- Cwcis sydd wir eu hangen
Cwcis sydd wir eu hangen
Mae rhai o’n cwcis yn hanfodol ac ni fydd rhannau o’r safle’n gweithio hebddynt. Mae hyn yn cynnwys cofnodi eich dewisiadau cadw cwcis.
21 Awst 2023
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) a Croeso Cymru wedi dod ynghyd i annog teithwyr i ddefnyddio'r trên i ymweld â rhai o leoliadau twristiaeth gorau'r wlad ac ymestyn y tymor twristiaeth prysur i'r hydref.
Mae'r ymgyrch newydd yn canolbwyntio ar bedwar lleoliad trawiadol, Aberystwyth, Conwy, Cas-gwent a Dinbych-y-pysgod.
Maent i gyd yn hawdd eu cyrraedd ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru a gyda chynigion gan gynnwys 50% oddi ar bris tocyn trên Advance, taith dren i’r plant am ddim a mynediad 2 am bris 1 i safleoedd Cadw ledled Cymru, maent yn cynnig gwerth rhagorol am arian.
Wrth groesawu'r bartneriaeth newydd, dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth:
“Mae ymweld â Chymru ar y trên yn ffordd wych o deithio i rai o'n cyrchfannau gwyliau mwyaf eiconig. Gyda’r cynnig ‘plant i deithio am ddim’, mae'n opsiwn fforddiadwy i deuluoedd sydd am wneud y gorau o wythnosau olaf gwyliau'r haf, cynllunio gwyliau'r hydref neu aros yn hirach i fwynhau hwyl rhagorol ac anturiaethau cyffrous.
"Rwy'n falch iawn bod Croeso Cymru yn cydweithio â Thrafnidiaeth Cymru i hyrwyddo’r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.”
Dywedodd Victoria Leyshon, Rheolwr Marchnata Partneriaeth TrC: “Pleser o'r mwyaf yw gallu gweithio gyda Croeso Cymru i arddangos y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig a helpu pobl i deithio'n fwy cynaliadwy ar drafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae gennym rai cynigion rhagorol i arbed arian ar docynnau trên ac ynghyd â'n cynigion partner ar gyfer mynediad i atyniadau, mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae gan wefan TrC awgrymiadau a chynghorion am bethau i'w gwneud a ffyrdd o dreulio penwythnos ym mhob un o'r pedwar lleoliad.