethol a hefyd wedi gweithio gyda Estyn i ohirio ei drefniadau arolygu.

 "Bydd y camau hyn yn helpu ysgolion i barhau â'r gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud i gefnogi eu dysgwyr."