Skip to main content

Why trains are busy: frequently asked questions

17 Mai 2022

Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw ar lawer o’n gwasanaethau trenau, gyda mwy o bobl yn mwynhau ‘gwyliau gartref’ yn y DU a thripiau diwrnod lleol.

Mae’r cynnydd hwn yn nifer y bobl sy’n teithio gyda ni y tu allan i’r adegau prysuraf traddodiadol wedi arwain at rai trenau prysur. Er bod y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol wedi codi yng Nghymru a Lloegr, bydd hyn yn amlwg yn peri pryder i rai o’n cwsmeriaid. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i leddfu hyn i’r graddau mwyaf posib drwy ychwanegu cerbydau ychwanegol at y gwasanaethau prysuraf, a darparu bysiau i ategu trenau. Ond wrth ymateb i hyn, rydyn ni’n wynebu nifer o broblemau allweddol.

Gwnaethom siarad â Colin Lea, ein Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, i ddarganfod beth rydyn ni'n ei wneud i ymateb i rai o'r heriau mwyaf rydyn ni'n eu hwynebu, ac ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydyn ni'n eu derbyn gan gwsmeriaid trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Pam na allwch chi redeg gwasanaethau’n amlach?

Mae amserlenni trenau ar draws Prydain yn rhan o un system ryng-gysylltiedig. Mae ein cyd-weithwyr yn y diwydiant, Network Rail, yn eu rhoi at ei gilydd. Mae ein gwasanaethau ni yn rhyngweithio â gwasanaethau nifer o wahanol weithredwyr, sydd yn eu tro’n rhyngweithio â mwy byth o wasanaethau gan weddill y gweithredwyr ar draws y rhwydwaith cyfan. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid datrys mannau cul hollbwysig yn y rhwydwaith a diffinio ‘llwybrau’ pendant i bob gweithredwr. Felly, efallai fod rhaid amseru trên yn Abertawe i gwrdd â llwybr penodol i Fanceinion Piccadilly, yn hytrach na'i fod o reidrwydd yn gweithredu ar ei orau ar draws De Cymru a’r Gororau.

Bydd unrhyw newidiadau i amserlenni gan weithredwyr eraill yn effeithio ar ein gwasanaethau ni. Felly, rhaid diweddaru amserlenni ar y cyd â’i gilydd. Y tro diwethaf i’r amserlenni cenedlaethol gael eu diweddaru oedd ym mis Rhagfyr 2021, pan wnaethom adfer rhagor o wasanaethau a oedd wedi cael eu tynnu oddi ar yr amserlen yn ystod pandemig Covid-19, ac rydyn ni’n gweithio ar gynlluniau i ychwanegu rhagor o wasanaethau mewn diweddariadau yn y dyfodol, yn benodol ym mis Mai 2022 cyn cyfnod prysur arall dros yr haf, yn ogystal ag ychwanegu gwasanaethau newydd dros y blynyddoedd nesaf ar ôl cyflwyno ein trenau newydd sbon. Gyda llaw, rydyn ni’n disgwyl i’n trenau newydd cyntaf ddechrau rhedeg yr haf yma yng Ngogledd Cymru.

PSX 20210909 122428

Pam na allwch chi ychwanegu rhagor o gerbydau?

Mae gan drenau gwahanol broffiliau lled, sy’n cael eu galw’n lledau llwytho. Mae hyn yn golygu nad yw pob un yn ffitio ar bob rhan o’r rhwydwaith. Er enghraifft, roedd trenau Pacer yn arfer teithio ar hyd Llinellau’r Cymoedd i gyd. Maen nhw wedi mynd a threnau Class 769 sydd wedi cymryd eu lle. Dim ond rhwng Rhymni a Phenarth mae’r rhain yn gallu rhedeg. Dim ond ar rai llinellau yn ne Cymru y mae trenau Class 170 yn gallu rhedeg hefyd, ac mae Llinell y Cambrian wedi cael ei chyfyngu oherwydd dim ond un fflyd – Class 158 – sy’n gydnaws â’i system signalau unigryw.

Hefyd, mae gan drenau wahanol gyflymder uchaf a chyfraddau cyflymu, sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer llwybrau penodol. Mae gan drên Class 175 gyflymder uchaf uwch ac mae’n fwy addas ar gyfer taith hir o’i gymharu â thrên Class 230, sy’n methu cyrraedd yr un cyflymder uchaf ond sy’n fwy addas ar gyfer llwybr ar ffurf metro, lle mae’n stopio ac yn cychwyn yn aml. Ar ben hynny mae rhai platfformau mewn gorsafoedd rheilffordd yn hirach nag eraill a ddim ond rhai trenau sy’n gallu stopio mewn rhai platfformau.

