- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
04 Awst 2023
Mae cyrraedd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gyda trafnidiaeth gyhoeddus hyd yn oed yn haws erbyn hyn diolch i bartneriaeth rheilffordd a bws integredig newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac Adventure Travel, sy'n rhedeg gwasanaeth bws 905.
Gall defnyddwyr sydd am deithio i'r maes awyr ddal y trên i'r Rhws (Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd) a chysylltu â'r gwasanaeth bws 905 o'r orsaf i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd gan ddefnyddio dim ond un tocyn. Mae'r tocynnau newydd wedi'u halinio â'r amserlenni rheilffyrdd a bws. Yn syml, yr oll sy'n rhaid ei wneud yw dewis Cardiff Air Ria fel eich taith tarddiad neu gyrchfan er mwyn dod o hyd i docyn.
Cyfanswm yr amser teithio o Gaerdydd Canolog yw 43 munud, gyda thocynnau sengl yn costio dim ond £ 7.20.
Gall cwsmeriaid sy'n defnyddio'r llwybr yn rheolaidd hefyd elwa o docyn tymor saith diwrnod, mis neu flwyddyn o hyd sy'n cysylltu'r gwasanaethau trên a bws.