English icon English

Ymateb y Gweinidog Cyllid i gyhoeddiad cyllid Llywodraeth y DU

Finance Minister responds to UK Government funding announcement

Yn dilyn cyfarfod heddiw â’r Trysorlys, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans fod Llywodraeth y DU wedi “colli cyfle” i roi mwy o hyblygrwydd i Gymru er mwyn mynd i’r afael â phwysau ariannol pandemig y coronafeirws.

Cafodd y cyfarfod pedairochrog â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Stephen Barclay, Gweinidog Cyllid yr Alban Kate Forbes a Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon Conor Murphy ei gynnal i drafod trefniadau ar gyfer yr adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar ddod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r sicrwydd a ddarperir gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU neithiwr y bydd £1.2bn pellach ar gael i Gymru er mwyn ymateb i’r pandemig ond mae dros hanner y cyllid hwnnw – £675m – yn ymwneud â gwariant ar gyfarpar diogelu personol a chyllid ar gyfer pwysau’r gaeaf, a oedd eisoes wedi’i gyhoeddi. Mae hyn i gyd yn rhan o gyfran Barnett o wariant sydd wedi’i gyhoeddi neu ei gynllunio yn Lloegr.

Ond ni chytunodd y Trysorlys heddiw i gais Llywodraeth Cymru i ddefnyddio mwy o arian o Gronfa Wrth Gefn Cymru eleni – cronfa gynilo yw Cronfa Wrth Gefn Cymru y mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu ati ac yn gallu ei defnyddio i hybu ei chyllideb mewn argyfwng – a hyblygrwydd cyllidebol arall i helpu i leddfu’r pwysau ar wariant.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Croesawaf y sicrwydd y mae’r cyhoeddiad neithiwr yn ei roi – rwy’n gwybod beth allwn ni ei ddisgwyl weddill eleni i ddelio â’r coronafeirws cyn unrhyw gyhoeddiadau cyllid yn Lloegr. Rwy’n falch bod Llywodraeth y DU wedi gwrando a gweithredu ar fy ngalwadau am sicrwydd ac eglurder.

“Ond rhaid imi bwysleisio mai cyfran yn unig o hyn sy’n arian gwirioneddol newydd. Mae’n bell iawn o’r hyn y bydd ei angen ar Gymru i wrthdroi’r niwed hirdymor a achosir gan y pandemig.

“Mae’r Trysorlys hefyd wedi colli cyfle i roi inni’r hyblygrwydd cyllidebol mawr ei angen, a fyddai’n ein galluogi i reoli peth o bwysau’r coronafeirws ein hunain, o fewn ein cyllidebau ein hunain.”