English icon English

Y Rhaglen Trawsnewid Trefi i roi hwb ariannol i drefi a busnesau ar draws Cymru

Transforming Towns programme to provide funding boost for towns and businesses across Wales

Cyn dydd Sadwrn y Busnesau Bach [5 Rhagfyr], mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi hwb ariannol o £10m i ganol trefi, o dan y rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £90m, i gefnogi busnesau a chynyddu bywiogrwydd ac ymwelwyr mewn trefi ar draws Cymru.

Bydd y cynllun benthyca yn helpu awdurdodau lleol i leihau nifer y safleoedd ac adeiladau gwag, segur ac nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol yng nghanol trefi drwy ddarparu benthyciadau di-log i ailddatblygu neu adnewyddu safleoedd. 

Bydd yr eiddo'n cael ei ailddatblygu fel siopau, cartrefi a chyfleusterau hamdden, gyda benthyciadau'n cael eu hailgylchu hyd at dair gwaith dros gyfnod o 15 mlynedd. Ar ôl eu had-dalu gellir eu defnyddio eto i ariannu benthyciadau newydd y gellir eu hailfuddsoddi mewn prosiectau tebyg.

Fel rhan o fuddsoddiad cyffredinol Llywodraeth Cymru o £41.6m, mae prosiectau llwyddiannus blaenorol yn cynnwys y Tramshed yng Nghaerdydd, Tŷ Castell yng Nghaernarfon a'r Llys Ynadon yn y Drenewydd.

Fe wnaeth y Tramshed yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd, sy'n gweithredu fel canolbwynt i fusnesau lleol eraill ac sydd wedi ad-dalu ei fenthyciad o £500,000 yn llawn, ddefnyddio’r arian i greu cannoedd o swyddi, lletya 25 o fentrau, creu 7,500 troedfedd sgwâr o ofod busnes, cefnogi dros 40 o ddigwyddiadau cymunedol bob blwyddyn, a chynyddu nifer yr ymwelwyr 25,000 o bobl y flwyddyn.

Mae awdurdodau lleol a ariennir drwy’r cylch ceisiadau eleni’n cynnwys:

  • £555,000 ar gyfer Blaenau Gwent;
  • £1,205,000 ar gyfer Caerdydd;
  • £1,000,000 ar gyfer Conwy;
  • £840,000 ar gyfer Sir y Fflint;
  • £500,000 ar gyfer Gwynedd;
  • £400,000 ar gyfer Ynys Môn;
  • £5,000,000 ar gyfer Abertawe;
  • £500,000 ar gyfer Wrecsam.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

"Mae'r cynllun benthyca Trawsnewid Trefi yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfywio ein canol trefi a rhoi eu hiechyd a'u bywiogrwydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r benthyciadau hyn yn cefnogi gweithgareddau sy'n denu ymwelwyr, yn mynd i'r afael â safleoedd ac adeiladau gwag ac yn cefnogi busnesau i dyfu a ffynnu.

"Mae'r ffordd rydyn ni'n defnyddio ein canol trefi wedi newid ac mae llawer o drefi'n cael trafferth yn sgil gostyngiad mewn gwerthiannau manwerthu. Er bod busnesau yn ein trefi ac ar ein stryd fawr wedi wynebu heriau yn ystod pandemig y coronafeirws, rydym hefyd wedi gweld newid cadarnhaol tuag at siopa'n lleol. Rwy'n gobeithio y bydd y cyllid hwn yn galluogi’r newid hwn i barhau a dod yn rhan annatod o'r ffordd rydym yn siopa ac yn defnyddio ein trefi yn y blynyddoedd i ddod."

Mae'r cyllid hwn yn rhan o gyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru o £900m ar gyfer prosiectau adfywio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

  • Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ymgyrch sy'n tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i 'siopa'n lleol' a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.
  • Mae'r £10m yn cynnwys cyllid benthyciadau cyfalaf.
  • Mae rhaglen benthyciadau Trawsnewid Trefi wedi bod ar waith ers 5 mlynedd ac mae'n gweithredu yn 15 o'r 22 awdurdod lleol ledled Cymru.
  • Gall Awdurdodau Lleol ond ddefnyddio'r benthyciad i ddarparu benthyciadau i drydydd partïon.
  • Gellir ailgylchu'r cyllid dros gyfnod o 15 mlynedd a bydd Llywodraeth Cymru’n disgwyl iddo gael ei ddychwelyd yn llawn ar ôl 15 mlynedd.