English icon English
FM Presser Camera 1

Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor

Gyms and swimming pools to reopen

Heddiw (dydd Gwener 7 Awst), cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen.

Bydd ardaloedd chwarae dan do i blant hefyd yn gallu agor eu drysau unwaith eto fel rhan o’r newidiadau diweddaraf i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru. Fodd bynnag, dylai ardaloedd megis pyllau peli nad oes modd eu glanhau yn hawdd barhau ar gau.

Mae Prif Weinidog Cymru yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i ddilyn y rheolau perthnasol mewn bariau, bwytai a chaffis sydd bellach wedi ailagor ac mewn gweithleoedd.

Dan gyfraith Cymru, mae’n ofynnol bod mesurau yn cael eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mathau hyn o eiddo. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod pobl yn cadw 2 fetr o bellter rhwng ei gilydd lle bo’n bosibl a chymryd camau eraill i osgoi rhyngweithio agos megis gosod sgriniau neu wisgo gorchuddion wyneb a gwella hylendid. Rhaid darparu gwybodaeth hefyd i gwsmeriaid a staff i’w helpu i ddeall yr hyn y mae’n rhaid iddynt wneud i gadw’n ddiogel yn yr eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i orfodi’r gofynion hyn. Mae hyn yn galluogi swyddogion gorfodi i gyflwyno Hysbysiad Gwella Eiddo i dynnu sylw at dor-cyfraith ac i nodi mesurau sydd angen eu cymryd yn yr eiddo i gydymffurfio â’r gyfraith.

Os na chydymffurfir â’r Hysbysiad Gwella Eiddo, neu os oes achos difrifol o dor-cyfraith, gellir cau eiddo drwy gyflwyno Hysbysiad Cau Eiddo.

Pan gaiff hysbysiadau eu cyflwyno, bydd arwyddion yn cael eu harddangos mewn man amlwg i roi gwybod i bobl bod angen gwelliant neu y bu gorfod cau eiddo.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

““Rydym yn parhau i fynd ati fesul cam i lacio’r cyfyngiadau symud, gan fonitro effaith pob newid a wnawn. Wrth i fwy o rannau o’n cymdeithas a’n heconomi ailagor, mae’n bwysig ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb personol i wneud y peth iawn a sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu ein hunain a phawb sy’n annwyl inni rhag y feirws.

 “Mae hyn yn golygu cadw 2 fetr o bellter oddi wrth eraill, golchi ein dwylo’n aml a gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn gamau syml sydd o fudd inni gyd. Nid yw’r rheolau sydd gennym yn eu lle yn opsiynol - maent yno i’n diogelu i gyd. Maent yn hanfodol os yw Cymru am osgoi cyfnod arall o gyfyngiadau symud.

 “Wrth i fwy a mwy o eiddo agor, mae’r rheolau penodol sy’n gymwys i’r mathau hynny o eiddo, ac i bob gweithle, yn arbennig o bwysig oherwydd fe’u lluniwyd i’n cadw’n ddiogel. O ran y lleiafrif bach o unigolion a busnesau sy’n penderfynu peidio â dilyn y canllawiau, rwyf am ddweud yn glir y byddwn yn cymryd camau gweithredu ac yn cau eiddo unigol ar unwaith pe bai angen. Mae awdurdodau lleol yn cael gwell pwerau i ymyrryd, ac i ymateb yn fwy effeithlon i gwynion gan gynnwys y rheini sy’n dod i sylw TUC Cymru a’i undebau cysylltiedig.

“Fel y gwelwn mewn sawl man ar draws y byd, nid yw’r pandemig drosodd a rhaid inni barhau’n wyliadwrus. Mae risg sylweddol y gallai nifer yr achosion yng Nghymru gynyddu unwaith eto a bydd rhaid inni gymryd camau pellach pe bai hynny’n digwydd. Dim ond drwy barhau i wneud ein rhan y gallwn gadw Cymru’n ddiogel.”

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i edrych i weld a oes modd newid y rheolau i alluogi pobl i gwrdd dan do gyda phobl nad ydynt yn perthyn i’w haelwyd neu eu haelwyd estynedig o Awst 15 ymlaen.

Nodiadau i olygyddion

Between 17 March and 26 July local authorities in Wales report having issued 682 warning letters to business for non compliance with legal requirements imposed in response to the coronavirus. 

·       During that same period 26 prohibition notices have been issued and 49 Fixed Penalty Notices Issued.  76 premises have closed that had prohibition notices issued. 

·       The number of premises that have received advice from local authority enforcement officials to help them comply have increased significantly from 16,126 on 5 June to 25,686 by 17 July. 

·       In total enforcements officials have made 8,858 visits to premises in this period between 17 March and 26 July

·       The signs for a Premises Improvement Notice and Premises Closure Notice can seen below: