- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
10 Awst 2023
Bydd pobl sy’n teithio yng ngogledd Cymru a Chilgwri yn ei chael hi’n haws fyth prynu eu tocynnau trên gan fod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag wyth o fusnesau lleol.
Mae cynllun Payzone yn galluogi siopau lleol i werthu tocynnau trên yn ogystal â’u cynnyrch arferol.
Mae’n golygu y gall pobl sy’n dymuno teithio, brynu eu tocynnau ymlaen llaw a thalu gydag arian parod neu gerdyn heb ruthro yn yr orsaf.
Mae’r rhan fwyaf o’r manwerthwyr o fewn taith gerdded 15 munud i orsaf.
Gall cwsmeriaid brynu tocynnau ymlaen llaw neu ar y diwrnod yn y siopau, yn ogystal â thocynnau ar gyfer grŵp bach. Maen nhw hefyd yn gallu cael gostyngiadau gyda’u cardiau rheilffordd yno.
Mae siopau yn Wrecsam, Gwersyllt, Bwcle, Penarlâg, Pont Penarlâg, Shotton, Neston a Upton ymhlith y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun.
Dywedodd Rheolwr Adwerthu Cymunedol TrC, Charlotte Yarnold, mai pwrpas y cynllun ydy rhoi cymaint o opsiynau â phosibl i gwsmeriaid yn ogystal â chefnogi busnesau lleol.
Dywedodd: “Rydyn ni eisiau rhoi cymaint o ddewis â phosibl i gwsmeriaid wrth brynu eu tocynnau.
“Mae rhai pobl yn gyfforddus yn prynu eu tocynnau trwy ddefnyddio apiau neu beiriannau ond rydyn ni’n gwybod bod yn well gan eraill ryngweithio â phobl.
“Mae ein partneriaeth â Payzone yn golygu y gallwn roi’r dewis i’n cwsmeriaid mewn ardaloedd lle nad oes swyddfa archebu leol o bosibl. Bydd hyn hefyd yn helpu i ddenu ymwelwyr i’r busnesau hynny, sy’n eithriadol o bwysig i ni gan fod y cymunedau wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud.”
Mae pwysigrwydd y bartneriaeth hon hefyd yn cael ei nodi yn y Cynllun ymrwymiad pum pwynt TrC, i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Ym mis Mehefin, fe ymrwymodd TrC i wneud cyfres o welliannau yn yr ardal, gan gynnwys sicrhau bod prynu tocynnau mor hawdd â phosibl.