English icon English

Adolygiad o Wariant y DU – Llywodraeth Cymru yn galw am degwch i Gymru a’i gweithwyr rheng flaen

Welsh Government calls for a fair deal for Wales and its front line workers ahead of UK Spending Review

Cyn datganiad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru yn annog y Canghellor i beidio â rhewi cyflogau’r sector cyhoeddus ac i ddarparu’r cyllid sydd ei angen ar Gymru i ddiogelu ein hiechyd, ein swyddi a chefnogi adferiad teg.

Mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi galw ar y Canghellor i ddefnyddio pwerau Trysorlys y DU i gefnogi’r gweithwyr rheng flaen sydd wedi aberthu cymaint eleni. Mae gweithwyr ar draws y GIG, ysgolion, colegau a chynghorau lleol i gyd yn parhau i chwarae rhan hanfodol yng nghanol pandemig byd-eang i helpu i achub bywydau a chynnal gwasanaethau. Dylid eu cydnabod am yr ymdrech hon, nid eu gorfodi i ysgwyddo’r bil.

Mewn llythyr at y Canghellor, mae’r Gweinidog Cyllid hefyd wedi galw am ymrwymiadau ar unwaith ar gyfer Cymru ynghylch:

  • cyllid hirdymor i roi sicrwydd i gymunedau yng Nghymru y mae stormydd dwys a materion diogelwch tomenni glo wedi effeithio arnynt
  • gwireddu addewidion ynglŷn â chyllid yn lle cyllid yr UE
  • hyblygrwydd cyllidebol i sicrhau y gellir targedu cyllid presennol lle y mae ei angen, pan fo ei angen

Wrth siarad cyn y cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:

“Rydym yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, yn sgil y niwed a achoswyd gan bandemig y coronafeirws, a’r ansicrwydd ynglŷn â diwedd cyfnod pontio’r UE.

“Gyda’r adferiad economaidd yn y fantol, mae angen ymrwymiad pendant arnom y bydd Cymru yn cael cyllid digonol i fynd i’r afael â’r heriau hyn a chefnogi adferiad teg.”

Gwnaeth y Gweinidog hefyd annog y Canghellor i roi sicrwydd i gymunedau Cymru ynglŷn â’r cyllid sydd ei angen ar gyfer costau atgyweirio yn sgil llifogydd a chostau diogelwch tomenni glo.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Cymunedau yng Nghymru gafodd eu taro galetaf gan y stormydd ym mis Chwefror ac mae gwaddol y tomenni glo yn golygu cost anghymesur i Gymru sy’n bodoli ers cyn datganoli. Nid yw’r ffactor ar sail anghenion yn fformiwla Barnett yn addas ar gyfer y costau hyn, gan nad oedd y fformiwla i fod i ddelio â’r mater gwaddol sylweddol hwn.  

“Rydym wedi rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol ar gyfer y gwaith sydd ei angen ar unwaith, ond gall y Canghellor ddefnyddio’r datganiad hwn i ddarparu setliad hirdymor sydd, o’r diwedd, yn cydnabod pryder y cymunedau dan sylw.” 

Wrth i ddiwedd cyfnod pontio’r UE ddynesu, pwysleisiodd y Gweinidog alwadau Llywodraeth Cymru i San Steffan barchu datganoli a chadw at yr ymrwymiad i ddarparu union yr un faint o gyllid yn lle cyllid yr UE. Gan fod ffermio a chymunedau gwledig wrth wraidd ein heconomi, Cymru fydd yn cael ei tharo galetaf os na fydd cyllid digonol yn cael ei ddarparu.

Bydd y cyfrifoldeb dros ddosbarthu’r cyllid a ddaw yn lle’r cronfeydd strwythurol yn rhan ganolog o’r adferiad ar ôl COVID-19 a dylai fod wedi’i ddatganoli’n llawn. Byddai unrhyw ymdrech i ddiystyru Llywodraeth Cymru a gwario’n uniongyrchol yng Nghymru ar faterion datganoledig yn tanseilio’r setliad datganoli yn llwyr. Mae’n bygwth blynyddoedd o waith caled gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu fframwaith buddsoddi rhanbarthol newydd i ddiwallu anghenion ei phobl, ei chymunedau, a’i busnesau.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Rhaid i Lywodraeth y DU wireddu addewidion a wnaed droeon na fyddai Brexit yn arwain at golli unrhyw gyllid na phwerau datganoledig. Rhaid i Gymru beidio â cholli ceiniog o ganlyniad i adael yr UE.

“Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â thegwch a chydraddoldeb rhanbarthol yna byddem hefyd yn croesawu camau ganddi i wireddu ei hymrwymiad blaenorol i fynd i’r afael â’r diffyg buddsoddi hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.”

Yn olaf, parhaodd y Gweinidog i bwyso am hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol i helpu i wneud y mwyaf o adnoddau Llywodraeth Cymru i ymateb i’r pandemig wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol ddynesu. Cefnogir yr alwad hon gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, TUC Cymru a Phwyllgor Cyllid trawsbleidiol y Senedd.