Mae gan drenau disel danciau tanwydd sy’n amrywio mewn maint, gan olygu mai hyn a hyn gall trên deithio cyn gorfod dychwelyd i’r depo i ail-lenwi’r tanc. Mae hyn yn effeithio ar ba gylchdeithiau y mae trenau’n cael eu rhoi, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw eu tanwydd yn dod i ben.

Mae gan bob trên wahanol set o reolaethau i’w weithredu. Mae gennym lawer o ddepos criwiau trên ar draws y rhwydwaith ac mae pob cyd-weithiwr yn y depos hyn yn ‘rhoi arwydd’ i fathau penodol o drenau, a llwybrau penodol. Byddai newid y trenau neu’r llwybrau y mae ein cyd-weithwyr yn rhoi ‘arwydd’ iddynt yn golygu rhaglenni hyfforddi misoedd, os nad blynyddoedd o hyd, ac felly ar y cyfan mae cyfyngiadau ar ddefnyddio trenau penodol mewn mannau penodol.

Mae gweithredu’r rheilffordd yn bos aml-ddimensiwn ac er ein bod yn ymdrechu i sicrhau’r capasiti iawn yn y man iawn ar yr adeg iawn, nid yw hynny’n bosib bob amser, ac ystyried y cyfyngiadau a nodir uchod.

Pam na allwch chi ychwanegu rhagor o gerbydau ar gyfer yr adegau pan rydych chi’n gwybod y bydd hi’n brysur, fel gwyliau banc a digwyddiadau mawr?

Mae gennym dîm ymroddedig sy’n canolbwyntio ar ddigwyddiadau mawr ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Mae ganddyn nhw galendr manwl o ddigwyddiadau, yn amrywio o ddigwyddiadau bach, i ddigwyddiadau chwaraeon pwysig fel gemau rygbi rhyngwladol yng Nghaerdydd, cyfarfodydd rasio ceffylau yng Nghaer a gwyliau balchder. Rydyn ni hefyd yn ystyried adegau pan fyddwn ni’n gwybod y bydd rhannau o’r rhwydwaith yn brysurach, gan gynnwys penwythnosau braf - rydyn ni’n gwybod y bydd mwy o bobl yn mynd i drefi glan môr fel y Rhyl, Llandudno ac Ynys y Barri.

Yn fwy cyffredinol, rydyn ni hefyd yn gweld bod nifer y teithwyr ar ein gwasanaethau pell wedi codi’n llawer cyflymach yn ôl i lefelau cyn covid na’n gwasanaethau cymudo “cyfnodau brig” traddodiadol.

Rydyn ni’n gallu addasu ein cynlluniau ar gyfer pob diwrnod yn dibynnu ar ble rydyn ni’n disgwyl i wasanaethau fod yn brysurach, drwy ddarparu cerbydau ychwanegol a chynnal ciwiau diogel yn ein prif orsafoedd. Fodd bynnag, oherwydd nifer y trenau yn ein fflyd a’r cyfyngiadau a achosir gan y seilwaith, rydyn ni’n dal i gael ein cyfyngu gan nifer y trenau y gallwn eu rhedeg a nifer y cerbydau y gall pob trên eu cael.

Bydd cyflwyno ein fflyd newydd sbon o drenau yn rhoi mwy o gapasiti a mwy o hyblygrwydd i ni yn gyffredinol, oherwydd byddan nhw’n ei gwneud hi’n haws i ni ychwanegu rhagor o gerbydau at wasanaethau penodol, ond bydd llawer o’r cyfyngiadau seilwaith yn parhau.

Pam na allwch chi ychwanegu rhagor o gerbydau at y fflyd?

Trenau disel sydd ar waith ar y rhan fwyaf o’n gwasanaethau. Ond mae rhagor o reilffyrdd yn cael eu trydaneiddio ac mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed i gael gwared ar drenau disel o’r rhwydwaith erbyn 2040. Oherwydd hyn, mae gwneuthurwyr trenau wedi lleihau nifer y trenau disel maen nhw’n eu hadeiladu. Felly, mae gweithredwyr trenau Prydain yn wynebu sefyllfa anodd. Mae eu fflydoedd trenau disel yn heneiddio ac ychydig iawn o drenau hŷn sydd ar gael gan weithredwyr eraill i’w defnyddio fel ateb dros dro.

Ychydig iawn o drenau disel sbâr sydd ar gael ac a dweud y gwir, rydyn ni hyd yn oed wedi gorfod defnyddio trenau trydanol gynt sydd wedi cael eu trosi’n drenau disel er mwyn darparu capasiti ychwanegol. Mae hyn yn gymhleth ac yn cymryd amser hir.

