Skip to main content

Transport for Wales support for Alzheimer’s Society Cymru is on track

28 Medi 2021

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi datgelu dyluniad newydd ar un o’i brif drenau i gefnogi Alzheimer’s Society.

Pleidleisiodd aelodau’r cyhoedd, drwy gyfrif Twitter TrC, dros dair elusen yr hoffent weld y sefydliad yn eu cefnogi drwy frandio nifer o’i drenau. Dyma’r elusennau a ddewiswyd:

  1. Tŷ Gobaith (gwasanaethau hosbis plant) – bydd y trên yn cael ei lansio cyn bo hir.
  2. RNLI (elusen bad achub) – lansiwyd y trên ym mis Awst 2021.
  3. Alzheimer’s Society Cymru (elusen dementia) - lansiwyd yn swyddogol yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 27 Medi (i gyd-fynd â’r ffaith mai mis Medi yw mis Alzheimer y Byd).

Mae set o gerbydau Marc IV newydd TrC wedi cael eu dylunio â brand trawiadol Alzheimer’s Society Cymru, ac arnynt wybodaeth ddwyieithog sy’n nodi lle mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr elusen a dementia. Wrth i’r trên wedi’i frandio deithio o amgylch rhwydwaith Cymru a’r Gororau, credir y bydd y trên newydd hwn yn cyrraedd cynulleidfa o gannoedd o filoedd, yn enwedig wrth i fwy a mwy o bobl ddychwelyd i deithio ar drenau.

Mae TrC eisoes yn cefnogi Alzheimer’s Society Cymru ac yn cefnogi menter Cyfeillion Dementia yr elusen. Mae sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia wedi’u cynllunio i newid y ffordd mae pobl yn meddwl, yn gweithredu ac yn siarad am ddementia. Mae manylion sesiynau gwybodaeth Cyfeillion Dementia wedi’u cynnwys yn rhaglen sefydlu staff TrC a chaiff staff eu hannog i ddod yn Gyfeillion Dementia. Pan fydd staff wedi mynychu sesiwn wybodaeth (ar-lein neu wyneb yn wyneb) gallant wisgo bathodyn Cyfeillion Dementia y Gymdeithas ar eu laniard. Gall cwsmeriaid weld wedyn bod ganddynt ddealltwriaeth well o ddementia, sy’n gallu bod o fudd i’r rheini sydd â dementia neu’r rheini sy’n teithio gyda rhywun sydd â dementia.

Dywedodd Bethan Jelfs, Cyfarwyddwr Pobl a Newid TrC:“Rydyn ni’n hynod falch o gefnogi Alzheimer’s Society Cymru. Mae’r bobl sy’n gysylltiedig â’r elusen yn rhoi cymaint i’r rheini sy’n estyn allan am gymorth, boed hynny dros y ffôn, ar-lein neu wyneb yn wyneb.

“Rydw i’n edrych ymlaen at weld trên Marc IV Alzheimer’s Society Cymru yn rhedeg ar draws ein rhwydwaith ac rydw i’n falch iawn ein bod yn gallu hyrwyddo’r elusen a’i negeseuon allweddol i gynulleidfa fawr.”

Sue Phelps – Cyfarwyddwr Gwlad Alzheimer’s Society Cymru:“Rydyn ni wrth ein bodd bod aelodau o’r cyhoedd wedi pleidleisio dros gael ein logo a’n gwybodaeth ni ar drên Marc IV Alzheimer’s Society Cymru Trafnidiaeth Cymru. Am ffordd wych ac unigryw o godi ymwybyddiaeth o ddementia sy’n effeithio ar 45,000 o bobl yng Nghymru. Mae pobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw wedi’i  chael hi’n wael yn ystod y pandemig. Mae gwasanaethau cymorth Alzheimer’s Society wedi bod yn achubiaeth, ac wedi cael eu defnyddio dros chwe miliwn o weithiau ers mis Mawrth 2020, sy’n dangos bod pobl ein hangen ni yn fwy nag erioed. 

“Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag sy’n digwydd, gallwch droi at Alzheimer’s Society Cymru am gymorth a chyngor. Mae llinell gymorth Dementia Connect Alzheimer’s Society (llinell ffôn Gymraeg 0330 947 400/llinell ffôn Saesneg 0333 150 3456) ar agor saith diwrnod yr wythnos i roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol i unrhyw un y mae dementia yn effeithio arnyn nhw, neu gallwch fynd i www.alzheimers.org.uk.”

Mae gan Alzheimer’s Society Cymru bum neges allweddol yr hoffent i bawb wybod:

  1. Dydy dementia ddim yn rhan naturiol o heneiddio;
  2. Caiff dementia ei achosi gan glefydau’r ymennydd;
  3. Nid mater o golli eich cof yn unig yw hyn;
  4. Mae pobl yn dal i allu byw’n dda gyda dementia;
  5. Mae Alzheimer’s Society Cymru yno i unrhyw un y mae dementia yn effeithio arnyn nhw. 

Mae Alzheimer’s Society Cymru yn annog unrhyw un y mae dementia yn effeithio arnyn nhw i gysylltu i weld pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.

Nodiadau i olygyddion


Er gwaethaf ei henw, mae’r elusen yn helpu mwy na dim ond pobl sydd â chlefyd Alzheimer. Mae sawl math o ddementia, sy’n derm mantell. Mae’r mathau o ddementia yn cynnwys dementia fasgwlar, dementia cyrff Lewy, dementia blaen-arleisiol, syndrom Korsakoff, clefyd Creutzfeldt–Jakob, nam gwybyddol sy’n gysylltiedig â HIV, nam gwybyddol ysgafn ac achosion llai prin eraill o ddementia.

  • Rhaglen Cyfeillion Dementia Alzheimer’s Society yw’r fenter fwyaf erioed i newid canfyddiadau pobl o ddementia. Ei nod yw trawsnewid y ffordd y mae’r genedl yn gweithredu, yn meddwl ac yn siarad am y cyflwr. Erbyn hyn mae dros 4 miliwn o Gyfeillion Dementia. P’un a ydych chi’n mynd i sesiwn wyneb yn wyneb neu’n gwylio’r fideo ar-lein, mae Cyfeillion Dementia Alzheimer’s Society yn ymwneud â dysgu mwy am ddementia a’r pethau bach y gallwch chi eu gwneud i helpu.
  • Atodiadau: Lluniau ar gyfer trên Marc IV wedi’i frandio â logo Alzheimer’s Society Cymru a llun o fathodyn Cyfeillion Dementia Alzheimer’s Society, sy’n cael ei wisgo gan nifer o staff TrC ar draws rhwydwaith Cymru a’r gororau. Hefyd, llun o Bethan Jelfs.