English icon English

Cymorth Llywodraeth Cymru i helpu busnesau Caerffili i adleoli a diogelu swyddi

Welsh Government support helping Caerphilly business relocate and safeguard jobs

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi nodi bod cymorth gan Llywodraeth Cymru yn helpu busnes ym mwrdeistref sirol Caerffili i ddiogelu ei weithrediadau at y dyfodol drwy adleoli a diogelu swyddi.

Bydd Hawker Siddeley Switchgear, sy'n cynhyrchu switsys trydanol ac offer llinell uwchben, yn defnyddio £500,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i symud o'i safle presennol ym Mhontllanfraith i hen ffatri creu seddi mewnol British Airways yn y Coed-duon gerllaw

Mae'r safle hwn yn lleoliad delfrydol ar gyfer y busnes, y mae ganddo gwsmeriaid mor amrywiol â Network Rail, Western Power Distribution, London Underground, Sydney Trains a phrosiectau metro yn Tsieina a hefyd gwsmeriaid allweddol yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd cyfanswm o 196 o swyddi'n cael eu diogelu yn sgil y cyllid hwn, ac ni fydd y gwaith yn tarfu bron dim ar y gweithlu.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae Hawker Siddeley Switchgear yn gwmni sydd wedi hen sefydlu ac sydd wedi bod yn rhan o’r gymuned leol ers 80 mlynedd. Maent yn gyflogwr pwysig yn y rhanbarth, ac yr wyf wrth fy modd y bydd ein cefnogaeth yn eu helpu i ddiogelu eu gweithrediadau at y dyfodol ar adeg pan maent yn rhagweld twf busnes sylweddol.

"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Cymru, ac wrth i ni adfer ar ôl pandemig y Coronafeirws un o'm blaenoriaethau yw rhoi hwb i economi Cymru, gan sicrhau ei bod yn sbarduno twf cynaliadwy a gwyrdd.

"Mae'r buddsoddiad hwn yn brawf pellach o hynny, ac mae disgwyl i Hawker Siddeley Switchgear chwarae rhan yn y gwaith o gyflwyno seilwaith newydd a fydd yn cymryd lle seilwaith sy’n heneiddio yn y DU a sicrhau bod y rhwydwaith yn addas ar gyfer cerbydau trydan newydd dros y blynyddoedd nesaf.

"Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod heriol dros ben, ond bydd y cyhoeddiad hwn yn diogelu swyddi o safon sy'n cael eu colli o ranbarth De-ddwyrain Cymru ac yn rhoi hwb hanfodol i'r economi leol."

Wrth siarad am y buddsoddiad gan Gronfa Dyfodol yr Economi, dywedodd Chris Abbott, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp BRUSH – rhiant-gwmni Hawker Siddeley Switchgear: "O ystyried hanes lleol balch HSS, rydym wrth ein bodd bod HSS yn symud i'w ffatri a'i safle swyddfa newydd yn y Coed-duon i'w alluogi i barhau â'i stori yng Nghymoedd Cymru. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth i ni edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous wrth i ni dyfu ein busnes a thrwy hynny gefnogi marchnadoedd dosbarthu trydanol y DU a'r byd."