Hefyd, rhaid i drenau hŷn gydymffurfio â set bwysig o safonau hygyrchedd ac nid yw unrhyw drenau disel sydd ar gael yn cydymffurfio. Mae’n cymryd misoedd lawer i’w newid er mwyn iddynt gydymffurfio, felly nid yw hyn yn ateb sydyn. Fodd bynnag, rydyn ni wedi prynu nifer o’r trenau hynny ac wedi eu trawsnewid.

Cyn bo hir byddwn yn cyflwyno ein trenau disel newydd cyntaf ar gyfer gwasanaethau Cymru a’r Gororau, yn ogystal â thrydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd a gweld trenau trydan newydd yn cyrraedd ar gyfer gwasanaethau Metro De Cymru. Byddwn yn cadw rhai trenau disel hŷn hefyd nes bod y trenau newydd yn cyrraedd.

Chester station Class 158

Fe welais i gerbydau mewn depo – pam na allwch chi eu defnyddio?

Weithiau bydd trên yn methu oherwydd nam ac yn gorfod dychwelyd i’r depo am waith trwsio neu archwiliadau cynnal a chadw ar sail milltiroedd, yn yr un modd â char gyda gwasanaeth a/neu MOT. Rydyn ni’n cadw golwg ofalus ar ein trenau ac yn gweithio’n galed i wasgaru effaith yr archwiliadau hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y nifer uchaf posib o drenau ar gael ar unrhyw un adeg. Ar ôl cyrraedd cerrig milltir mawr, rhaid gwasanaethu trenau’n fwy trwyadl, sy’n golygu eu bod allan o wasanaeth am gyfnod hirach.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud yn ein depos ar draws ein rhwydwaith. Fel arfer, y trenau rydych chi’n eu gweld wedi’u parcio yn y depo yw’r rhai y mae angen archwiliad arnynt, neu’r rhai sydd wedi methu ac mae gwaith trwsio’n cael ei wneud arnynt.

Fe welais i fwy o gerbydau’n cael eu defnyddio ar wasanaeth gwahanol, tawelach – pam?

Bob dydd, mae gennym drenau’n rhedeg o amgylch y rhwydwaith ar “ddiagramau”. Mae diagram yn gyfres o gylchdeithiau sy’n dilyn ei gilydd tan ddiwedd y diwrnod. Mae’r diagramau hyn yn cael eu datblygu gan ein tîm Cynllunio i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael inni, gan gynnwys trenau a’r criwiau trên sydd ar gael i’w gweithredu.

Mae’r tîm Cynllunio yn defnyddio llawer iawn o ddata i wneud penderfyniadau ar nifer y cerbydau i’w darparu – yn benodol nifer y teithwyr sy’n teithio ar wasanaeth penodol fel arfer neu, os oes digwyddiad mawr, nifer disgwyliedig y teithwyr. Os gwelwch chi drên tawelach â mwy o gerbydau’n mynd i’r cyfeiriad arall, y tebyg yw ei fod wedi gweithredu gwasanaeth prysur yn ddiweddar ar daith flaenorol yn ei ddiagram, neu ei fod ar ei ffordd i weithredu gwasanaeth prysur ar gam nesaf ei ddiagram. Fel arfer bydd trên cyfnod prysur i Gaerdydd yn cael ei ddilyn gan drên sydd bron yn wag sy’n gadael Caerdydd, er mwyn i’r trên wedyn allu ffurfio’r trên prysur nesaf yn ôl i gyfeiriad Caerdydd.

Yn dilyn tarfu, weithiau mae trenau yn y man anghywir o’i gymharu â’r cynllun gwreiddiol. Gall hyn olygu nad yw’r capasiti sydd ar gael yn ateb y galw yn dda iawn.

Pacer, Penarth

Beth ydych chi’n ei wneud am y diffyg capasiti?

Mae ein fflyd trenau newydd sbon wrthi’n cael ei hadeiladu. Bydd hyn yn cyflwyno fflyd o 77 trên Class 197 newydd i rwydwaith Cymru a’r Gororau. Mae’r gwaith o adeiladu’r trenau hyn yn mynd rhagddo’n dda yn ffatri’r gwneuthurwr, CAF, yng Nghasnewydd, ac mae’r trenau cyntaf wrthi’n cael eu profi yng ngogledd Cymru cyn cyflwyno yn ystod haf 2022. Bydd y fflyd newydd hon yn cael ei hategu gan nifer fach o drenau wedi’u hadnewyddu a fydd yn cael eu cadw o’n fflyd bresennol i weithredu nifer dethol o wasanaethau intercity o ansawdd uchel a rhai llwybrau teithio llesol gyda lle ychwanegol ar gyfer beiciau.

