English icon English

Unwaith eto, ansawdd dŵr ymdrochi Cymru’n wych – 100% am y drydedd flwyddyn o’r bron

Another great result for Wales’ bathing water quality - 100% record hit for third year running

Unwaith eto, mae 100% o holl draethau Cymru’n cydymffurfio â’r safonau ansawdd uchel ar gyfer dŵr ymdrochi.

O’r 105 o draethau oedd yn rhan o sampl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), barnwyd bod 84 yn rhagorol, y categori uchaf, 14 yn dda a 7 yn ddigonol, sy’n golygu bod Cymru wedi sicrhau bod ansawdd ei dŵr ymdrochi yn uchel am y drydedd flwyddyn o’r bron.

Cyrraedd y categori rhagorol fydd un o’r gofynion ar gyfer cael ymgeisio am wobr y Faner Las ar gyfer 2021.

Er i bandemig y COVID-19 ohirio dechrau’r tymor ymdrochi yng Nghymru, sicrhaodd CNC bod samplau’n cael eu codi ym mhob un o’r 105 o safleoedd ymdrochi o fis Mehefin.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: “Mae Cymru’n adnabyddus trwy’r byd am ei harfordir trawiadol a’i dyfroedd ymdrochi glân. Rwy’n falch mai yng Nghymru o hyd y mae rhai o’r dyfroedd ymdrochi gorau yn Ewrop – ac ni fyddem wedi sicrhau’r canlyniadau cyson hyn heb waith caled ein partneriaid. Mae pob un ohonynt yn haeddu ein diolch.

“Rwy’n arbennig o falch o CNC a’r gwaith hanfodol y gwnaethon nhw ei wneud i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd, tra’n parhau â’r rhaglen profi ansawdd dŵr er gwaetha’ anawsterau pandemig y COVID-19.”

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Er ein bod yn gwybod bod cyfyngiadau COVID-19 wedi effeithio ar ein sector twristiaeth a lletygarwch, mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod Cymru’n dal i weithio’n galed i gynnal ansawdd ein dyfroedd ymdrochi – a disgwyliwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r dyfroedd hyn cyn gynted â phosibl.

“Mae hyn yn arwydd ardderchog o’r hyder yng nghyflwr ein harfordir ac yn y cydweithio rhwng cymunedau, rheoleiddwyr a phartneriaid eraill i ddiogelu ein hasedau naturiol.”