English icon English

Annog pobl Cymru i ddal ati gydag ymdrech ailgylchu WYCH y Nadolig hwn i helpu Cymru i gyrraedd rhif un

People in Wales urged to keep up MIGHTY recycling effort this Christmas to help Wales get to number one

  • Arwyddion cynnar yn dangos cynnydd mewn ailgylchu yn ystod y cyfnod clo – gwnaethom ailgylchu 21% yn fwy o wastraff bwyd na’r adeg hon y llynedd
  • 55% ohonom yn ailgylchu mwy nag y gwnaethom y llynedd
  • Athletwr eithafol a chogydd Matt Pritchard yn cefnogi’r ymgyrch i ailgylchu mwy o fwyd gyda fideo sy’n cynnwys rysáit Nadolig unigryw

Wrth i gyfraddau ailgylchu Cymru gyrraedd y lefelau uchaf erioed, mae pobl Cymru’n cael eu hannog i barhau â’u hymdrechion ‘gwych’ o ran ailgylchu y Nadolig hwn

Mae data blynyddol newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru* yn dangos bod cyfradd ailgylchu gyffredinol Cymru wedi cynyddu’n fawr eleni – o 63% yn 2018/19 i 65% yn 2019/20, sy’n fwy na’i tharged o 64%.

Gyda 55% ohonom bellach yn ailgylchu mwy nag yr oeddem y llynedd yn ôl y dangosyddion cynnar yn yr Arolwg Tracio Ailgylchu **, mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â WRAP, yr elusen ar gyfer ymgyrch Cymru yn Ailgylchu, yn annog deiliaid cartrefi i barhau â’r gwaith da dros y Nadolig gyda’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha i sicrhau bod Cymru’n cyrraedd rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu. Cefnogir yr ymgyrch gan yr athletwr eithafol a’r cogydd, Matthew Pritchard.

Gwnaeth yr amcangyfrifon cynnar hefyd ddatgelu bod y cyfnod clo wedi cael effaith gadarnhaol ar ailgylchu gan fod llawer ohonom yn treulio mwy o amser gartref. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin gwnaethom ailgylchu 19% yn fwy o’n gwastraff o’i gymharu â’r un adeg y llynedd***. Roedd cynnydd o 21% mewn ailgylchu gwastraff bwyd, gan greu digon o ynni i gyflenwi 160,152 o gartrefi teuluol nodweddiadol am ddiwrnod cyfan, neu 1.44 miliwn o oergelloedd am 2.5 diwrnod – un oergell ar gyfer pob cartref yng Nghymru.

Gyda’r Nadolig ar y gorwel, mae ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha Cymru yn Ailgylchu yn tynnu sylw at ffyrdd syml y gallwn wneud hyd yn oed yn fwy o ymdrech drwy ailgylchu eitemau Nadoligaidd, megis gwastraff cinio Nadolig sy’n cynnwys esgyrn twrci a chrafion llysiau, casys mins-pei a phecynnau cardbord. Gall hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu’r amgylchedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster prosesu arbennig lle y caiff ei droi’n ynni gwyrdd. Mae un cadi yn unig o wastraff bwyd yn cynhyrchu digon o drydan i gyflenwi teledu am 2 awr neu oergell am 18 awr.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Dylem fod yn falch iawn o’n hymdrech ailgylchu wych eleni, yn ystod blwyddyn a fu’n heriol i bawb. Mae pawb wedi chwarae ei ran wrth gyflawni hyn, felly dalier ati gyda’r gwaith da.

“Rydym wedi datblygu’n fawr ers inni ddechrau ailgylchu fwy nag 20 mlynedd yn ôl. Ond er y dylem ddathlu ein hymdrechion hyd yn hyn, mae yna bethau bach cyflym y gallwn ni gyd ei wneud a fydd yn ein helpu i gyrraedd rhif un.

“Mae bron i hanner ohonom yn dal i daflu pethau i ffwrdd yn ein gwastraff cyffredinol a allai gael ei ailgylchu. Felly, beth am wneud ymdrech arbennig y Nadolig hwn i ailgylchu ein gwastraff bwyd ac eitemau Nadoligaidd eraill na fyddem o bosibl yn meddwl ar unwaith y gallwn eu hailgylchu megis casys mins-pei a helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Mae’r cogydd enwog, yr awdur a’r athletwr eithafol Matthew Pritchard yn cefnogi ymgyrch Cymru i arwain y byd drwy rannu ei awgrymiadau gwych ar sut i ganolbwyntio ar wastraff bwyd y Nadolig hwn gyda fideo sy’n cynnwys rysáit unigryw (DOLEN).

Meddai Matthew: “Nadolig yw’r adeg pan fo pawb yn creu mwy o wastraff ac mae hynny’n arbennig o wir o ran bwyd. Dyna pam dw i’n cefnogi’r ymgyrch wych hon i ddangos pa mor hawdd yw hi i ddefnyddio eich cadi gwastraff bwyd a pham ei fod mor bwysig.

