English icon English
Julie Morgan (1)

Ymestyn rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant hyd at 2025

Rates relief extended for childcare providers until 2025

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi y bydd safleoedd gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn elwa o gael rhyddhad ardrethi annomestig 100% am dair blynedd arall.

Mae ymestyn y rhyddhad ardrethi hyd at 31 Mawrth 2025 yn golygu y bydd £9.7m o gymorth ychwanegol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig. Bydd hyn yn helpu’r rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r pandemig, gan ddiogelu’r lefel o ddarpariaeth y mae ei hangen ar blant a rhieni.

Cafodd y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ei ehangu ym mis Ebrill 2019 i roi rhyddhad o 100% i bob safle gofal plant cofrestredig yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd. Nod y cynllun yw helpu’r sector i weithredu’r cynnig gofal plant, sef 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant, ac mae wedi helpu llawer o feithrinfeydd preifat a darparwyr gofal dydd i ymateb i rai o’r heriau ariannol sydd eisoes yn wynebu’r sector.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn sector gofal plant Cymru. Mae’n hollbwysig cydnabod y gwasanaeth hanfodol y mae lleoliadau gofal plant yn ei roi i deuluoedd, drwy gynnig amgylcheddau positif a gofalgar i’n plant a helpu rhieni i allu manteisio ar y cyfle i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant.

“Mae’r pandemig wedi cael effaith hynod niweidiol ar fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys effaith enfawr ar leoliadau gofal plant. Mae’r pandemig wedi creu heriau newydd i leoliadau gofal plant, ac wedi gwaethygu’r heriau a oedd yn bodoli eisoes.  Bydd ymestyn rhyddhad ardrethi yn helpu safleoedd gofal plant cofrestredig i barhau â’r gwaith hanfodol y maen nhw’n ei wneud, drwy helpu i sicrhau eu bod yn parhau’n fusnesau hyfyw.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans:

“Mae’r £9.7m o gymorth ychwanegol rydyn ni’n ei roi i’r sector gofal plant yn rhan o becyn ehangach o gyllid a fydd yn helpu Cymru i symud y tu hwnt i’r pandemig. Mae’n hanfodol ein bod yn helpu darparwyr gofal plant fel y rhain i adfer a chodi nôl ar eu traed.”

Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru: “Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad calonogol hwn gan Lywodraeth Cymru y bydd y gefnogaeth i ddarparwyr gofal plant a rhieni yn parhau drwy fod rhyddhad ardrethi busnes yn dal i fod ar gael am dair blynedd arall.

“Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod sylw wedi cael ei roi i farn y sector. Mae ymestyn y rhyddhad yn cydnabod y rôl bwysig y mae lleoliadau preifat, gwirfoddol ac annibynnol yn ei chwarae drwy ddarparu lleoedd addysg gynnar a gofal plant hanfodol.

“Wrth siarad â darparwyr ynghylch sut mae’r rhyddhad wedi ei helpu hyd yn hyn, dywedodd 35% wrthym ei fod wedi caniatáu iddynt gadw costau gofal plant yn is i rieni, a dywedodd ychydig o dan draean ohonynt ei fod wedi eu helpu i barhau i fod yn gynaliadwy, gan leihau’r perygl y gallai lleoliadau gau. Roedd y manteision eraill yn ymwneud â buddsoddi mewn staff, adnoddau a’u safleoedd, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r cymorth i leoliadau gofal plant, y rhieni, a’r plant.”

Dywedodd un o Ymddiriedolwyr y Gymdeithas, Tina Jones MBE, perchennog clwb y tu allan i oriau ysgol a Meithrinfa Ddydd Tiny Tots:

"Mae hyn yn newyddion gwych i leoliadau gofal plant fel fy lleoliad i, ac mae’n golygu y gallwn barhau i gynnig lleoedd fforddiadwy i deuluoedd yn ein hardal. Roedd ardrethi yn gost fawr i’n lleoliadau, a’r eironi oedd po fwyaf o le oedd gennych chi i’r plant, uchaf yn y byd oedd yr ardrethi. Mae’r rhyddhad hwn wedi ein helpu i barhau’n gynaliadwy yn ystod cyfnod hynod ansicr, yn benodol o ganlyniad i’r pandemig.

"Yn ystod y tair blynedd diwethaf, oherwydd y rhyddhad ardrethi busnes sydd ar gael, dw i wedi gallu osgoi cynyddu fy ffioedd i’r rhieni. Mae wedi bod yn gymorth mawr ac mae’n newyddion gwych y bydd ar gael am dair blynedd arall."

 

Nodiadau i olygyddion

NOTES

For more media information and case studies, please contact Rosey James, PR Manager, on 01484 40 70 66, 07788 585502, rosey.james@ndna.org.uk, or Ashleigh Stocks, PR Assistant on 07587033568 ashleigh.stocks@ndna.org.uk

NDNA:

National Day Nurseries Association (NDNA) is the national charity representing children’s nurseries across the UK.

We are the voice of the 21,000-strong nursery sector, an integral part of the lives of more than a million young children and their families. We provide information, training and advice to support nurseries and the 250,000 people who work in them to deliver world-class early learning and childcare. Working closely with local and national governments in England, Scotland and Wales, we campaign on the cost, choice and quality of childcare to benefit nurseries, families and the economy.