English icon English

£2.6m ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Extra £2.6m for local authorities to support Council Tax Reduction Scheme

Mae cynghorau lleol ym mhob rhan o Gymru yn mynd i gael £2.6m ychwanegol i’w helpu i ddiwallu’r cynnydd yn y galw am gymorth o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.   

Gyda nifer mawr o aelwydydd yn wynebu toriad yn eu hincwm neu ddiweithdra oherwydd y pandemig, mae’r cynllun yn dal i fod yn gwbl hanfodol i helpu llawer o aelwydydd incwm isel yng Nghymru i oroesi.

Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y cymorth COVID-19 ar gyfer y Cynllun i bron i £5.5m. Bydd yn helpu awdurdodau lleol i reoli’r cynnydd yn y galw am gymorth o dan y Cynllun, heb effeithio ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu eisoes.  

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

“Bydd y cymorth ychwanegol rydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi i awdurdodau lleol y sicrwydd ariannol sydd ei angen arnyn nhw i barhau i gefnogi’r rheini sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf drwy ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

“Hoffwn i annog pob un sy’n meddwl y gallai fod yn gymwys i gael cymorth gyda biliau’r dreth gyngor i gysylltu â’i gyngor am ragor o wybodaeth.”

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol i ddeall effeithiau tymor hwy y cynnydd yn y galw ar y Cynllun, ac i asesu faint o effaith yn union y bydd unrhyw ostyngiad yn y dreth gyngor a gesglir yn ei chael ar awdurdodau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd CLlLC dros Gyllid ac Adnoddau:

"Mae’r cynghorau'n gwybod bod llawer o bobl wedi dioddef caledi ariannol yn ystod y cyfnod hwn ac rydyn ni eisiau i bobl wybod ein bod ni yma i helpu. Mae hwn yn gyfnod anarferol iawn ac rydym yn gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth ledled Cymru. Os ydych yn cael trafferth talu eich treth gyngor, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael."