English icon English

Mae’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus o heddiw ymlaen

Face coverings must be worn on public transport from today

O ddydd Llun 27ain bydd yn rhaid i bobl sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchuddion wyneb yng Nghymru.  Bydd y gyfraith hefyd yn berthnasol i dacsis. 

Cafodd y newid ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog ar 13eg Gorffennaf fel rhan o’r ymdrechion parhaus i warchod pobl rhag y coronafeirws. 

O dan y gyfraith newydd, bydd yn ofynnol i bobl 11 mlwydd oed a throsodd wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Bydd eithriadau ar gyfer pobl sydd â rhai cyflyrau iechyd, gan gynnwys clefydau anadlol. 

Rhoddir cyngor i bobl wisgo gorchudd wyneb tair haen o’r un gwead clos, neu ddefnydd gwead clos.

Mae’n bosibl y bydd gyrwyr, casglwyr tocynnau a gweithwyr eraill trafnidiaeth gyhoeddus yn gofyn i bobl beidio â dod ar y bws os nad ydynt yn gwisgo gorchudd wyneb.  Os oes angen, caiff hysbysiadau cosb benodedig eu cyflwyno gan yr heddlu, gyda dirwy o £60 y tro cyntaf fydd yn cael ei dyblu os bydd troseddu eto.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: 

“O heddiw ymalen bydd yn ofynnol i fwyafrif llethol defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tra’n teithio ar ein bysiau, ein trenau ac mewn tacsis.  Cafodd y gyfraith ei chyflwyno i helpu i leihau y perygl o drosglwyddo’r coronafeirws yn gyhoeddus ac i ddiogelu iechyd defnyddwyr ein trafnidiaeth gyhoeddus.    

“Rydyn ni’n gwybod nad yw’n bosibl bob amser i gynnal pellter corfforol o 2 fetr ar drafnidiaeth gyhoeddus a’r angen i wisgo gorchudd wyneb yn ogystal â chanllawiau eraill yr ydym wedi’u cyhoeddi i’n darparwyr trafnidiaeth er mwyn annog teithio diogel.” 

Mae’r penderfyniad i’w gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn helpu cwmnïau i gynyddu eu capasiti ar drenau a bysiau wrth i’r galw godi yn dilyn y broses barhaus o lacio y cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.   

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ofyn i bobl ystyried eu rhesymau dros ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn sicrhau bod capasiti ar gyfer gweithwyr hanfodol a’r rhai hynny sydd heb drafnidiaeth arall.