English icon English

RHAGHYSBYSEB DAN EMBARGO: 00:01, Dydd Mawrth 28 Gorffennaf

EMBARGOED TRAILER: 00.01 Tuesday 28 July

Heddiw (dydd Mawrth 28 Gorffennaf), bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pecyn swyddi a sgiliau gwerth £40 miliwn i helpu economi Cymru i adfer yn sgil effaith y coronafeirws.

Bydd yn datgelu y bydd mwy o gymorth i brentisiaethau, ynghyd â hyfforddeiaethau, cymorth yn sgil colli gwaith, rhaglenni ailhyfforddi a chyngor gyrfaoedd.

Bydd hefyd yn addo helpu unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru i fanteisio ar gyngor a chymorth i ddod o hyd i waith, dechrau busnes ei hun neu ddod o hyd i le ar gwrs addysg neu hyfforddiant.

Mae’r cyllid ychwanegol yn dilyn cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yr wythnos ddiwethaf ynghylch buddsoddi £50miliwn mewn sgiliau a dysgu addysg uwch ac addysg bellach.

Nodiadau i olygyddion

Bydd datganiad mwy manwl yn cael ei gyhoeddi am 12:30pm ddydd Mawrth 28 Gorffennaf wrth i Weinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans arwain cynhadledd wythnosol Llywodraeth Cymru i’r wasg.