English icon English
Bikes in cycle lanes-2

“Cyfle euraidd am newid” – Y Dirprwy Weinidog Lee Waters

“A golden opportunity for change” – Deputy Minister Lee Waters

  • Cynnydd gweladwy yn nifer y bobl sy’n cerdded a beicio
  • £38 miliwn i sicrhau bod pobl yn gallu beicio, sgwtio a cherdded yn fwy diogel yng Nghymru
  • Y buddsoddiad mwyaf erioed i wella teithio llesol yn lleol

Mae pandemig y coronafeirws wedi sbarduno newid mawr i arferion teithio pobl, gyda llawer mwy ohonom nag o’r blaen yn cerdded a beicio i’r gwaith, i’r siopau ac at ddibenion hamdden.

Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn benderfynol o achub ar y cyfle hwn i newid a sicrhau bod pobl yn parhau i ddewis beicio neu gerdded yn lle defnyddio’r car pan fydd pandemig y coronafeirws drosodd.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £38miliwn i sicrhau bod pobl yn gallu beicio, sgwtio a cherdded yn fwy diogel yng Nghymru.  

Ynghyd â’r £15.4miliwn a gyhoeddwyd fis diwethaf, dyma’r buddsoddiad mwyaf erioed i wella teithio llesol yn lleol yng Nghymru. Bydd yn ariannu prosiectau a fydd yn golygu y bydd plant ac oedolion yn gallu cyrraedd yr ysgol neu waith yn fwy diogel ar droed, beic neu sgwter.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys £259,500 i adeiladu llwybr dros y bont rheilffordd ger Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton a gosod nodweddion tawelu traffig sy’n addas ar gyfer beicwyr ar hyd King George Street. Bydd y cyllid hefyd yn gwella llwybr troed sydd eisoes y bodoli i ddarparu mynediad gwell i’r Ganolfan Waith, y pwll nofio a’r llyfrgell.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd £205,000 yn cael ei ddefnyddio i weithredu terfyn cyflymder 20mya y tu allan i chwe ysgol, yn ogystal â gwella’r marciau ar y ffyrdd a gosod wyneb atal sgidio i’w gwneud yn fwy diogel i blant gerdded a seiclo i’r ysgol.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog: “Mae pandemig y coronafeirws wedi newid ein bywydau yn llwyr. Mae wedi stopio ein trefn feunyddiol ac wedi ein gorfodi i gyd i fyw’n wahanol.

“Mae’r coronafeirws wedi dod â llawer o galedi a thrychinebau. Mae hefyd wedi cyflwyno cyfle euraidd am newid – un yr wyf yn bwriadu manteisio i’r eithaf arno.

“Mae mwy o bobl nag erioed yn cerdded a beicio i’r gwaith, i ymweld â ffrindiau ac i fynd i’r siop. Gyda llai o geir ar y ffordd, mae beicwyr newydd wedi cael yr hyder i rentu, benthyg neu brynu beic yn hytrach nag estyn am allweddi’r car.

“Fodd bynnag, wrth inni lacio’r cyfyngiadau a mwy o draffig yn ymddangos ar ein ffyrdd, mae’n hanfodol bod ein ffyrdd yn parhau i fod yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr os ydym am newid ein harferion teithio. Dyna’n union yr hyn yr wyf yn gobeithio y bydd y £38miliwn a gyhoeddais heddiw yn ei gyflawni.

“Mae’r £38miliwn hwn yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i greu llwybrau teithio mwy diogel a chysylltiadau gwell i’n trefi a’n dinasoedd, i sicrhau bod pobl yn dal i fod yn hyderus i feicio a cherdded o amgylch Cymru hyd yn oed pan fydd ein bywydau yn dychwelyd i normal.”