Rydyn ni hefyd yn adeiladu mathau gwahanol o gerbydau rheilffyrdd newydd a fydd yn cael eu neilltuo i wahanol rannau o rwydwaith Metro De Cymru mewn partneriaeth â’r gwneuthurwr, Stadler. Rydyn ni’n datblygu’r trenau tram trydanol ar gyfer gwasanaethau rhwng Caerdydd a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, a bydd y trenau tri-modd FLIRT yn cael eu neilltuo i wasanaethau rhwng Rhymni, Coryton a Bro Morgannwg, yn ogystal â fersiynau disel o’r FLIRTs hyn ar gyfer gwasanaethau rhwng Caerdydd, Glynebwy, Maesteg a Cheltenham.

Ar y cyfan, bydd gan y fflyd newydd lawer mwy o gapasiti na’n fflyd bresennol, a fydd yn rhoi dros 200 yn fwy o gerbydau i ni na phan ddaethom yn gyfrifol am y gwasanaethau rheilffyrdd yn 2018, ond bydd hefyd yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i ni ar draws ein rhwydwaith.

Hefyd, rydyn ni wedi rhagori ar ein hymrwymiadau gwreiddiol i gaffael trenau ychwanegol ar ben hyn. Yn wreiddiol, dim ond 5 trên oedd am fod yn ein fflyd Class 769, ond cafodd hyn ei ehangu i 8, ac rydyn ni hefyd wedi caffael trenau Class 153 a 230 ychwanegol i ddarparu rhagor o gapasiti. Yn ddiweddar, roedden ni wedi cyhoeddi ein bod wedi caffael cerbydau Mark 4 ychwanegol er mwyn gallu darparu trenau Intercity ar wasanaethau rhwng De Cymru a Manceinion, a threnau mwy rhwng Caerdydd a Chaergybi ar ôl cwblhau’r hyfforddiant a’r gwaith trosi.

TfW - CAF Trains-12-2

Pam mai dim ond trenau dau gerbyd yw rhai o’r trenau newydd rydych chi wedi’u harchebu? Ydy hyn am gynyddu capasiti go iawn?

Bydd 51 o’r trenau Class 197 yn cael eu hadeiladu fel trenau dau gerbyd, a dylid eu hystyried yn flociau adeiladu. Ar gyfer y rhan fwyaf o’r gwasanaethau hir prysur y byddant yn eu gweithredu, bydd trenau’n cael eu rhoi’n sownd i greu trenau pedwar cerbyd. Pe baem wedi archebu trenau pedwar cerbyd, ni fyddem wedi gallu eu rhannu ar adegau tawelach. Byddai hyn yn creu problem pe bai problem gydag un o’r trenau hynny – byddai problem gyda thrên dau gerbyd yn golygu ein bod yn colli dau gerbyd, lle byddai problem gyda thrên pedwar cerbyd yn golygu ein bod yn colli dwywaith cymaint o gerbydau.

Os oes prinder o drenau disel, pam na wnewch chi drydaneiddio’r rheilffordd er mwyn gallu defnyddio trenau trydan?

Mae trydaneiddio’r rheilffordd yn broses drawsnewid fawr sy’n gofyn am waith peirianyddol trwm. Mae’n cymryd nifer o flynyddoedd i’w ddylunio, ei ddatblygu a’i adeiladu, a gall darfu’n sylweddol ar bobl sy’n teithio ar y trên neu’n byw ger y rheilffordd.

Rydyn ni wrthi’n gweithio i drydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu Metro De Cymru ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib ar fywydau pobl.

Network Rail, sy’n atebol i Adran Drafnidiaeth Lywodraeth y DU, sy’n dal i reoli gweddill rhwydwaith Cymru a’r Gororau. Felly, mae unrhyw waith trydaneiddio a moderneiddio ar linellau pellach yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth y DU ar hyn o bryd.

Yn 2020, cyhoeddodd Network Rail achos busnes interim y rhaglen ar gyfer ei Traction Decarbonisation Network Strategy, a oedd yn cynnig trydaneiddio’r rhan fwyaf o’r rhwydwaith, gan gynnwys y prif lwybrau sy’n cysylltu gogledd, de a gorllewin Cymru. Byddai llwybrau heb eu trydaneiddio’n cael eu gweithredu gan drenau wedi’u pweru gan fatris neu hydrogen. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda nhw i ddeall sut gellir moderneiddio’r rhwydwaith er mwyn inni allu darparu gwasanaethau mwy cyflym, aml a gwyrdd drwy’r holl rwydwaith. Fodd bynnag, ni fydd hwn yn ateb sydyn.

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datganoli’r gwaith o reoli rheilffyrdd Cymru i Gymru, a fyddai’n ein galluogi i foderneiddio’r rhwydwaith yn gynt.

Metro work Jan 2021

Cyhoeddedig 07/10/21, diweddaru 17/05/22