“Os ydych chi’n berson lwcus, fel fi, sy’n paratoi eich cinio Nadolig, rhowch y crafion llysiau a choesau ysgewyll Brwsel ac esgyrn a thrimins y twrci yn y cadi gwastraff bwyd. Drwy wneud hynny, ni fyddant yn cael eu gwastraffu. Yn hytrach, byddant yn cael eu hailgylchu a’u troi’n ynni gwyrdd sy’n cael ei ddefnyddio i gyflenwi ein cartrefi. Mae’r un peth yn wir am blicion ffrwythau, masgal wyau a chnau, grownds coffi, bagiau te a chrafion o’r plât. Mae’r holl wastraff bwyd hwn yn adnodd gwerthfawr, felly peidiwch â’i wastraffu!

“Gwyliwch fy fideo am ychydig o ysbrydoliaeth ar sut i fwynhau eich llysiau y Nadolig hwn. Mae’n cynnwys rhai ryseitiau hawdd a chyflym yn ogystal ag awgrymiadau ailgylchu gwych ar sut i roi’r holl eitemau bwyd hynny na allwn eu bwyta yn eich cadi gwastraff bwyd.”

Dywedodd Carl Nicholas, Pennaeth WRAP Cymru: “Nid lleihau gwastraff yn unig yw ailgylchu. Mae’n gallu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn bwysig iawn mae’n darparu adnoddau i greu deunyddiau newydd.

“Mae chwarter o’r hyn rydym yn ei daflu i ffwrdd yn wastraff bwyd felly dros y Nadolig mae cyfle mawr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy’r roi’r holl wastraff bwyd hynny na ellir ei osgoi yn ein cadi gwastraff bwyd yn hytrach nag yn y gwastraff cyffredinol. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru eisiau gwella o ran ailgylchu. Felly os gallwn ni gyd wneud ymdrech wych i ailgylchu ein gwastraff bwyd y Nadolig hwn, byddwn ymhell ar ein ffordd i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd.”

Rhagor o wybodaeth yma: www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha  

 

Awgrymiadau Ailgylchu 12 Diwrnod y Nadolig Cymru yn Ailgylchu

Yn draddodiadol y Nadolig yw’r adeg o’r flwyddyn rydym yn creu’r gwastraff mwyaf gartref. Gyda’r holl fwyd ychwanegol rydym yn ei fwyta a’r mynydd o ddeunydd pacio a ddaw o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle penigamp i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu gymaint ag y bo modd gartref yn hytrach na thaflu’r eitemau hyn i ffwrdd.

Mae Cymru yn Ailgylchu yn dod â 12 Diwrnod y Nadolig yn fyw drwy dynnu sylw at 12 eitem Nadoligaidd gyffredin sy’n gallu cael eu hailgylchu, o dybiau siocled a chasys ffoil mins-pei i drimins twrci a chrafion llysiau o’r cinio Nadolig.

Drwy ddal ati gallwn helpu Cymru ar ei hymgyrch wych i gyrraedd rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu.

  1. Ailgylchwch eich bagiau te

Mae 69% o bobl Cymru’n ailgylchu eu bagiau te. Mae ailgylchu dau fag te yn unig drwy eu rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd yn gallu creu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn.

  1. Dangoswch pwy sy’n feistr ar y poteli plastig

Mae dros 85% ohonom yn ailgylchu ein poteli plastig megis poteli diodydd, cynnyrch glanhau a photeli pethau ymolchi. Dylech wacáu a gwasgu’r poteli a thynnu’r caeadau oddi arnynt cyn ailgylchu. Tynnwch unrhyw bympiau a theclynnau chwistrellu yn gyntaf gan nad yw’r rheini yn gallu cael eu hailgylchu. Mae ailgylchu un botel siampŵ yn unig yn arbed digon o ynni i gyflenwi stereo yn y cartref am bum awr.

  1. Concrwch eich pecynnau cardbord

Rydym yn defnyddio mwy o gardbord dros y Nadolig nag unrhyw adeg arall yn ystod y flwyddyn. Mae 86% o bobl Cymru yn ailgylchu eu cardbord. Cofiwch dynnu unrhyw dâp pacio a gwasgu bocsys yn wastad er mwyn arbed lle yn eich cynhwysydd ailgylchu.

  1. Chwistrellwch

Ailgylchwch ganiau aerosol o’ch ystafell wely a’ch ystafell ymolchi, megis chwistrell i’r gwallt, diaroglydd a jel eillio. Mae 73% ohonom yn ailgylchu ein caniau aerosol gwag. Mae ailgylchu un aerosol yn unig yn gallu arbed digon o ynni i gyflenwi stereo yn y cartref am 32 awr. Mae hynny’n gryn dipyn o ganeuon Nadoligaidd! Gwnewch yn siŵr eu bod yn wag a thynnwch unrhyw gapiau plastig.