Parhaodd y Dirprwy Weinidog i ddweud bod hynt y gwaith ar deithio llesol wedi bod yn rhy araf hyd yma ac nad yw wedi newid yr ymddygiad sydd angen ei weld yng Nghymru. Ychwanegodd:

“Rwy’n galw ar arweinwyr awdurdodau lleol i achub ar y cyfle euraidd hwn hefyd ac i weithio gyda’u cymunedau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol sy’n annog mwy o bobl i gerdded a beicio ar gyfer siwrneiau pob dydd.

“Rwyf am inni weithio gyda’n gilydd i drawsnewid arferion teithio Cymru a dewis opsiynau sy’n diogelu ein hamgylchedd ac sydd o fudd i’n hiechyd.”

Nodiadau i olygyddion

The Active Travel Fund provides £20m directly for 25 larger schemes and packages of schemes in 14 local authorities.

In addition, it provides all local authorities with a share of £9m to take forward smaller improvements on their active travel networks and prepare larger schemes for being brought forward.

The Safe Routes in Communities grant of £4.14 million will support 22 schemes, specifically focused on creating safe walking and cycling routes to schools across 17 local authorities.

The Road Safety Capital grant of £3.88 million will support 18 schemes across 12 local authorities. All local authorities have been awarded a share of £950,000 revenue to take forward training initiatives.

Schemes include:

Ysgol Ty Fynnon, Shotton, Flintshire.  £259,500

The scheme comprises of a pedestrian route over the Railway Bridge and the implementation of a 20mph mandatory speed limit along the extents of King George Street. Cycle friendly traffic calming features will be installed at regular intervals along King George Street. The scheme also includes an upgrade of existing footpath/ bridle path giving access to the Job Centre, swimming pool and library.

Rhondda Cynon Taf - £419,000

Cilfynydd Safe Routes in Communities.  £204,500

This scheme includes a new pedestrian crossing on the A4054 (Cilfynydd Road) within the vicinity of the footbridge that provides access to Pontypridd High School and a 20mph speed limit within the vicinity.  A section of the walking route along the A4054 (Pontshonnorton Road) will also be improved through the creation of a new section of footway, which will remove a dangerous pinch point.

Active Travel Fund

Flintshire - Greenfield Valley active travel link phase 3.  £247,500.

The scheme is a package of local improvements over a 3 year phased delivery programme. Improving walking and cycling links through the Greenfield Valley to link Holywell with the coast.

Powys - Llandrindod Wells – Spa Road East to Cefnllys Lane.  £180,000

This scheme will establish an active travel route on Spa Road East in Llandrindod Wells, providing active travel access to Cefnllys primary school, with connecting links to nearby housing estates and places of employment and health facilities.

Swansea - Sketty & Mayals Network Links.  £1,877,000.

This scheme comprises of three elements: The Mayals Road Link will create infrastructure for cycling along this distributor link; Sketty Parks Link project will facilitate onward links through the Sketty Park Estate to link with Olchfa Comprehensive School and Bishop Gore Comprehensive School and; Construction of the Olchfa Link which will enable access for a large area of Killay.

Cardiff Cycle Superhighways Stage 1. £2,773,000.

Cycle Superhighways will provide continuous routes that are intuitive and comfortable to use and segregated from motor vehicles and pedestrians where needed. This package of interventions in eight locations, includes cycle routes, pedestrian facilities, junction improvements, surfacing, route widening, 20mph speed limit and crossing facilities.

Road Safety capital

Neath Port Talbot – 20mph Zones - £205,000

Implementation of self-enforcing 20mph speed limits outside 6 schools. Proposed works include soft recycled rubber speed cushions, traffic regulation orders for the 20 mph speed limits and parking restrictions, advanced warning signage, improved road markings, anti-skid surfacing and the realignment of junctions and the provision of a pedestrian refuge.

Swansea - B4290, St Helen’s Road - £151,300

Scheme includes a number of measures to increase safety for pedestrians and aims to increase the uptake of active travel.  Works include the reduction of speed limits to include speed plateaus and improving crossing points.  The scheme will also adjust parking and loading in the area to further improve pedestrian visibility and safety.

 

A full list of successful schemes for each of the grants by local authority will be published on the Welsh Government website.