English icon English

Delweddau newydd yn dangos gwir raddfa rhaglen metro uchelgeisiol Gogledd Cymru

New images show true scale of ambitious North Wales metro programme

Mae delweddau newydd wedi'u rhyddhau sy'n dangos gwir raddfa rhaglen metro uchelgeisiol Gogledd Cymru.

Rhyddhawyd y delweddau cyn ymweliad gan Lee Waters â Gorsaf Gyffredinol Wrecsam heddiw (dydd Gwener, Medi 10).

Roedd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, gyda chyfrifoldeb dros drafnidiaeth, yn yr orsaf i weld y gwaith sy'n digwydd ar gynllun metro gogledd Cymru diolch i dros £9m y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar. Mae hyn yn rhan o £50m a ddarparwyd ers 2020.

Mae'r delweddau newydd yn dangos blaenoriaethau hyd at 2029 sy'n cynnwys gwelliannau mawr mewn gorsafoedd poblogaidd, creu gorsafoedd newydd a threnau amlach yr holl ffordd o Fangor i Wrecsam.

Maent hefyd yn cipio prosiectau mwy uchelgeisiol, hirdymor gan gynnwys trydaneiddio o Gaergybi ar draws i Gaer ac estyniadau i orllewin Cymru ac i'r gogledd o Ynys Môn.

Yn ystod yr ymweliad â Wrecsam, llwyddodd y Dirprwy Weinidog i ddysgu mwy am brosiectau a fydd yn elwa o'r cyllid eleni gan gynnwys:

  • £4.8m ar gyfer gwelliannau i fysiau gan gynnwys sgriniau gwybodaeth ar draws rhwydwaith Traws Cymru, adnewyddu gorsaf fysiau Bangor, a chynlluniau fflecsi newydd
  • £2.7m ar gyfer gwelliannau mewn gorsafoedd trên gan gynnwys Wrecsam, a gwelliannau hygyrchedd
  • mwy na £1m i edrych ar ffyrdd o wella cysylltedd rhwng Wrecsam a Lerpwl.
  • mwy na £1m ar gyfer Strategaeth Drafnidiaeth Eryri sy'n ceisio annog parcio a theithio, teithio ar fysiau a theithio llesol yn y Parc Cenedlaethol.
  • £1.5m i ddatblygu gorsaf integredig yn Shotton
  • £670,000 tuag at ddatblygu Parkway Glannau Dyfrdwy.
  • £900,000 tuag at astudiaeth o brif rwydwaith arfordir gogledd Cymru, gyda'r bwriad o wella amseroedd teithio.
  • £250,000 i gefnogi'r gwaith o gyflwyno tocynnau integredig ar fysiau

Dywedodd y Dirprwy Weinidog: "Yng ngogledd Cymru, rydym wedi sefydlu'r sylfeini ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau trawsnewidiol a theithio llesol.

"Ochr yn ochr â lleihau unigedd gwledig a gwella cyfleoedd gwaith, busnes a hamdden ledled gogledd Cymru, bydd y cynlluniau hyn hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu economi ehangach y rhanbarth.

"Bydd ein rhwydwaith trafnidiaeth yn newid y ffordd rydym yn teithio drwy greu rhwydweithiau bysiau, rheilffyrdd a beicio a cherdded modern, cynaliadwy, a chreu amrywiaeth o gyfleoedd gwaith a hamdden tra'n lleihau effaith amgylcheddol.

"Byddant hefyd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni blaenoriaethau ac amcanion ein strategaeth drafnidiaeth newydd uchelgeisiol, Y Llwybr Newydd a'n helpu i gyrraedd ein targed o wneud 45% o deithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol erbyn 2040, gan helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, allyriadau carbon a llygredd aer.

"Cyn bo hir, gall pobl ledled Cymru ddisgwyl rhwydwaith o lwybrau a chyfnewidfeydd sy'n cynnig gwasanaethau cyflymach, amlach a dibynadwy ar gerbydau mwy cyfforddus, hygyrch a gwyrddach.

"Fodd bynnag, allwn ni ddim cyflawni ein huchelgeisiau cyffredin i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd heb gefnogaeth Llywodraeth y DU i ddarparu'r rhaglenni hyn lle mae teithwyr yn dibynnu'n drwm ar welliannau ar seilwaith Network Rail."

Roedd y Dirprwy Weinidog hefyd yn gallu gweld cynnydd cynnar yn cael ei wneud ar brosiect Porth Wrecsam sy’n werth miliynau o bunnoedd.

Bydd y prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i £25m gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth eleni, yn trawsnewid un o'r prif lwybrau i ganol tref Wrecsam ac yn cael ei gyflwyno drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn cydweithrediad â Thrafnidiaeth Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.