English icon English

Cynllunio ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd

Plans for safe return of students to Welsh universities in new year

  • Dychwelyd mewn ffordd sy’n cael ei rheoli dros gyfnod o 4-5 wythnos, gan gychwyn ar 11 Ionawr
  • Bydd y rhaglen profion llif unffordd yn ailgychwyn, er mwyn galluogi myfyrwyr i ddychwelyd i’w llety yn ystod y tymor a dysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel o fis Ionawr
  • Gofyn i fyfyrwyr gymryd dau brawf dros gyfnod o dri diwrnod, neu leihau eu cysylltiadau a pheidio cymysgu am 14 diwrnod pan fyddant yn dychwelyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dychweliad diogel myfyrwyr i brifysgolion Cymru ar ôl gwyliau'r Nadolig. 

Gwahoddir myfyrwyr i ddychwelyd i'r campws dros gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau o 11 Ionawr, gyda dychweliad graddol i addysgu wyneb yn wyneb. Bydd prifysgolion yn blaenoriaethu myfyrwyr y mae angen iddynt ddychwelyd yn gynnar, fel y rhai sy'n astudio mewn proffesiynau gofal iechyd, a’r rhai sydd ar leoliadau neu sydd angen mynediad i gyfleusterau campws.  

Cefnogir y broses ddychwelyd drwy barhau â'r cynlluniau peilot profion llif unffordd, ar gyfer myfyrwyr asymptomatig, a ddechreuodd ym mhrifysgolion Cymru ddiwedd mis Tachwedd.

Gofynnir i fyfyrwyr gymryd prawf llif unffordd pan fyddant yn dychwelyd i'w llety prifysgol, cyn gofyn iddynt osgoi cyfarfod i gymdeithasu am dri diwrnod. Bydd y myfyrwyr hynny wedyn yn cymryd ail brawf. Bydd myfyrwyr nad ydynt yn cymryd prawf yn cael eu cynghori i leihau eu cysylltiadau a pheidio cymysgu am 14 diwrnod.  

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

“Rwy'n gwybod y bydd myfyrwyr yn awyddus i ddychwelyd i gampws eu prifysgol ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond byddant am wneud hynny mewn ffordd ddiogel.

"Bydd myfyrwyr hefyd eisiau dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb, lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Rydym yn rhoi'r mesurau hyn ar waith i sicrhau hyder wrth ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ac i leihau'r risg y bydd angen i nifer fawr o fyfyrwyr hunanynysu yn ystod y tymor.

“Bydd y rhaglen profion unffordd hefyd yn allweddol er mwyn ailddechrau dysgu'n ddiogel ar y campws. Bydd dychwelyd fesul cam, mewn ffordd sy’n cael ei rheoli, yn helpu i ateb y galw fel y gall pob myfyriwr gael dau brawf. Bydd hyn yn helpu i dorri’r gadwyn drosglwyddo gan y bydd modd i unrhyw un sy’n heintus heb wybod hynny hunanynysu a lleihau’r risg o drosglwyddo’r feirws i eraill.

“Mae sicrhau bod dysgwyr o bob oed yn gallu parhau i astudio wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, er gwaethaf yr heriau parhaus sy'n ein hwynebu o hyd.

“Mae'n bwysig, yn ogystal â chael mynediad i'r rhaglenni profi sydd ar waith yn ein prifysgolion, fod myfyrwyr yn parhau i ymddwyn yn gyfrifol i ddiogelu eu hunain ac eraill.”

Dywedodd Becky Ricketts, Llywydd UCM Cymru:

"Nawr mae gan fyfyrwyr y sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio i ddychwelyd i'r campws yn y flwyddyn newydd. Bydd parhau i ddefnyddio profion llif unffordd ar gyfer unigolion asymptomatig yn helpu i ddiogelu myfyrwyr a staff prifysgolion, ac yn rhoi hyder i gymunedau lleol y bydd y broses o ddychwelyd myfyrwyr yn cael ei rheoli'n ddiogel."