English icon English

Panel o arbenigwyr trafnidiaeth a newid hinsawdd y DU yn cynnal Adolygiad o Ffyrdd

Panel of leading UK  transport and climate change experts to carry out Roads Review

Heddiw, mae'r Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, Lee Waters AS, wedi cyhoeddi y Cadeirydd a’r Panel a fydd yn cynnal Adolygiad o Ffyrdd Llywodraeth Cymru gan gadarnhau'r cynlluniau ffyrdd fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad.

 

Bydd y Panel yn cynnwys arbenigwyr newid hinsawdd a thrafnidiaeth ledled y DU, o dan arweiniad Dr Lynn Sloman MBE, ymgynghorydd trafnidiaeth o Gymru a fu yn ran o Gomisiwn yr Arglwydd Burns.   

Bydd y panel yn cynnwys:

  • Julie Hunt - Peiriannydd Sifil Siartredig a Chadeirydd y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth (Cymru).
  • Yr Athro Glenn Lyons - Prifysgol Gorllewin Lloegr, sy'n arbenigo mewn Symudedd yn y Dyfodol.
  • Geoff Ogden - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynllunio, Datblygu a Chynghori trafnidiaeth Cymru.
  • John Parkin - Athro Peirianneg Trafnidiaeth a Dirprwy Gyfarwyddwr y Ganolfan Drafnidiaeth a Chymdeithas ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.
  • Yr Athro Andrew Potter - arbenigwr Ysgol Busnes Caerdydd ym maes cludo nwyddau, logisteg a rheoli gweithrediadau.
  • Helen Pye - Pennaeth ymgysylltu yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda chyfranogiad mewn rheoli traffig a pharcio.
  • Eurgain Powell - Arbenigwr trafnidiaeth gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd:

"Mae trafnidiaeth yn cynhyrchu tua 17% o'n holl allyriadau, felly rhaid iddo chwarae ei ran os ydym am gyrraedd ein targed o allyriadau sero net erbyn 2050.

"Mae angen symud i ffwrdd o wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru a gwario mwy o arian ar gynnal ein ffyrdd a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn."

" Rydym yn cydnabod bod y penderfyniadau hyn yn codi tensiynau, ond rhaid inni wynebu hynny os ydym am wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid ydym yn dweud mai dyma ddiwedd y gwaith o adeiladu ffyrdd yng Nghymru, ond bydd y panel o arbenigwyr yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn sicrhau nad dyma'r ymateb diofyn i broblem trafnidiaeth mwyach.

"Yn hytrach, bydd arian sy'n cael ei arbed drwy beidio ag adeiladu ffyrdd newydd yn cael ei ddefnyddio i wella'r seilwaith presennol, gan helpu i greu lonydd bysiau a beicio newydd sy'n rhoi dewis amgen ystyrlon i bobl ar gyfer teithio."

Dywedodd Dr Lynn Sloman, Cadeirydd y Panel:

"Bydd y Panel yn dod â chyfoeth o brofiad ac amrywiaeth o safbwyntiau i'r Adolygiad hwn. Mae'r argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn hanfodol ein bod yn osgoi unrhyw fuddsoddiad sy'n cynyddu allyriadau carbon, yn enwedig yn y 15 mlynedd nesaf pan fydd y rhan fwyaf o geir ar y ffordd yn dal i fod yn gerbydau petrol a disel. Ond mae angen i ni hefyd ddeall y problemau y mae cynlluniau ffyrdd wedi'u dylunio i fynd i'r afael â nhw – boed yn ddiogelwch, ansawdd aer neu bod yn annibynadwy – ac ystyried sut y gellir mynd i'r afael â'r problemau hynny heb gynyddu carbon."

Bydd y Panel yn darparu ei adroddiad terfynol yr haf nesaf.