English icon English

Rheolau cryfach i ddiogelu lles Cŵn a Chathod Bach yn dod i rym

Stronger Protection for Puppies and Kittens in Wales comes into force

Mae rheolau newydd sy’n amddiffyn cŵn a chathod bach ac sy’n rhoi gwarant i’r prynwr bod yr anifeiliaid wedi’u bridio ar y safle y maen nhw’n cael eu gwerthu ynddo, yn dod i rym heddiw (Gwener, 10 Medi).

Mae hi bellach yn anghyfreithiol i werthwyr masnachol werthu cŵn neu gathod bach os nad ydyn nhw eu hunain wedi’u bridio ar eu safle eu hunain, a rhaid sicrhau hefyd bod y fam yn bresennol.  O hyn ymlaen, chaiff neb brynu ci neu gath fach oni bai ei fod ar y safle lle cafodd ei fridio neu mewn canolfan achub neu ailgartrefu.

          Mae hyn yn cryfhau’r amddiffyniad i’r anifail ac yn lleihau’r risg o glefyd neu drawma.  

          Mae’r amodau y mae cŵn a chathod bach sy’n cael eu gwerthu gan drydydd parti yn gallu bod yn ddrwg o’u cymharu â’r rheini sy’n cael eu gwerthu gan y bridiwr.

Mae rhai cŵn a chathod bach sy’n cael eu gwerthu gan drydydd parti yn gorfod teithio’n bell a newid dwylo nifer o weithiau gan orfod dygymod ag amgylchiadau newydd, a hwythau’n ifanc iawn.  Mae hynny’n gallu arwain at broblemau iechyd, stres a diffyg cyfleoedd i gymdeithasoli.

Bydd y rheoliadau newydd hyn yn cau bylchau yn y gyfraith, gan roi’r cyfrifoldeb am eu gorfodi ar awdurdodau lleol mewn cydwweithrediad â mudiadau ailgartrefu ac achub. Trwy gyfrwng Prawf Busnes cadarn, asesir a yw’r anifeiliaid yn cael eu cadw er mwyn gwneud elw yn unig gyda’r nod o wella amodau’r anifeiliaid trwy helpu’r cyhoedd sy’n eu prynu i wneud penderfyniadau doethach.

          Gyda’r rheoliadau newydd yn dod i rym, ymwelodd y Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths â chanolfan newydd y Dogs Trust yng Nghaerdydd.

          Dywedodd: “Cafodd mwy o sylw ei roi ar ein hanifeiliaid anwes dros y pandemig am iddyn nhw fod yn gymaint o gwmni, cynhaliaeth a thestun llawenydd i lawer o bobl. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr bod cymaint o’n hanifeiliaid anwes â phosibl yn cael y dechrau gorau posibl i’w bywyd heb orfod dioddef amodau annerbyniol all arwain at salwch a thrawma.

          “Bydd y rheoliadau newydd yn annog pobl i ddangos mwy o barch ac i fod yn fwy cyfrifol, yn enwedig wrth feithrin agweddau plant a phobl ifanc, sef perchenogion anifeiliaid anwes y dyfodol yng Nghymru.  Bydd y rheoliadau hefyd yn codi ymwybyddiaeth am safleoedd trwyddedig a’u hawl i werthu anifeiliaid, a byddan nhw’n rhoi’r grym i awdurdodau lleol allu gweithredu os oes pryderon ynghylch sut mae cŵn a chathod yn cael eu bridio a’u gwerthu.

          “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i baratoi’r rheoliadau, gan gynnwys milfeddygon, awdurdodau lleol, elusennau lles anifeiliaid a’r cyhoedd.  Mae eu cyfraniad at greu’r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn amhrisiadwy.”

          Dywedodd Paula Boyden, Cyfarwyddwr Milfeddygol y Dogs Trust: “Rydyn ni’n falch iawn bod trydydd partïon wedi’u gwahardd rhag cael gwerthu cŵn a chathod bach yng Nghymru heddiw. Lles cŵn ein gwlad yw ein blaenoriaeth bennaf ac mae hwn yn gam pwysig iawn i’n helpu i roi stop ar werthu cŵn bach sydd wedi’u bridio o dan amodau gwael.

          “Wedi dweud hynny, dim ond un darn yw hwn yn ein hymdrech i ddileu’r fasnach ofnadwy hon.  Bydd y Dogs Trust yn falch o gael cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n cyfeillion yn y sector lles anifeiliaid, i ystyried unrhyw fesurau eraill sydd eu hangen i sicrhau bod y gwaharddiad yn cael ei orfodi a’i weithredu. Rydyn ni’n gobeithio y bydd hynny’n cynnwys rheoleiddio mudiadau a llochesi ailgartrefu, mesurau i dracio pob ci bach sy’n cael ei fridio a’i werthu, a chryfhau cynllun teithio anifeiliaid anwes.

          “Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at gydweithio â’r Gweinidog i ddiogelu lles cŵn magu a’r cŵn bach sy’n cael eu gwerthu yng Nghymru yn well.”