English icon English

Cenhedloedd datganoledig yn galw am ymdrech ar y cyd i gyrraedd y rhai mewn angenLlythyr yn annog strategaeth fudd-daliadau ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

Devolved nations call for joint effort to reach those in need Letter urges UK-wide benefit strategy.

Mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi uno er mwyn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod yr unigolion hynny sydd â hawl i gael cymorth ariannol yn ei dderbyn.

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ymuno â Gweinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon i ysgrifennu at y Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Thérèse Coffey, yn gofyn am gydweithio er mwyn creu strategaeth hawlio budd-daliadau.

Mae’r gwledydd datganoledig hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud y cynnydd presennol o £20 yr wythnos ar gyfer Credyd Cynhwysol yn un parhaol a’i ehangu i’r budd-daliadau a fydd, ymhen amser, yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol, megis y Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm. Cyflwynwyd y cynnydd i helpu teuluoedd incwm isel i ddelio â chostau ychwanegol COVID-19, a’r bwriad yw ei ddirwyn i ben ym mis Ebrill 2021.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn said:

“Mae’n hollbwysig bod pobl yn ymwybodol o’r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae’r pandemig wedi taflu cysgod hir ar yr unigolion mwyaf anghenus ac mae wedi amlygu pwysigrwydd cael rhwyd ddiogelwch ariannol gadarn yn eu lle i deuluoedd ac unigolion. Mae rhaid hefyd sicrhau bod rhaglenni cyllido yn cael yr effaith fwyaf ar fywydau’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Wrth gael dull gweithredu strategol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, bydd sicrwydd bod pawb yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

“Rydym wedi nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu incwm teuluoedd sy'n byw mewn tlodi i'r eithaf a'u cefnogi i feithrin eu gwydnwch ariannol. Rydym wedi ei gwneud yn haws i bobl wneud cais am daliadau brys drwy ein Cronfa Cymorth Dewisol ac rydym wedi rhoi bron i £9m ychwanegol yn y gronfa hon. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am y prif gyfryngau i fynd i'r afael â thlodi – mae treth a lles yn allweddol i wella canlyniadau i deuluoedd incwm isel."

"Byddwn yn parhau i lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal y taliad wythnosol o £20 ar gyfer aelwydydd incwm isel ar Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith. Gallai’r bwriad i dynnu'r taliad hwn yn ôl fis Ebrill nesaf wthio miloedd yn rhagor o aelwydydd i dlodi.

Dywedodd Ysgrifennydd Nawdd Cymdeithasol Llywodraeth yr Alban Shirley-Anne Somerville:

“Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt ac yn gallu cael gafael arno.

"Mae sicrhau bod gymaint â phosibl yn hawlio budd-daliadau dyledus iddynt yn rhwymedigaeth foesol, yn enwedig yn y cyfnod ansicr hwn pan fo tystiolaeth glir o'r angen cynyddol am gymorth."

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i gynyddu incwm teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i’r eithaf yn Tlodi plant: cynllun gweithredu pwyslais ar incwm.

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ei strategaeth gyntaf o ran hawlio budd-daliadau ym mis Hydref 2019, a bydd yn cyhoeddi’r nesaf erbyn mis Hydref 2021.

Mae strategaeth hawlio budd-daliadau Gogledd Iwerddon, Make the Call, wedi cynhyrchu dros £260 miliwn y flwyddyn mewn budd-daliadau ychwanegol i’r preswylwyr ers 2005.

Nid oes gan yr Adran Waith a Phensiynau ddull gweithredu cyhoeddedig ar gyfer hyrwyddo budd-daliadau’r Deyrnas Unedig, nac i gefnogi pobl i gael mynediad at arian sy’n ddyledus iddynt.

DIWEDD