English icon English
PPE-10

Biliwn o eitemau o PPE yn cael eu rhoi i gadw staff y GIG a staff gofal cymdeithasol yn ddiogel

A billion items of PPE issued to keep NHS and social care staff safe

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cadarnhau bod mwy na biliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) wedi'u rhoi i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol ledled Cymru ers dechrau'r pandemig. 

Ers mis Mawrth 2020, bu Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i ddarparu PPE am ddim ar gyfer pawb sy'n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol. 

Bydd PPE am ddim yn parhau i gael ei gyflenwi i ofal sylfaenol ac i ofal cymdeithasol am gyhyd ag y bydd ei angen yn ystod y pandemig. Mae cytundeb lefel gwasanaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - sy'n sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol gan gynnwys cartrefi gofal yn cael PPE  - wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2022.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol o roi biliwn o ddarnau o PPE. Hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion parhaus Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wrth gaffael a darparu PPE i gadw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn ddiogel yn ystod y pandemig.

“Mae cyflenwi a dosbarthu PPE o ansawdd uchel yn dal i fod yn rhan   allweddol o'n hymateb i bandemig COVID-19 sy'n parhau o hyd. 

“Wrth inni gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y gaeaf, a chyda COVID-19 yn dal i roi pwysau ar ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol, rwy'n falch o gadarnhau bod stociau o PPE yn sefydlog ac rydyn ni'n gweithio gyda NWSSP i sicrhau bod gennym gyflenwad am o leiaf 16 wythnos.

“Mae ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig hwn, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i roi PPE am ddim iddynt am gyhyd ag y bydd ei angen i helpu i'w cadw'n ddiogel.”