  1. Casys ffoil mins-pei

Gall metel gael ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli ei ansawdd, gan gynnwys casys mins-pei a ffoil a ddefnyddiwyd wrth goginio sy’n lân. Mae 70% ohonom yng Nghymru yn ailgylchu ein ffoil. Gwasgwch eitemau ffoil yn dynn cyn eu hailgylchu. Tynnwch unrhyw ddarnau bwyd o’r ffoil cyn ei ailgylchu. Dylech wacáu a golchi cynwysyddion ffoil.

  1. Meddyliwch am y bwyd yn gyntaf dros y Nadolig

Gallwch ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw beth sy’n weddill o’ch cinio Nadolig (na ellir ei fwyta’n ddiogel yn ddiweddarach), yn ogystal ag unrhyw wastraff bwyd arall gan gynnwys bagiau te a grownds coffi, masgal wyau, crafion a chalonnau ffrwythau, a hen fara. Gwnewch yn siŵr eu bod yn mynd yn eich cadi gwastraff bwyd ac nid yn y bin. Mae 80% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd yng Nghymru ac mae un cadi sy’n llawn gwastraff bwyd yn gallu darparu digon o ynni i gyflenwi teledu am ddwy awr.

  1. Daliwch ati i wasgu caniau y Nadolig hwn

Pa un a ydych chi’n yfed diod alcoholig neu ddiod feddal y Nadolig hwn, cofiwch ailgylchu eich caniau. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i gyflenwi sugnwr llwch am awr.

  1. Cofiwch am y gwydrau

Mae gwydr yn hawdd i’w ailgylchu – gellir ei ailgylchu’n gynnyrch newydd dro ar ôl tro. Golchwch boteli gwydr gwin, cwrw a diodydd meddal gwag a rhowch y caead, y clawr neu’r cap nôl arnynt cyn eu rhoi yn eich ailgylchu. Gellir ailgylchu jariau picl, siytni a phupur a halen ac ati hefyd.

  1. 9. Ailgylchwch eich tybiau siocled plastig

Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel o blastig sydd wedi’i ailgylchu yn hytrach na defnyddio deunyddiau crai. Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o blastig, gan gynnwys y tybiau mawr o siocledi a losin sydd gennym yn ein cartrefi yn ystod y Nadolig. Os ydych yn rhannu eich eitemau i’w hailgylchu i gynwysyddion ar wahân, rhowch y rhain yn eich cynhwysydd ar gyfer ‘plastigau a chaniau’. Tynnwch unrhyw bapur lapio yn gyntaf.

  1. Coed Nadolig

Gellir ailgylchu 100% o goed Nadolig ‘go iawn’. Holwch eich cyngor lleol a allant eu casglu gyda’ch gwastraff gardd neu a allwch fynd â hwy i’ch canolfan ailgylchu leol. Dylid rhoi coed Nadolig plastig sydd â goleuadau ynddynt, neu heb oleuadau ynddynt, gyda’r plastig caled yn eich canolfan ailgylchu leol.

  1. Pecynnau calendrau Adfent

Pan fyddwch wedi agor y drws olaf ar eich calendr Adfent ac rydych yn barod i gael gwared ar y pecyn, dylech wahanu’r cardbord oddi wrth yr hambwrdd mewnol. Gellir gwasgu’r pecyn cardbord allanol yn wastad a’i ailgylchu. Ni ellir ailgylchu’r hambwrdd mewnol, felly rhowch hwnnw yn eich bin sbwriel cyffredinol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

  1. Cardiau Nadolig ac amlenni

Gellir ailgylchu cardiau Nadolig ond tynnwch unrhyw rubanau, clymau, gliter neu ffoil cyn eu rhoi ymysg eich ailgylchu. Os yw eich papur a cherdyn yn cael eu hailgylchu ar wahân, rhowch gardiau yn eich cynhwysydd cardbord a rhowch amlenni yn eich cynhwysydd papur.

Nodiadau i olygyddion

*Statistics Wales (INSERT WEBLINK) Please note this figure does not include waste figures from Cardiff Council during April-June 2020 as it was the only local authority that did not collect recycling during this time

** WRAP Recycling Tracker Results October 2020. These figures are based on early estimates from the tracker and may change on publication of full data set.

***WasteDataFlow www.wastedataflow.org.   The data published on a quarterly basis is provisional and subject to revisions until finalised figures for the financial year have been published.  The figures relate to the period April to June 2020 compare to the same period from the previous year. Please note this figure does not include waste figures from Cardiff Council during April-June 2020 as it was the only local authority to suspend recycling during this time

Wales Recycles is a national recycling campaign delivered by environmental charity, WRAP.