- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
16 Medi 2021
Heddiw, mae Trafnidiaeth Cymru yn lansio cynllun a fydd yn helpu i adsefydlu pobl ac yn rhoi cyfle iddyn nhw newid eu bywydau.
Mae 'Building Futures - On the right track' / 'Creu Dyfodol - Ar y trywydd iawn' yn gynllun peilot gyda phartneriaid a fydd yn rhoi cyfle i hyd at ddeg troseddwr weithio ar brosiect newydd Metro De Cymru sydd wedi’i leoli yng nghalon y cymoedd yn Hwb Seilwaith Trefforest.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn rhoi profiad galwedigaethol perthnasol a newid golwg troseddwyr ar fywyd mewn partneriaeth â TrC sy'n cynnwys ARC – Making a Difference, CEM Prescoed, Coleg y Cymoedd, Seilwaith Amey Cymru a phartneriaid cyflenwi Seilwaith TrC, Contractwyr Alun Griffiths, Balfour Beatty Rail a Siemens Mobility.
Lansiodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y cynllun newydd a dywedodd:
“Nid prosiect trafnidiaeth yn unig yw prosiect Metro De Cymru, mae’n ymwneud â newid bywydau pobl Cymoedd De Cymru a thu hwnt. Mae'r prosiect rhagorol hwn yn enghraifft wych o fuddsoddi mewn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd sydd â buddion llawer ehangach i gymunedau.”
Ychwanegodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffordd TrC:
“Yn TrC, rydym wedi ein halinio’n agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’n rhoi cryn falchder i ni allu lansio ein rhaglen 'Creu Dyfodol - Ar y trywydd iawn' / 'Building Futures - On the right track' heddiw gan ei fod yn caniatáu inni ddefnyddio ein rhaglen datblygu seilwaith Metro De Cymru fel modd o helpu i adsefydlu pobl. Mae'n caniatáu inni weithio gyda'n partneriaid yn ein Cynghrair i ddarparu cynllun adsefydlu a fydd, gobeithio, yn cynnig dyfodol mwy disglair a mwy llwyddiannus i droseddwyr."